Mae disgwyl i’r Llywodraeth yn San Steffan gyhoeddi y bydd staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn Lloegr yn cael eu gorfodi i gael brechlyn Covid-19.

Fe fydd disgwyl i’r staff gael dau ddos o’r brechlyn erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr Adran Iechyd na fyddai’n gwneud sylw am amseriad y cyhoeddiad, ond mae’r BBC yn dweud bod disgwyl iddyn nhw wneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw (Dydd Mawrth, 9 Tachwedd).

Serch hynny, mae swyddogion y GIG yn dweud eu bod yn disgwyl i hyn ddigwydd, gan effeithio miloedd o staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac sydd heb gael eu brechu.

Mae gweithwyr mewn cartrefi gofal yn Lloegr eisoes wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw gael eu brechu’n llawn erbyn dydd Iau.

Dywedodd prif weithredwr NHS Providers Chris Hopson bod rhwng 80,000 a 100,000 o weithwyr y GIG yn Lloegr sydd heb gael eu brechu a’i fod yn disgwyl cyhoeddiad gan y Llywodraeth heddiw. Ychwanegodd, os yw’n cael ei wneud yn y ffordd gywir fe allai arwain at ragor o bobl yn cael eu brechu.

Ond fe rybuddiodd y byddai “colli nifer sylweddol o staff” yn y GIG a’r gwasanaeth gofal yn achosi “problem fawr”.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Dominic Raab wedi gwrthod gwneud sylw am yr adroddiadau.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd a fydd y cyhoeddiad newydd yn cynnwys cannoedd ar filoedd o staff gofal iechyd – y tu allan i gartrefi gofal – sydd heb gael eu brechu’n llawn hyd yn hyn.