Mae’r rheithgor yn achos dyn 32 oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 16 oed mewn siop têcawê yng Nghwm Rhondda wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Bu farw Wenjing Lin – oedd hefyd yn cael ei hadnabod wrth yr enw Wenjing Xu – yn Ynyswen ar Fawrth 5.

Yn Llys y Goron Merthyr, mae Chun Xu wedi’i gyhuddo o lofruddio’r ferch ac o geisio llofruddio’i llystad, Yongquan Jiang.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o niweidio Yongquan Jiang yn fwriadol.

Roedd Wenjing Lin yn byw uwchlaw’r siop gyda’i mam, Meifang Xu, a Yongquan Jiang.

Mae Xu yn gwadu’r cyhuddiadau, ond fe blediodd yn euog i ddynladdiad Wenjing Lin ac o niweidio Yongquan Jiang yn anghyfreithlon.

Roedd Xu yn cael ei ystyried yn aelod o’r teulu gan fod eu rhieni’n byw drws nesaf i’w gilydd yn Tsieina, ond dydyn nhw ddim yn perthyn.