Mae Simon Hart yn dweud bod ganddo fe ffydd yn Boris Johnson yn dilyn honiadau am y partïon yn Downing Street.

Mae Ysgrifennydd Cymru hefyd wedi beirniadu Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am honni nad oes gan Boris Johnson “awdurdod moesol”.

Yn gynharach yr wythnos hon, ymddiheurodd Boris Johnson ac addawodd newidiadau i’r ffordd y mae Rhif 10 yn cael ei redeg, ar ôl i rannau o adroddiad Sue Gray gael eu cyhoeddi.

Yn ôl Sue Gray, roedd “methiant o ran arweinyddiaeth” yn ogystal â diwylliant o or-yfed alcohol yn Rhif 10.

“Fe wnaeth e [Boris Johnson] ymddiheuro. Credaf ei fod am yr eildro, rwy’n credu iddo ymddiheuro ac, fel y dywedais, wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn dan sylw, a chymryd cyfrifoldeb llawn am hynny,” meddai Simon Hart.

“Ac felly, dydw i ddim yn hollol siŵr beth arall o dan yr amgylchiadau hynny y gallai fod wedi ei wneud.”

‘Speculation, speculation, speculation’

Neithiwr ar raglen y Byd yn Ei Le, gofynnwyd i Alun Cairns, cyn-ysgrifennydd Cymru, a fyddai’n rhaid i Boris Johnson ymddiswyddo pe bai Heddlu Llundain yn canfod fod y Prif Weinidog yn gorfod talu dirwy am unrhyw dorcyfraith.

Speculation yw hyn i gyd,” meddai Alun Cairns, Aelod Seneddol Ceidwadol Bro Morgannwg a chyn-Ysgrifennydd Cymru – sylw y gwnaeth ei ailadrodd sawl gwaith.

“Mae angen i ni weld be’ ddigwyddodd yn iawn. Rwyf wedi siarad â fe, rwyf wedi gweld rhywun sy’n ddiffuant ac yn gweld rhywun sy’n derbyn teimlad y wlad ac sy’n ceisio ymateb i’r peth.

“Efallai dydy e heb ymateb i bob dim hyd yn hyn, ond mae’n ddigon teg aros am dystiolaeth cyn i ni feirniadu.”

Prif Weinidog Cymru

“Dydw i ddim yn credu bod gan y Prif Weinidog yr awdurdod moesol i arwain gwlad fel y Deyrnas Unedig,” meddai Mark Drakeford ar raglen BBC Breakfast yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Simon Hart, y broblem gyda Mark Drakeford yw ei fod “bob amser yn gwneud sylwadau felly”.

“Dydw i ddim yn cytuno’n llwyr â’r hyn y mae Mark Drakeford yn ei ddweud,” meddai, gan feirniadu Prif Weinidog Cymru am wneud y sylwadau “er mwyn hyrwyddo ei ddiben gwleidyddol”.

“Y broblem gyda Mark Drakeford yw ei fod bob amser yn gwneud sylwadau felly. Rwy’n ei chael yn rhyfeddol ei fod yn parhau i wneud y math hyn o sylwadau.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod beth yw’r sefyllfa – mae ganddo hawl i’w gwneud wrth gwrs – ond byddwn wrth fy modd ag e un diwrnod, byddwn i’n dathlu’r diwrnod pan fydd Mark Drakeford yn bencampwr mewn gwirionedd, popeth sy’n wych am Gymru, popeth sy’n wych am Gymru yn y Deyrnas Unedig, yr holl gynlluniau sydd gennym.

“Byddwn wrth fy modd pe bai’n hyrwyddo’r ffaith fod gennym fwy o swyddi ar gael nawr a chyfradd gyflogaeth uwch nag oedd gennym cyn y pandemig.

“Byddwn wrth fy modd pe bai’n hyrwyddo llwyddiannau’r cydweithio rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno’r brechlyn.

“Ond mae’n gwbl allan o gymeriad iddo ddweud unrhyw beth cadarnhaol am unrhyw un neu unrhyw beth.

“Nid yw’n rhinwedd mewn arweinyddiaeth rwy’n ei edmygu’n fawr iawn, os ydych chi am gael fy marn yn onest.”