Er bod cyfraddau Covid-19 yn disgyn yng Nghymru, maen nhw’n parhau yn “uchel iawn”, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan.
Ar hyn o bryd, mae tua 530 achos o Covid-19 i bob 100,000 person yng Nghymru.
Cyrhaeddodd y cyfraddau eu lefel uchaf erioed yng Nghymru ddiwedd fis Hydref, gydag ychydig dros 730 achos ym mhob 100,000 o’r boblogaeth.
Mae tua 800 o gleifion mewn ysbytai â Covid-19 ar y funud, meddai Eluned Morgan mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 9), a 72 ohonyn nhw mewn unedau gofal dwys.
Golyga hyn, pwysau’r gaeaf a’r ffaith fod nifer uchel o achosion brys, a bod ysbytai yn trio dal i fyny â thriniaethau, fod y Gwasanaeth Iechyd dan “bwysau anhygoel” yng Nghymru.
‘Pwysau anhygoel’
Pwysleisiodd Eluned Morgan yn ystod y gynhadledd ei bod hi am i’r cyhoedd ddeall bod ganddyn nhw gyfrifoldeb wrth geisio atal y Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei llethu, a hynny drwy dderbyn y brechlyn a dewis yn ddoeth wrth benderfynu lle i fynd er mwyn cael gofal iechyd.
“Dw i’n meddwl bod angen i’r cyhoedd ddeall bod ganddyn nhw gyfrifoldeb yma i gymryd y pwysau oddi ar y Gwasanaeth Iechyd, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n derbyn y cynnig i gael brechlyn, ond hefyd eu bod nhw’n chwilio am opsiynau eraill os nad yw’r argyfwng gwirioneddol,” meddai.
“Yn amlwg, rydyn ni’n cadw llygad ar y sefyllfa.
“Y rheol rydyn ni’n cadw ati’n gyson o ran a fydd rhaid i ni gyflwyno cyfnodau clo pellach y gaeaf hwn, fydd e i gyd i wneud efo a fydd y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei llethu.
“Mae hi dan bwysau anhygoel ar y funud, ac yn amlwg dydi’r gaeaf heb ddechrau’n iawn eto.”
Ychwanegodd Eluned Morgan fod y Llywodraeth “ychydig yn siomedig” nad oes mwy o bobol wedi derbyn y cynnig i gael eu brechu yn erbyn y ffliw eleni.
“Byddwn yn annog pobol i dderbyn y cyfle, ac rydyn ni wedi ehangu’r cyfle hwnnw i ystod oedran ehangach eleni oherwydd rydyn ni’n ofnus iawn, iawn y gallai’r pwysau hwnnw lethu’r Gwasanaeth Iechyd.”
Pasys Covid
Wrth dynnu sylw at gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI), dywedodd Eluned Morgan ei bod hi’n gwneud synnwyr gweithredu’n gynnar, ac mai dyna bwrpas ehangu’r defnydd o basys Covid.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn y mesur, ond dydi Plaid Cymru heb ddod i benderfyniad eto.
Er hynny, dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wrth BBC Cymru Fyw eu bod nhw’n debygol o gefnogi’r estyniad.
“Mae’r rhain i gyd yn lleoliadau dan do, lle mae angen tocyn, a lle mae pobol mewn cysylltiad agos ag eraill am gyfnodau hir,” meddai Eluned Morgan am sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
“Mae ymestyn y pasys Covid yn un ffordd arall o gryfhau’r mesurau sydd gennym ni yn eu lle ar Lefel Rhybudd 0, pan fo cyfraddau mor uchel â hyn i’n cadw ni’n saff a chadw Cymru ar agor.
“Rydyn ni’n gobeithio, gyda’r holl fesurau eraill sydd gennym ni yn eu lle, y bydd eu defnyddio’n helpu i ddod â’r coronafeirws dan reolaeth oherwydd rydyn ni eisiau gwneud popeth allwn ni i atal yr angen am fesurau pellach, mwy difrifol, o’r fath y gwelsom ni’r gaeaf diwethaf.”
“Rhagrith” y Ceidwadwyr
Wrth drafod y rhaglenni brechu, dywedodd Eluned Morgan fod naw ym mhob deg person yn y grwpiau blaenoriaeth un i naw wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn, a bod cynnydd da yn cael ei wneud gyda chynnig brechlynnau atgyfnerthu.
Mae’r byrddau iechyd yn gweithio’u ffordd drwy’r bobol sy’n gymwys am frechlyn atgyfnerthu yn nhrefn y flaenoriaeth yng Nghymru, meddai, a bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu’n awtomatig â phawb sy’n gymwys.
Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn credu bod angen i frechlynnau gael eu gwneud yn orfodol i weithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd, meddai Eluned Morgan.
“Rydyn ni’n gwybod yng Nghymru fod 95% o weithwyr iechyd wedi cymryd y cyfle i gael y ddau ddos o’r brechlyn, rydyn ni’n meddwl bod y lefelau hynny yn uchel iawn, rydyn ni’n fodlon gyda nhw, rydyn ni dal yn trio perswadio’r 5% arall ond bydd yna wastad rai pobol yn eu plith nhw sydd â rhesymau meddygol pam na fedran nhw gael y ddau ddos.”
“Be dw i’n ei weld yn syfrdanol yw bod gennych chi sefyllfa lle mae gennych chi Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu bod pobol yn y Gwasanaeth Iechyd yn cael dau ddos o’r brechlyn, ond eto mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gallu cerdded i mewn i ysbyty heb hyd yn oed wisgo mwgwd,” meddai Eluned Morgan.
“Dw i’n meddwl bod hyn yn tanlinellu lefel y rhagrith sy’n mynd ymlaen ymhlith y Llywodraeth Geidwadol.”
Daw ei sylwadau wedi i lun o Boris Johnson yn ymweld ag ysbyty heb fod yn gwisgo mwgwd ddoe (dydd Llun, Tachwedd 8) ddod i’r amlwg.
Er hynny, mae’r Dirprwy Brif Weinidog Dominic Raab wedi mynnu ei fod yn dilyn rheolau’r Gwasanaeth Iechyd.
Dywed datganiad ar gyfryngau cymdeithasol yr ymddiriedolaeth sy’n rhedeg yr ysbyty yn Hexham fod “atal a rheoli heintiadau yn flaenoriaeth” iddyn nhw.
“Fe wnaeth y Prif Weinidog, Boris Johnson, ddilyn mesurau llym, gan gynnwys gwisgo mwgwd, ymhob ardal glinigol y bu ynddi,” meddai’r datganiad.