Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi cwyno fod Keir Stamer, sydd “ddim yn sefyll yn etholiad y Senedd”, wedi derbyn “sylw helaeth” gan BBC Cymru neithiwr.
Roedd Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn ymweld â Wrecsam gyda Mark Drakeford ddoe (Ebrill 22).
Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod pleidiau sydd heb arweinydd yn Llundain yn “cael eu cosbi” drwy dderbyn llai o sylw.
Mewn llythyr at Rhodri Talfan Davies, Pennaeth BBC Cymru, gofynna’r Aelod Seneddol “pa ystyriaeth y mae BBC Cymru wedi’i rhoi i gydbwyso sylw i bleidiau eraill sydd ddim ond ag arweinydd sy’n byw a gweithio yng Nghymru?”
“System dwy haen” wedi datblygu
“Ddoe, rhoddodd BBC Cymru sylw helaeth i wleidydd nad yw’n sefyll yn etholiad y Senedd, ac sydd wastad wedi ymbellhau oddi wrth benderfyniadau a wnaed gan ei blaid ei hun yng Nghymru,” meddai Liz Saville Roberts yn ei llythyr.
“O ystyried felly bod Keir Starmer wedi cael sylw mor amlwg, pa ystyriaeth y mae BBC Cymru wedi’i roi i gydbwyso sylw i bleidiau eraill sydd ddim ond ag arweinydd sy’n byw a gweithio yng Nghymru?
“Mae’n ymddangos bod system dwy haen wedi datblygu lle mae’r pleidiau sydd heb arweinydd yn Llundain yn cael eu cosbi gyda llai o sylw.
“Gan nad ydw i wedi fy nghyfyngu i ymweliad un diwrnod o brifddinas gwlad arall, rydw i’n rhydd i gwrdd â newyddiadurwr o’r BBC i drafod gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer Cymru.”
“Digwyddiad arwyddocaol”
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru:
“Roedd ymweliad Keir Starmer â Wrecsam yn ddigwyddiad arwyddocaol o fewn cyd-destun yr etholiad.
“Cyflwynwyd ystod o safbwyntiau ynghylch yr ymweliad, gan gynnwys safbwynt Plaid Cymru.
“Mae canllawiau etholiadol y BBC yn gosod fframwaith i newyddiadurwyr gynhyrchu adroddiadau diduedd ac annibynnol i gynulleidfaoedd o’r ymgyrch ar ei hyd, gan roi sylw teg a chraffu trylwyr o bolisïau ac ymgyrchoedd yr holl bleidiau.
“Fe fyddwn yn ateb yr ohebiaeth yr ydym wedi ei derbyn gan Liz Saville Roberts AS maes o law”.