Dylai gyrru lluniau noeth graffig i bobol heb eu caniatâd fod yn drosedd ynddi’i hun, meddai Bumble, ap er mwyn canfod cariadon.

Mewn rhai achosion, mae modd cyhuddo pobol o yrru lluniau anweddus dros y we, cyberflashing, dan gyfreithiau troseddau rhyw neu voyeuriaeth.

Mae’r weithred yn effeithio ar fenywod yn anghymesur, yn ôl ystadegau newydd gan Research With Barriers.

Yn ôl yr ymchwil, fe wnaeth bron i hanner (48%) o fenywod rhwng 18 a 24 oed yn y Deyrnas Unedig dderbyn llun anweddus heb ofyn amdano yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ar hyn o bryd, mae modd i droseddwyr gael eu dedfrydu i ddwy flynedd o garchar yng Nghymru a Lloegr am rai troseddau sy’n ymwneud â lluniau dan Ddeddf Troseddau Rhyw 2003.

Yn yr Alban, mae hi’n drosedd benodol gyrru lluniau o organau rhyw (genitals) ers dros ddegawd, ac mae ap Bumble yn dweud y byddai gwneud yr un fath yng Nghymru a Lloegr yn gwneud mwy i atal pobol rhag gyrru’r fath luniau.

‘Annifyr ac anghyfforddus’

Yn aml, mae’r lluniau’n cael eu gyrru dros y cyfryngau cymdeithasol, aps cyfathrebu, neu hyd yn oed i ddieithriaid dros Bluetooth neu AirDrop.

Dywed un fyfyrwraig, sydd am aros yn ddienw, wrth golwg360 fod y profiad o dderbyn llun heb ganiatâd, a heb unrhyw fath o rybudd, wedi gwneud iddi deimlo’n “anghyfforddus”.

“Mae hyn wedi digwydd sawl tro, ond y tro sy’n aros yn y cof fwyaf ydi’r amser pan wnaeth yna enw cyfarwydd ddod fyny ar Snapchat, wedi gyrru cais ffrind, ac wedyn fe wnes i dderbyn o,” meddai.

“Roedd yna lun wedi dod drwodd yn syth, dyma fi’n agor y llun, a dyna oedd o.

“Fe wnaeth o ddigwydd dros blatfform Snapchat, a dw i’n meddwl bod o’n digwydd amlaf yn fan honno. Roedd yr hen fersiwn, roeddech chi’n gyrru llun a munud roeddech chi wedi’i agor o roedd o wedi diflannu, doeddech chi methu’i weld o eto.

“Mae’r fersiwn newydd…. rydych chi’n gallu safio’r llun. Dw i’n meddwl bod pobol [sy’n gyrru lluniau heb ganiatâd] yn teimlo eu bod nhw’n saffach yn gwneud o dros fan honno lle doedd yna neb yn gallu safio’r llun.”

Fe wnaeth y profiad iddi deimlo’n “andros o annifyr”, ac effeithiodd ar ei hyder, meddai.

“Fe wnaeth o wneud i fi deimlo jyst yn andros o annifyr, dyla’ fo ddim bod wedi gwneud i fi deimlo’n annifyr achos doedd o ddim yn fai arna i o gwbl.

“Doedd yna ddim posib rhwystro fo, roedd o allan o’n rheolaeth i o gwbl, doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fo ddod drwodd, doeddwn i ddim isio fo.

“Fe wnaeth o wneud i mi deimlo reit anghyfforddus hefyd, gwneud i rywun golli hyder braidd.

“Mae’r gwefannau cymdeithasol yn grêt i wneud ffrindiau newydd, ond hefyd pan mae pethau fel yna’n digwydd, mae o’n gwneud i chi ailfeddwl a gwneud i rywun, efallai, deimlo’n isel, fysa chi’n ei ddweud, dim lot o hunan-barch – ond ddylai eich bod chi ddim yn gorfod teimlo fel yna os ydych chi’n derbyn un dydych chi ddim isio.”

‘Normaleiddio’

Wnaeth y fyfyrwraig ddim ystyried mynd at yr heddlu, a dywed fod y weithred wedi cael ei “ryw fath o normaleiddio gan gymdeithas”.

“[Maen] nhw’n cael eu gyrru, a dyna ni, rydych chi’n gorfod get on with it,” meddai.

“Dw i’n meddwl efallai fy mod i wedi sôn am y peth wrth fy ffrindiau, roedd o’n beth reit normal i ddigwydd.

“Dw i yn meddwl y dyla’ fo fod yn drosedd gwneud hynny.

“Yn enwedig pan mae o’n digwydd i bobol ifanc, mae o’n gallu cael effaith hirdymor ar bobol, effaith ar hyder pobol yn benodol dw i’n meddwl.

“Os fysa chi’n sbïo ar y gyfraith rŵan, mae o’n weithred rywiol sydd wedi digwydd heb ganiatâd. Does yna ddim consent yn ystod hynna,” meddai, gan ychwanegu y dylai fod yn drosedd ar ei phen ei hun.

“Hefyd dw i’n credu y dylai yna rywbeth gael ei wneud i hyrwyddo na ddylai hogiau wneud hynny, mae o angen cael ei bledu a’i roi allan yna – fod hogiau ddim i wneud hynny, achos dydi o ddim yn rhywbeth mae merched, neu hogiau eraill, isio ei weld.”

‘Effaith hirhoedlog’

Bydd Bumble yn gweithio gyda gwleidyddion, sefydliadau, ac aelodau o’r cyhoedd i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i greu cyfraith fyddai’n gwneud y weithred yn anghyfreithlon.

“Mae’r gofid y mae’n ei achosi yn cael effaith hirhoedlog, yn newid sut mae menywod yn amgyffred diogelwch ac yn ymwneud â’r we ar y cyfan,” meddai Bumble.

“Er syndod, dydi cyberflashing ddim yn anghyfreithlon yn yr un ffordd ag y mae dinoethi wyneb yn wyneb.

“Mewn sawl gwlad, mae dinoethi yn cael ei ystyried fel trosedd sy’n gallu cael ei chosbi gyda dirwyon, ac mewn rhai achosion, carchar.

“Yn yr Alban, mae cyberflashing wedi cael ei hystyried fel trosedd rywiol ers dros ddegawd.

“Os na fyddai dinoethi ar y stryd yn cael ei dderbyn – neu yn y swyddfa, neu mewn dosbarth – ni ddylai gael ei oddef yn eich mewnflwch.”

Mae Comisiwn y Gyfraith, sy’n argymell deddfau newydd i’r llywodraeth, wedi awgrymu y dylid diwygio’r Ddeddf Troseddau Rhywiol i gynnwys cyberflashing.

Byddai hynny’n debyg i’r hyn ddigwyddodd pan gafodd y Ddeddf Voyeuriaeth ei diwygio yn 2019 i gynnwys upskirting, sef y weithred o dynnu llun neu fideo o rywun dan eu dillad.