Bydd Llywodraeth Cymru’n dyblu eu taliadau ar gyfer helpu teuluoedd gyda’r “argyfwng costau byw, sy’n gwaethygu”.

Mae’r taliad untro dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn cael ei ddyblu o £100 i £200 i helpu aelwydydd cymwys â chostau a biliau ynni cynyddol, meddai Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Jane Hutt.

Er y bydd y cynnydd mewn prisiau ynni’n effeithio ar aelwydydd dros y wlad, bydd y cynnydd yn effeithio ar y rhai sydd ar incymau isel yn anghymesur mae’n debyg, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae pris nwy tua phedair gwaith yn uwch nag ar ddechrau 2021 erbyn hyn, ac mae cyfraddau chwyddiant nwy a thrydan ar eu huchaf erioed.

Mae disgwyl y bydd cynnydd sylweddol yn y cap ar bris tanwydd o fis Ebrill ymlaen, a bydd y newid hwnnw’n cael ei gadarnhau wythnos nesaf (7 Chwefror).

“Gwneud gwahaniaeth go iawn”

Mae’r newid yn y taliadau gan Lywodraeth Cymru’n berthnasol i bobol sy’n derbyn Credyd Cynhwysol a budd-daliadau oedran gwaith.

Bydd pobol sydd eisoes wedi derbyn taliadau yn derbyn yr arian ychwanegol yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Jane Hutt bod pobol wedi gweld eu biliau’n codi, o filiau ynni i brisiau tanwydd a chostau nwyddau bob dydd, a’u cyflogau’n “cael eu hymestyn fwy nag erioed” ledled Cymru.

“Rydym yn gwybod bod pobol yn wynebu’r penderfyniad hynod anodd o ddewis rhwng gwresogi’r tŷ neu fwyta,” meddai Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

“Rydym yng nghanol argyfwng costau byw, sy’n gwaethygu.

“Roedd ein Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51m yn targedu cymorth i deuluoedd ledled Cymru.

“Rydym yn gwybod bod y cynlluniau hyn yn gweithio ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol o aelwydydd incwm isel.

“Dyna pam rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn estyn y cymorth i aelwydydd drwy ddyblu taliad y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.

“Rydym yn cynyddu’r taliad arian parod gwerth £100 i £200 a bydd y taliad hwn ar gael i ymgeiswyr newydd a bydd y swm ychwanegol yn cael ei dalu i’r rhai sydd eisoes wedi gwneud cais.”

“Cefnogi pobol Cymru”

Bydd awdurdodau lleol yn prosesu ceisiadau newydd gan aelwydydd cymwys, ac mae’r cynghorau wedi cysylltu â’r bobol y maen nhw’n credu sy’n gymwys.

Mae Llywodraeth Cymru’n “benderfynol o wneud popeth” o fewn eu gallu i helpu pobol gyda’r biliau sydd ganddyn nhw, meddai Jane Hutt.

“Hoffwn ddiolch i’n hawdurdodau lleol am brosesu’r taliadau hyn yn gyflym,” meddai Jane Hutt.

“Mae pawb yn gwybod eu bod wedi bod dan bwysau aruthrol yn ystod y pandemig.

“Er hynny, maent wedi llwyddo i ddarparu ar gyfer ein cymunedau dro ar ôl tro.

“Bydd y cynnydd hwn o £100 yn ychwanegol yn helpu’r bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac rwy’n benderfynol o wneud popeth a allwn i barhau i gefnogi pobol Cymru drwy’r argyfwng costau byw.”

Cymru ‘ymysg yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio waethaf’ gan y cynnydd mewn prisiau ynni

Dangosa ymchwil newydd bod cartrefi yng Nghymru yn gwario 10% yn fwy ar drydan o gymharu â’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig

Llywodraethau yn uno i fynnu gweithredu ar frys o ran yr ‘argyfwng costau byw’

Angen i aelwydydd “weld camau brys gan y Trysorlys i helpu pobl gyda biliau a chostau byw wrth iddynt gynyddu”