Mae dyn wedi’i gael yn euog o lofruddio Wenjing Lin, merch 16 oed, mewn siop têcawê yng Nghwm Rhondda.

Yn Llys y Goron Merthyr, mae Chun Xu, 32 oed, hefyd wedi’i gael yn euog o geisio llofruddio llystad y ferch, Yongquan Jiang, ar ôl ei drywanu sawl gwaith gyda chyllell.

Bu farw Wenjing Lin – oedd hefyd yn cael ei hadnabod wrth yr enw Wenjing Xu – yn dilyn digwyddiad yn siop têcawê Blue Sky Chinese yn Ynyswen ar Fawrth 5.

Roedd Wenjing Lin yn byw uwchlaw’r siop gyda’i mam, Meifang Xu, a Yongquan Jiang.

Roedd Xu wedi pledio’n euog i ddynladdiad Wenjing Lin ac o niweidio Yongquan Jiang yn anghyfreithlon ond yn gwadu cyhuddiad o lofruddio a cheisio llofruddio.

Roedd Xu yn cael ei ystyried yn aelod o’r teulu gan fod eu rhieni’n byw drws nesaf i’w gilydd yn Tsieina, ond dydyn nhw ddim yn perthyn.

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones QC bod ei weithredoedd wedi bod yn “fwriadol”. Roedd Thomas Crowther QC ar ran y diffynnydd wedi dadlau nad oedd Chun Xu wedi cynllunio i ladd Wenjing Lin a’i theulu.

Mae disgwyl iddo gael ei ddefrydu ddydd Gwener, 12 Tachwedd ac mae’r barnwr wedi rhybuddio ei fod yn wynebu cyfnod o garchar am oes.

Cefndir

Clywodd y llys fod Xu yn gamblo’n sylweddol, a bod arno fe £14,000 i deulu Wenjing Lin a Yongquan Jiang.

Aeth Xu i ymweld â’r teulu ac roedd ganddo fe gyllell yn ei feddiant.

Awr cyn yr ymosodiad, fe chwiliodd e ar Google am ateb i’r cwestiwn “A oes modd dinistrio olion bysedd mewn tân?”

Pan gafodd ei holi gan seicolegydd yn ddiweddarach i benderfynu a oedd e’n ddigon iach i gael ei holi gan yr heddlu, fe bwysleisiodd nad oedd e’n “bwriadu niweidio’r ferch fach”, gan ychwanegu ei fod e “eisiau dial ar ei mam”.

Fis Rhagfyr y llynedd, rhoddodd y teulu £20,000 i Xu i’w ddanfon i Tsieina i helpu’r teulu i dalu ffrind oedd am ddechrau busnes yn y Deyrnas Unedig.

Ond dim ond peth o’r arian anfonodd e, gan gamblo £14,000 cyn dechrau talu’r arian hwnnw yn ôl.

Ar Fawrth 4, ffoniodd e fam Wenjing i ofyn a gâi ymweld â nhw, ond fe rybuddiodd na ddylai sôn wrth neb arall am ei ymweliad.

Y noson honno, fe fu’r teulu’n bwyta swper gyda’i gilydd cyn mynd i’r gwely.

Y bore canlynol, fe wnaeth e ladd Wenjing Lin cyn ceisio lladd ei llystad Yongquan Jiang ar ôl ei ddenu i selar islaw’r siop drwy ofyn iddo am bysgodyn o’r oergell.

Yn y selar y dechreuodd yr ymosodiad ar Yonguan Jiang â dwy gyllell, ac fe wnaeth ei drywanu fe yn ei wddf a’i gorff.

Dywedodd mai “arian, arian, arian” oedd y rheswm am yr ymosodiad.

Er i’r gwasanaethau brys geisio rhoi triniaeth iddi, bu farw Wenjing Lin ar lawr y siop, a daethon nhw o hyd i Xu yn y gegin ar ôl iddo’i drywanu ei hun yn ei wddf.

Cafodd Xu driniaeth yn yr ysbyty cyn cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio.

Teyrnged

Wrth roi tystiolaeth mewn llythyr i’r llys, fe wnaeth Rhiannon Davies, athrawes Wenjing Lin yn Ysgol Gyfun Treorci ei disgrifio fel disgybl “eithriadol” oedd yn “gweithio’n galed”.

Dywedodd iddi glywed ei bod hi wedi cael gwers mathemateg ar y bore y bu farw.