Mae llofruddiaeth homoffobig seiciatrydd a thad i ddau o blant yng Nghaerdydd yn ein hatgoffa o’r casineb tuag at bobol hoyw bob dydd “am fodoli”, yn ôl Stonewall Cymru.
Daw’r sylwadau ar ôl i lys gael tri o bobol yn euog o lofruddio Dr Gary Jenkins ym Mharc Bute yn y brifddinas.
Mae’r elusen yn dweud bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â homoffobia, gan godi pryderon am sylwadau’r erlynwyr yn ystod yr achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful.
Dioddefodd Dr Gary Jenkins ymosodiad gan dri o bobol ar Orffennaf 20 y llynedd, ac roedd ei anafiadau mor ddifrifol fel ei fod e wedi marw bythefnos yn ddiweddarach yn uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Cafwyd Jason Edwards (25), Lee Strickland (36) a Dionne Timms-Williams (17) yn euog heddiw (dydd Iau, Chwefror 3).
Bu Dr Gary Jenkins yn gweithio yn y brifddinas ar ôl symud yn ôl yno wedi iddo fe a’i wraig wahanu.
Roedd e’n ddyn deurywiol ac roedd ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn ymwybodol ei fod yn mynd i’r parc am ffafrau rhywiol â dynion eraill.
Erlyniad
Trais, homoffobia a bod yn farus oedd cymhelliant y tri oedd wedi ei ladd, yn ôl erlynwyr, oedd yn dweud bod y tri wedi bod yn chwilio am ddynion bregus i ladrata oddi arnyn nhw.
Gwelodd y llys fideo 15 munud o’r ymosodiad, ac roedd modd clywed sylwadau homoffobig yn cael eu hanelu ato wrth iddyn nhw ei daro a’i gicio.
Wrth gael ei holi gan yr heddlu, dywedodd Edwards fod y parc yn “frwnt” am fod dynion yn mynd yno am ryw.
Ond cafodd sylwadau cyfreithiwr yr erlyniad, Dafydd Enoch, eu beirniadu, wrth iddo ddweud bod rhyw “wedi gwneud amdano” a bod ei ymddygiad “wedi ei wneud yn anobeithiol o fregus” ac yn “darged hawdd”.
Dywedodd hefyd fod Dr Gary Jenkins yn hoffus er gwaethaf “dewisiadau ffordd o fyw neu peccadillos“, ac mae e wedi’i gyhuddo o “feio dioddefwr” a “biffobia”.
Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn feirniadol mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, a’r gantores Bronwen Lewis.
Dywedodd Dafydd Enoch wrth gloi ei sylwadau nad oedd yn “beio” Dr Gary Jenkins am yr hyn ddigwyddodd iddo, ond ei fod e’n “fregus yn y parc hwnnw” ac mae “tri pherson sy’n gyfrifol, sef y diffynyddion hyn”.
Ymateb Stonewall Cymru
“Dylai pobol lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar fod yn rhydd i fynd o gwmpas eu bywydau heb ofn na chyfyngiadau, ond mae marwolaeth drasig Dr Jenkins yn ein hatgoffa o’r casineb mae ein cymunedau’n ei wynebu dim ond am eu bod nhw’n bodoli,” meddai Iestyn Wyn ar ran Stonewall Cymru.
“Mae sylwadau a wnaed yn ystod yr achos wedi erydu ymhellach yr ymddiriedaeth sydd gan ein cymunedau yn ein system gyfiawnder – lle nad yw pedwar ym mhob pump (81%) o bobol LHDTC+ eisoes yn adrodd am ddigwyddiadau casineb wrth yr heddlu.
“Wrth i bobol ledled y Deyrnas Unedig alaru’r torcalon o golli Dr Jenkins, rhaid i’r Llywodraeth gymryd camau brys i herio agweddau gwrth-LHDTC+ a sicrhau bod ein holl gymunedau’n ddiogel ac yn rhydd.”
Ymateb Gwasanaeth Erlyn y Goron
“Yr unig bobol oedd yn gyfrifol am y drosedd erchyll hon oedd y sawl a gafwyd yn euog heddiw gan y rheithgor,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.
“Mae’r awgrym fod Dr Jenkins yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd yn gwbl anghywir.
“Rydym yn ymddiheuro am sylwadau amhriodol ac ansensitif a wnaed yn ystod y datganiad agoriadol.”