Mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch gwasanaethau fasgwlar yn y gogledd, ar ôl i adroddiad ddarganfod diffygion yn y gofal.

Cafodd ail ran adroddiad annibynnol gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr ynghylch gwasanaethau fasgwlar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Chwefror 3).

Mae’r adroddiad yn ystyried 44 o gofnodion achosion, a daeth o hyd i ddiffygion yn y gofal, y broses o gadw cofnodion, y drefn o dderbyn cydsyniad cleifion a’r gofal ar ôl i’r claf adael yr ysbyty.

Mae’r adroddiad newydd yn cynnig pum argymhelliad brys i “fynd i’r afael â risgiau diogelwch cleifion”.

Daeth i’r amlwg o’r adroddiad fod gwraig un dyn a gafodd lawdriniaeth fasgwlar wedi gorfod ei gario i’r tŷ bach ar ôl cael ei ryddhau o’r ysbyty heb gynllun gofal.

Roedd gwasanaethau fasgwlar wedi’u canoli yn Ysbyty Gwynedd, Bangor tan Ebrill 2019, pan gafodd yr hwb ei symud i Ysbyty Glan Clwyd.

Yn dilyn pryderon gan gleifion a staff ynglŷn â’r gwasanaeth yng Nglan Clwyd, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gomisiynu adroddiad ar y sefyllfa.

Mae’r adroddiad yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 2014 a Gorffennaf 2021, ac mae “gwelliannau eisoes wedi cael eu gwneud”, yn ôl Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr,

‘Siom a phryder’

Dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod yr adroddiad diweddaraf wedi achosi “siom a phryder” iddi.

“Mae’r achosion sy’n cael eu hadolygu yma yn ymdrin â phobol go iawn a’u teuluoedd, a bydd llawer o bobol eraill yn poeni am ansawdd y gofal maent wedi’i dderbyn neu ar fin ei dderbyn, a ph’un a yw’r gwasanaeth hwn yn ddiogel,” meddai.

“Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â’r materion hyn ar unwaith, a rhoi cynllun a phrosesau ar waith i gysylltu â chleifion a’u hadolygu mewn modd priodol a sensitif, er mwyn rhoi gwybodaeth a sicrwydd iddynt yn ogystal ag ymdrin â’r argymhellion eraill a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

“Rwy’n llawn sylweddoli pa mor heriol yw newid llwybr gofal hirsefydlog, a sicrhau bod pawb yn hapus gyda newid system gyfan, yn arbennig ynghanol pandemig; ond mae llawer o bethau sydd heb eu gwneud yn dda, ac nid oes esgus dros hyn.

“Rwyf hefyd yn sicr nad yw’r siarad negyddol cyhoeddus diddiwedd wedi helpu, ac mae hyn wedi taflu cysgod ar unrhyw effeithiau cadarnhaol sydd wedi codi yn sgil ad-drefnu’r gwasanaeth, ac o bosibl wedi effeithio ar forâl staff. Cafodd hyn ei nodi yn adroddiad cyntaf Coleg Brenhinol y Llawfeddygon.

“Er mwyn pobol y gogledd sydd angen y gwasanaeth hwn, a’r staff sy’n gweithio i ddarparu’r gofal hwn, rhaid inni nawr wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn ei weithredu’n briodol, i wneud y llwybr yn un di-dor a gwella canlyniadau.

“Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i fwriadu i fod yn wasanaeth blaenllaw, ac rwy’n benderfynol mai dyna y bydd.”

‘Angen cryn dipyn o waith’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu bod nhw eisoes yn gweithredu ar yr adborth er mwyn gwella’r gofal.

“Rydym yn cydnabod nad yw’r gwasanaeth yr ydym wedi’i roi ar waith bob amser yn cyflawni’r safon uchel y mae ein cleifion yn ei haeddu. Hoffem ymddiheuro i’r rhai y mae hyn wedi effeithio arnynt,” meddai.

“Ers i mi ymuno â’r Bwrdd Iechyd, mae wedi dod yn amlwg iawn i mi fod angen cryn dipyn o waith er mwyn ein galluogi i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n cleifion fasgwlaidd ar draws rhwydwaith gogledd Cymru.

“Rwy’n bryderus iawn i nodi canfyddiadau’r adolygiad mewn perthynas ag ansawdd a chysondeb gofal a roddir – mae’n rhaid i ni wella.”

Dywed mai’r penderfyniad cywir oedd canoli’r gwasanaeth.

“Mae ein cynllun gwella gwasanaethau fasgwlaidd wedi cael ei ddiwygio a’i atgyfnerthu er mwyn gyrru’r cynnydd gwirioneddol sydd ei angen yn ei flaen, gan gynnwys y gwaith i sicrhau bod cleifion fasgwlaidd yn derbyn y gofal mwyaf priodol a phrydlon,” meddai wedyn.

Ychwanega eu bod nhw wedi buddsoddi mewn theatr hybrid, a bod gweithwyr newydd yn dechrau ar swyddi dros yr wythnosau nesaf i atgyfnerthu’r tîm presennol.

“Ond, yn unol â chasgliad yr adroddiad, mae’n rhaid i ni gyfathrebu ar draws safleoedd a thimau’n fwy rheolaidd ac yn fwy effeithiol er mwyn gwella penderfyniadau i bob claf,” ychwanega.

“I helpu gyda hyn, rydym yn buddsoddi mewn hyfforddiant i feithrin a gwella perthnasau gwaith ac rydym yn ystyried y posibilrwydd o gydweithio’n agosach â rhwydwaith fasgwlaidd Lerpwl.”

‘Diffygion gofal iechyd y gogledd’

Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod yr adroddiad hwn yn un arall “ar y rhestr hir o rai’n adlewyrchu’r diffygion mewn gofal iechyd yng ngogledd Cymru”.

“Mae gwasanaethau fasgwlar yn eithriadol o bwysig a dyw gael darpariaeth ansafonol ddim yn fater bychan, felly ni fyddai Betsi Cadwaladr wastraffu unrhyw amser yn gweithredu argymhellion yr adroddiad,” meddai.

“Dw i’n croesawu’r sicrwydd cryf mae’r bwrdd iechyd wedi ei roi i’r Gweinidog ynghylch yr argymhellion, y camau i gryfhau arweinyddiaeth glinigol, a’r bwriad i gydweithio â gwasanaeth fasgwlar mwy yn Lloegr er mwyn cael gwell cefnogaeth a goruchwyliaeth.”