Mae’r seithfed Dydd Miwsig Cymru yn cael ei gynnal heddiw (dydd Gwener, Chwefror 4), a’i nod eleni yw ysbrydoli rhagor o bobol i ddysgu’r Gymraeg, yr iaith sy’n tyfu gyflymaf o blith ieithoedd brodorol y Deyrnas Unedig.

Nod y diwrnod yw cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa newydd drwy ddathlu’r gerddoriaeth a’r artistiaid sy’n achosi cynnwrf yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cerddoriaeth Gymraeg wedi ennyn dilynwyr enwog, gan gynnwys yr actor Hollywood Elijah Wood, a gyhoeddodd ei fod yn ffan o’r band prog-roc o’r saithdegau, Brân.

Mae’r Gymraeg wedi gweld cynnydd yn nifer y defnyddwyr ar ap dysgu ieithoedd Duolingo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a gyhoeddodd yn 2021 mai’r Gymraeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain, gyda mwy o ddefnyddwyr yn dysgu Cymraeg ar draws gwledydd Prydain na’r un iaith arall.

Mae’r diwrnod yn rhan o weledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i weld miliwn o bobl yn siarad a defnyddio’r iaith erbyn 2050, ac mae cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei gweld fel adnodd gwych i helpu pobol i ddysgu’r iaith.

Mae Ruth Jones, yr awdures a’r actor ar y gyfres Gavin and Stacey, wedi dweud yn y gorffennol bod cerddoriaeth wedi ychwanegu at ei geirfa Gymraeg.

Mae Chroma a Cotton Wolf wedi creu cynnwys fideo arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, yn cyfieithu ac yn esbonio geiriau rhai o’u caneuon ar gyfer dysgwyr.

Lleoliadau annibynnol

Wrth i’r byd barhau i wynebu heriau COVID-19, bydd dathliadau’r seithfed Dydd Miwsig Cymru yn talu teyrnged i’r lleoliadau annibynnol sydd wrth galon ein cymunedau.

Mae amserlen o gigs rhad ac am ddim yn cael eu cynnal mewn lleoliadau annibynnol eiconig wedi’i chyhoeddi heddiw, yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, Le Pub yng Nghasnewydd, Selar Aberteifi, y Bunkhouse yn Abertawe, a Galeri yng Nghaernarfon, lle bydd artistiaid Cymraeg gan gynnwys HMS Morris, Gwenno Morgan, SYBS, Mellt, EÄDYTH, Tiger Bay a Pys Melyn yn perfformio.

Er bod lleoliadau annibynnol wedi gorfod addasu i gyfyngiadau’n newid yn gyson yn ystod y pandemig, mae lleoliadau annibynnol ledled Cymru’n gartref i sîn fywiog, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth roi llwyfan i artistiaid newydd.

Artistiaid a phrosiectau newydd

Er gwaetha’r cyfyngiadau yn ystod 2021, oedd yn effeithio ar deithiau a pherfformiadau byw, roedd llu o artistiaid yn rhyddhau cerddoriaeth Gymraeg newydd sydd wedi achosi cynnwrf ar draws y byd.

Mae artistiaid fel Carwyn Ellis, Los Blancos, Melin Melyn, Tacsidermi a Papur Wal wedi rhyddhau miwsig yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda thraciau o albwm Breichiau Hir, ‘Hir Oes i’r Cof’, yn cyrraedd cynulleidfa newydd ar BBC Radio 1.

Cafodd 485 o weithiau Cymraeg newydd eu rhyddhau – o albymau, senglau, EPs a chatalogau – drwy wasanaeth dosbarthu a label PYST yn 2021, o gymharu â 357 yn 2020.

Ac mae Prosiect Forté, cynllun datblygu artistiaid Cymru gyfan ar gyfer artistiaid newydd, wedi rhoi cyfle i’r gantores Gymraeg Mali Hâf gyflwyno ei brand o gerddoriaeth Gymraeg i’w chyd-artistiaid ym Mhrosiect Forté, nad oedd neb ohonyn nhw wedi creu miwsig yn y Gymraeg o’r blaen.

Mae naws ryngwladol arbennig i’r prosiect cydweithredol merched yn unig yma, gyda chyfraniadau gan y cynhyrchydd o Estonia Sorry Stacy, y dywysoges bop o Ffrainc Kitty, yr artist pop niwlog Asiaidd, Artshawty, a’r gantores gyfansoddwraig ddi-Gymraeg o Landrindod, Elin Grace.

Cafodd ‘Mamiaith’ ei hysgrifennu gan Mali Hâf, sy’n 24 oed ac yn dod o Gaerdydd, a daeth hi â’r pum artist benywaidd at ei gilydd mewn ychydig llai na phythefnos i ysgrifennu, cynhyrchu a lansio fideo miwsig, sydd allan heddiw drwy’r broses gydweithredol yma.

Cafodd y sîn electronica Gymraeg ei chydnabod yn rhyngwladol hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i fersiwn Band Pres Llareggub o Meillionen gydag EÄDYTH gael ei hychwanegu at restr chwarae Hedkandi y Ministry of Sound, tra bod traciau gan DJ Ryan M Hughes o Ynys Môn wedi cael eu chwarae ar Worldwide FM – gorsaf radio gymunedol fyd-eang sy’n darlledu ym mhobman o Efrog Newydd i Frwsel, Melbourne, Istanbwl a’r tu hwnt.

Mae’r genre wedi’i ddisgrifio fel un “bywiog” gan Gwion ap Iago, hanner y ddeuawd electronig Roughion, a ddywedodd ei bod hi’n “dod yn cŵl i chwarae miwsig electronig Cymraeg”.

Cefnogaeth gan fusnesau

Mae Dydd Miwsig Cymru wedi ei gefnogi gan fusnesau mawr gan gynnwys EE sy’n ffrydio perfformiad arbennig o Yma o Hyd gan gôr ei staff ym Merthyr Tudful.

Cafodd y côr ei sefydlu yn 2017, ac mae’n gyfle i anghofio am bwysau gwaith a bywyd, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Mae’r côr yn gymysgedd o aelodau Cymraeg a di-Gymraeg, gyda nifer yn y côr yn manteisio ar y cyfle i ailgysylltu â’r iaith a darganfod cerddoriaeth Gymraeg am y tro cyntaf.

Cystadleuaeth

Eleni, lansiodd Dydd Miwsig Cymru gystadleuaeth greadigol i blant oedran cynradd ledled Cymru gyda’r nod o bontio’r bwlch rhwng yr ysgol a’r cartref.

Mae Ysgol Pop yn gofyn i blant ysgrifennu a pherfformio cân bop, gydag anogaeth i ymarfer gartref a dysgu’r geiriau i’w rhieni, faint bynnag o Gymraeg mae’r rhieni’n ei siarad.

Cafodd yr Ysgol Pop ei lansio gyda’r gantores-gyfansoddwraig Gymraeg EÄDYTH, fydd hefyd yn beirniadu, a bydd y gân fuddugol yn cael £250 ar gyfer eu hysgol ac yn cael ei chwarae ar Stwnsh Sadwrn ar S4C.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi heddiw.