Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi galw is-etholiad yng Ngogledd Sir Amwythig fis nesaf i ddewis olynydd i Owen Paterson yn dilyn ffrae am safonau.
Fe ddechreuodd busnes yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 9) wrth i chwip y Llywodraeth, Mark Spencer, gyhoeddi’r is-etholiad ar gyfer sedd wag Gogledd Sir Amwythig.
Fis diwethaf, fe ddyfarnodd Pwyllgor Safonau Trawsbleidiol y Senedd fod Owen Paterson wedi lobïo gweinidogion y Llywodraeth ar gyfer dau gwmni – Randox a Lynn’s Country Foods – oedd wedi talu mwy na £100,000 y flwyddyn iddo.
Roedd yn wynebu cael ei wahardd am 30 diwrnod ar ôl i bwyllgor safonau trawsbleidiol y Senedd ganfod ei fod wedi camddefnyddio ei swydd er budd dau gwmni yr oedd yn gweithio iddyn nhw.
Canlyniad y bleidlais oedd 250 i 232, mwyafrif o 18, i gymeradwyo’r gwelliant.
Ond dywedodd ei gyd-aelodau fod y system yn annheg, gyda’r Aelod Ceidwadol Andrea Leadsom yn cynnig gwelliant yn galw am adolygiad o’r achos.
Yn dilyn canlyniad y bleidlais, cafodd galwadau o “Cywilydd!” eu clywed o gyfeiriad meinciau’r wrthblaid.
Ymddiswyddo
Ar ôl cais gan y Llywodraeth i ohirio’r gwaharddiad tra hefyd yn ailwampio’r system safonau, cyhoeddodd Owen Paterson ei ymddiswyddiad o fod yn Aelod Seneddol dros etholaeth Gogledd Sir Amwythig.
Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal rhwng 21 a 27 diwrnod o heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 9).
Mae Gogledd Sir Amwythig wedi bod yn etholaeth ddiogel i’r Ceidwadwyr, gydag Owen Paterson wedi ei chadw ers 1997.
Sedd ar fin newid?
Ond mae’r ffrae safonau parhaus wedi rhoi gobaith i bleidiau eraill sy’n herio’r sedd.
Yn etholiad cyffredinol 2019, enillodd Owen Paterson bron i 63% o’r bleidlais gan guro Llafur o bron i 23,000 o bleidleisiau, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dod yn drydydd.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mark Spencer ei fod yn “galw ar y Llefarydd i rhoi ei warant i glerc y Goron i wneud gwrit newydd i ethol aelod i wasanaethu yn y senedd bresennol hon ar gyfer etholaeth Gogledd Sir Amwythig yn lle Owen William Paterson”.
Ailadroddodd y Llefarydd, Syr Lindsay Hoyle, y geiriau cyn i Aelodau Seneddol gymeradwyo’r cais yn ddiwrthwynebiad.
Does dim proses swyddogol i Aelod Seneddol ymddiswyddo o Dŷ’r Cyffredin, ac mae gwefan y senedd yn dweud “oni bai eu bod yn marw neu’n cael eu diarddel, rhaid iddynt gael eu diarddel os ydynt yn dymuno ymddeol cyn diwedd Senedd”.