Mae Mark Drakeford wedi defnyddio cynhadledd i’r wasg i gadarnhau nifer o newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru.

Ac mae Cyfarwyddwr CBI Cymru ac un o dafarnwyr y gogledd wedi croesawu’r camau diweddaraf.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd chwe pherson o wahanol aelwydydd yn gallu cwrdd o ddydd Sadwrn (Ebrill 24) ymlaen.

Mae ef hefyd wedi cadarnhau y bydd modd i dafarndai a bwytai agor y tu allan ddydd Llun (Ebrill 26).

Ymysg newidiadau eraill sy’n dod i rym ddydd Llun, bydd hyd at 30 o bobol yn cael mynychu digwyddiadau y tu allan, gan gynnwys priodasau ac angladdau.

Bydd atyniadau yn yr awyr agored hefyd yn cael ailagor, a chaiff campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio ailagor

Newid arall sy’n dod i rym dydd Llun yw bod dau berson – yn hytrach nag un – yn cael ymweld â thrigolion cartrefi gofal.

Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 3 erbyn Mai 3

Cadarnhaodd Mark Drakeford y bydd Cymru wedi symud i Lefel Rhybudd 3 erbyn Mai 3.

Bryd hynny, bydd Campfeydd a chanolfannau yn cael ailagor gan ganiatáu hyfforddiant unigol neu ddosbarthiadau o hyd at 15 o bobol.

Bydd pobol yn cael hawl i ffurfio cartref estynedig gydag un aelwyd arall

Ar ben hynny, bydd digwyddiadau dan do i blant a digwyddiadau ar gyfer hyd at 15 o oedolion dan do yn ailddechrau, tra bod canolfannau cymuned hefyd am gael hawl i ailagor.

Newidiadau o Fai 17

Ychwanegodd Mark Drakeford ei fod yn disgwyl y bydd modd llacio rhagor o gyfyngiadau yn dilyn yr adolygiad nesaf ar Fai 13.

Ond pwysleisiodd mai dyletswydd Llywodraeth nesaf Cymru fyddai cadarnhau rhagor o lacio ar Fai 13.

Mae Etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal ar Fai 6.

Mae’r Prif Weinidog yn rhagweld y bydd y sector lletygarwch, megis tafarndai, bwytai, theatrau, a chaffis yn cael ailagor dan do.

Dywedodd bod disgwyl i lety gwyliau ac atyniadau dan do ailagor hefyd.

Mae hefyd yn darogan y bydd modd cynyddu nifer y bobol all fynychu digwyddiadau, megis angladdau a phriodasau i 30 o westeion dan do a 50 yn yr awyr agored.

Byd busnes yn croesawu’r broses o gyflymu codi’r cyfyngiadau

Mae’r byd busnes wedi croesawu’r broses o gyflymu codi’r cyfyngiadau yng Nghymru.

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru: “Bydd perchnogion busnes yn croesawu’r gwaith o leddfu mesurau cyfyngiadau symud penodol, yn enwedig y rheini yn y sectorau hamdden a lletygarwch sydd wedi dioddef waethaf.

“Gyda chyfraddau Covid yn gostwng a’r rhaglen frechu yn perfformio’n dda, bydd cyflogwyr a defnyddwyr yn gallu edrych ymlaen at fisoedd yr haf gydag optimistiaeth o’r newydd yn dilyn blwyddyn anodd.”

Ac wrth siarad â golwg360, dywedodd Richard Tudor Hughes, perchennog tafarn Bar Bach yng Nghaernarfon: “Dw i’n hapus iawn, sgen i ddim un cwyn o gwbl am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

“Dw i’n meddwl bod Mark Drakeford wedi gwneud job dda iawn. Ydi. mae pawb angen yr arian ond be’ ydy’r pwynt mynd yn ôl i’r un twll eto… dyna fysa’n ddigalon.

“Maen nhw’n bod yn ddigon pwyllog a dw i’n hapus iawn gyda hynny.”

Bydd Bar Bach yn agor y tu allan o ddydd Llun, a dechrau gweini dan do o bosib ar Fai 17, ond fydd Richard Tudor Hughes ddim yn ceisio llenwi ei seti tu allan i gyd.

“Rydan ni’n bwriadu ei wneud o’n bwyllog iawn… cael rhyw 15 tu allan am rŵan a gwneud yn siŵr ein bod ni mewn rheolaeth oherwydd rydan ni’n gorfod meddwl am y staff a’r cwsmeriaid.

“Bydd hynny’n rhoi cyfle i ni weld os oes problemau a dysgu yn gyflym os oes angen gwneud newidiadau.

“Gawn ni weld sut mae hi’n mynd.”

Llafur “wedi rhedeg allan o stêm”

Wrth ymateb i sylwadau Mark Drakeford, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George:

“Yn anffodus, mae’r coronafeirws wedi amlygu’r problemau yn economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru sydd wedi cael eu hachosi gan gan 22 mlynedd o reolaeth Lafur ym Mae Caerdydd.

“Gyda datganiad Mark Drakeford bod y pandemig bellach ar ben, mae’n amlwg y bydd ein hadferiad economaidd nawr yn cymryd y flaenoriaeth.

“Mae record Llafur Cymru yn dangos eu bod wedi rhedeg allan o stêm ac nad oes ganddyn nhw unrhyw gynllun i ddatrys problemau dwfn Cymru, yn enwedig o ran yr economi a swyddi.

“Dim ond y Ceidwadwyr sydd â chynllun i adeiladu economi gryfach gyda mwy o swyddi, gwell seilwaith a chyflogau uwch.”

Ffigyrau diweddaraf

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu na chafodd un farwolaeth yn ymwneud â Covid-19 ei chofnodi yn ystod yr 24 awr ddiwethaf.

Fodd bynnag, cafodd 58 achos newydd o’r feirws ei gadarnhau, gan ddod â nifer yr achosion yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 211,162.

Mae 5,543 o bobol wedi marw ar ôl cael eu heintio â’r coronafeirws yng Nghymru yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ac mae’r gyfradd achosion dros saith diwrnod fesul 100,000 o’r boblogaeth ar gyfer Cymru gyfan bellach ar 14.7.