Cafodd dyn wnaeth ddisgyn ac anafu ei hun mewn ogof ym Mannau Brycheiniog  ei gludo i Ysbyty Treforys Abertawe neithiwr (nos Lun, 8 Tachwedd).

Nid yw ei anafiadau’n bygwth ei fywyd, ond credir ei fod wedi anafu ei ên, ei goes yn ogystal â’i gefn.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ddau ddiwrnod yn ôl wrth i’r dyn fynd i Ogof Ffynnon Ddu ger Penwyllt yn ardal Ystradgynlais ddydd Sadwrn (Tachwedd 6).

Sbardunodd hynny ymgyrch achub 54 awr, gydag oddeutu 70 o wirfoddolwyr yn helpu â’r ymdrech i’w achub.

“Mwy peryglus eistedd ar y soffa”

Mae’n debyg bod y dyn yn ogofawr profiadol. Dywedodd Steve Thomas, o Dîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru: “Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r amgylchedd rydyn ni’n ei fwynhau, dyw e ddim yn beth di-hid i’w  wneud,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Dyw e ddim yn fwy peryglus na dim byd arall.

“I fod yn onest dw i’n meddwl ei bod hi’n fwy peryglus eistedd ar y soffa yn gwylio’r teledu.”

240 o bobol

Roedd dros 240 o bobol yn rhan o’r gwaith achub, gan gynnwys o leiaf wyth tîm achub ogofâu o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Gweithiodd timau o achubwyr mewn shifftiau i achub y dyn ond nid oeddent yn gallu ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd oherwydd y tywydd.

Mae’r ogofâu sydd ger Penwyllt yn 300 metr o ddyfnder – y dyfnaf yn y Deyrnas Unedig.

Rhan o beiriant tan

Ceisio achub dyn o ogof ym Mannau Brycheiniog

Fe gwympodd gan anafu ei hun ddau ddiwrnod yn ôl