Mae Delyth Jewell wedi ategu ei galwadau diweddar am adfer gonestrwydd yn y byd gwleidyddol.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, wedi bod yn mynnu bod angen ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar y camddefnydd o arian cyhoeddus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Daw hyn wedi i Boris Johnson wynebu cyfres o sgandalau yn ddiweddar.
“Fel arfer, fe allwn ni ymddiried yn y Llywodraeth beth bynnag eu lliw,” meddai.
“Ond yr unig ffordd mae datgelu ffaeleddau y Llywodraeth Brydeinig ar hyn o bryd, er mwyn datgelu’r patrwm o benderfyniadau amheus a’r diffyg gonestrwydd, yw cael ymchwiliad cyhoeddus,” meddai wrth golwg360.
Ymchwiliad Cyhoeddus
Fis diwethaf, cyhoeddodd Delyth Jewell fod angen ymchwiliad cyhoeddus i edrych ar y camddefnydd o arian cyhoeddus gan y Llywodraeth yn San Steffan.
Yn dilyn honiadau bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi bygwth atal arian ar gyfer ysgol yn etholaeth y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol Christian Wakeford ar ôl iddo adael y blaid, mae Delyth Jewell yn honni bod mwy o ddrwgweithredu dan y wyneb.
Daw’r cyhuddiad yn bennaf yn sgil honiadau am blacmêl gan chwipiaid Torïaidd dros yr wythnosau diwethaf.
Bythefnos yn ôl, fe wnaeth Christian Wakeford groesi o’r Blaid Geidwadol i Lafur, gan gyhuddo chwipiaid y Ceidwadwyr o ddefnyddio blacmêl yn ei erbyn dros fuddsoddiad mewn ysgol yn ei etholaeth.
“Mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn camddefnyddio arian cyhoeddus er mwyn cyflawni eu nodau mewnol eu hunain,” meddai.
“Mae digon o dystiolaeth i awgrymu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi defnyddio’r Gronfa Lefelu i Fyny, y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, Cronfa’r Dref a chyllid ysgolion mewn modd a allai fod wedi bod yn anghyfreithlon, gan ddefnyddio metrigau anhryloyw er mwyn gallu rhoi arian i etholaethau aelodau seneddol Torïaidd sy’n deyrngar i Boris Johnson.
“Mae angen cynnal ymchwiliad cyhoeddus i archwilio’r penderfyniadau ariannu hyn yn fanwl, gan fod yr hyn y gwyddom amdano yn debygol o fod yn domen i’r rhew yn unig a’r ofn a rennir ymhlith llawer yw y gallai biliynau o bunnoedd fod wedi’u cam-brisio.”
Galw am ymchwiliad?
Ond rhwng yr adroddiad i ymchwiliad Sue Gray yn cael ei gyhoeddi’n rhannol yr wythnos hon ac ymchwiliad Heddlu Llundain i bartïon yn Rhif 10 yn parhau, a oes yna alw ar lawr gwlad am ymchwiliad arall?
“Rwyf wir yn credu bod y cyhoedd am weld ymchwiliad. Dydy hyn ddim jyst yn rywbeth sy’n berthnasol i swigen San Steffan,” meddai.
“Er gwaetha’r ffaith fod rhai penawdau’n awgrymu eu bod am i bobol symud ymlaen o hyn oll, dwi’n meddwl fod pobol am weld Boris a’i lywodraeth yn cael eu dwyn i gyfrif.
“Mae ymchwiliad yn gallu swnio’n reit oeraidd, ond mae’r gwirionedd sy’n deillio o ymchwiliad yn gallu newid pethau.”
Ddydd Llun (Ionawr 31), fe wnaeth Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, gyhuddo’r Prif Weinidog o gamarwain y Tŷ.
Bu Delyth Jewell yn gweithio yn San Steffan am bum mlynedd a hanner fel ymchwilydd i Grŵp Plaid Cymru.
“O’r blaen, cyn amser Trump, os oedd unrhyw honiad fod y Prif Weinidog wedi dweud celwydd wrth y Tŷ, roedd hynny’n rywbeth enfawr, hyd yn oed yn os oedd hynny ar ddamwain, fe fyddai Prif Weinidog y dydd wedi ymddiswyddo,” meddai.
“Mae’r Llywodraeth hon wedi llwyddo bachu ar yr hyn a wnaeth Trump i normaleiddio dweud celwydd yn ein gwleidyddiaeth ac o wneud celwydd yn dderbyniol.
“Theresa May, David Cameron, Gordon Brown, Tony Blair… Nawr, er fy mod yn anghytuno’n ffyrnig gyda chymaint wnaethon nhw, dydych chi ddim yn gallu gwadu y bydden nhw wedi caniatáu diwylliant o lywodraethu sydd gan Johnson yn Rhif 10.”
‘Rhamanteiddio gwleidyddiaeth’
Mae’n dweud bod cyfresi ffuglennol wedi llwyddo i ramanteiddio gwleidyddiaeth, a bod hynny’n niweidiol i ymddiriedaeth y cyhoedd yn y “cysyniad o lywodraethu”.
“Rydyn ni wedi hen arfer â gwylio pethau fel House of Cards, yn enwedig House of Cards gwreiddiol Prydeinig, ac oherwydd bod pobl fel Trump fuodd yn llywodraethu yn America a gyda Johnson yn San Steffan, rydyn ni i gyd bron wedi ymgartrefi gyda’r syniad fod hwn yn digwydd.
“Maen nhw bron yn bihafio fel eu bod yn actio cymeriadau mewn nofel neu ffilm gan fwynhau chwarae lan i’r ystrydeb.
“Mae hynny’n dirywio ffydd pobol yng ngwleidyddiaeth a’r cysyniad o lywodraethu.
“Wrth edrych ar y system chwipio, mae hynny i fod i gadw trefn, ac rydyn ni gyd yn ymwybodol eu bod yn rhoi pwysau weithiau ar bobol i newid eu meddyliau ond mae blacmêl, y syniad o fygwth pobol, ddylai hynna ddim bod yn digwydd.
“Mae’r cyfresi hyn bron yn rhamanteiddio gwleidyddiaeth, ond go-iawn, dydy e ddim yn gweithio fel yna.
“Dydy’r math yma o beth ddim yn digwydd ym Mae Caerdydd, yn San Steffan mae yna ddiwylliant o old boys culture.“