Fe wnaeth nifer y marwolaethau wythnosol yng Nghymru oedd yn ymwneud â Covid-19 aros yn gyson yn yr wythnos hyd at 29 Hydref.

Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar 81 o dystysgrifau marwolaeth yn yr wythnos honno, meddai ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr un faint yn union â’r wythnos flaenorol.

O’r holl farwolaethau gafodd eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 29 Hydref, roedd 11.6% ohonyn nhw’n crybwyll Covid-19.

O gymharu, dim ond Gogledd Iwerddon oedd â chyfran uwch o’i marwolaethau’n gysylltiedig â Covid, sef 15.6%, yn yr wythnos hyd at 29 Hydref.

Bu farw 701 o bobol yng Nghymru yn yr wythnos honno, sydd 11.6% (73 marwolaeth yn fwy) yn uwch na’r nifer cyfartalog o farwolaethau dros bum mlynedd.

Yn y cyfnod rhwng 13 Mawrth 2020 a 29 Hydref 2021, bu farw 59,910 o bobol yng Nghymru, ac roedd 8,646 (14.4%) o’r rhain yn crybwyll Covid-19.

Roedd hynny’n golygu bod 6,115 yn fwy o farwolaethau na’r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Rhwng Cymru a Lloegr, bu cynnydd mewn marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yn yr wythnos hyd at 29 Hydref, gyda 859 o farwolaethau o gymharu â 792 yr wythnos flaenorol.