Mae barnwyr wedi gwyrdroi euogfarnau 39 o gyn-bostfeistri a oedd wedi cael eu cyhuddo o ddwyn, twyll, a chadw cyfrifon ffug.

Cafodd bywydau’r is-bostfeistri eu “difetha’n llwyr” ar ôl cael eu herlyn yn sgil diffygion yn system gyfrifon Horizon, oedd yn cael ei defnyddio gan Swyddfa’r Post.

Rhwng 2000 a 2014, cafodd 768 o is-bostfeistri eu herlyn, a chafodd nifer eu carcharu.

Roedd Noel Thomas, Damien Peter Owen, a Lorraine Williams ymhlith cannoedd gafodd eu cyhuddo ar gam gan Swyddfa’r Post, a chafodd euogfarnau’r tri eu gwyrdroi heddiw.

Cafodd Noel Thomas o Gaerwen, Ynys Môn, ei garcharu ar gam yn 2006 ar ôl cael ei gyhuddo o ddwyn £48,000 gan Swyddfa’r Post, a dywedodd wrth y BBC heddiw ei fod wedi mynd i’r llys er mwyn clirio ei enw.

“Dyfal donc a dyrr y garreg”

Yn achos llys gwreiddiol Noel Thomas, fe wnaeth Swyddfa’r Post ollwng y cyhuddiad o ddwyn yn ei erbyn, ac ar gyngor cyfreithiol fe blediodd  yn euog i gadw cyfrifon ffug gan obeithio osgoi carchar.

Ond cafodd ei ddedfrydu i naw mis yn y carchar, ac fe gafodd ei wneud yn fethdalwr.

A bu’n trafod ei drafferthion gyda’r BBC.

“Mae hi wedi bod yn un-flwyddyn-ar-bymtheg â dweud y gwir, ac am y pedair blynedd gyntaf doeddwn i ddim yn gwybod am neb [arall oedd wedi ei erlyn ar gam,” meddai Noel Thomas.

“Wrth lwc, fe ddaru Taro Naw wneud rhaglen drwy Sion Tecwyn, ac o fan yno gefais i hyd i lawer un arall oedd yn yr un broblem.

“Mi gafon ni hyd i bobol oedd yn yr un sefyllfa, a dyfal donc a dyrr y garreg – rydan ni wedi cyrraedd.”

Mae ymchwiliad wedi cael ei sefydlu a fydd yn “creu cofnod clir o fethiannau Horizon, ac asesu pa wersi sydd wedi eu dysgu gan Swyddfa’r Post”, gyda disgwyl i’r canfyddiadau gael eu cyhoeddi yn yr haf.

Wedi penderfyniad y llys heddiw, mae’n debygol y bydd y cyn is-bostfeistri yn dwyn achos sifil o’r newydd yn erbyn Swyddfa’r Post, gan alw am swm sylweddol o arian am y niwed a gafodd ei achosi.

Disgwyl i’r Llys Apêl wyrdroi euogfarnau cyn-is-bostfeistri

Cafodd yr is-bostfeistri eu dyfarnu’n euog o ddwyn, twyll, a chadw cyfrifon ffug oherwydd diffygion yn system gyfrifon Swyddfa’r Post