Mae datblygwyr wedi cyflwyno cynlluniau o’r newydd i adeiladu parc busnes ar safle fferm deulu yn y Rhws ger Caerdydd.

Dyma’r cais diweddaraf gan gwmni gwasanaethau ariannol Legal and General (L&G) i adeiladu’r parc diwydiannol ar safle Model Farm ger maes awyr Caerdydd.

Ers 1935, mae’r teulu Jenkins wedi bod yn denantiaid ar y fferm honno, ond mae eu dyfodol yno yn ffermio gwartheg bellach yn y fantol.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cafodd caniatâd cynllunio ei roi gan Gyngor Bro Morgannwg i L&G ar gyfer adeiladu parc busnes, ond fe wnaethon nhw dynnu’r penderfyniad yn ôl ym mis Medi oherwydd diffyg manylion ariannol.

Mae L&G wedi cynnwys y manylion hyn yn y cais diweddaraf, ar ffurf adroddiad hyfywedd, ac maen nhw’n gofyn unwaith eto am ganiatâd gan y cyngor.

Byddai’r cynlluniau’n gweld ystâd ddiwydiannol yn cael ei hadeiladu ar 45 erw o dir oddi ar Port Road.

Herio’r penderfyniad gwreiddiol

Ar ôl i bwyllgor cynllunio Bro Morgannwg roi caniatâd cynllunio y tro cyntaf, fe wnaeth grŵp ymgyrchu Vale Communities Unite herio’r penderfyniad hwnnw.

Fe gafodd protest ei threfnu y tu allan i’r Senedd yn erbyn y penderfyniad, gyda miloedd o bunnoedd yn cael ei godi.

Fe wnaethon nhw hefyd sicrhau adolygiad barnwrol i’r caniatâd cynllunio, a llwyddiant hwnnw wnaeth chwalu’r cynlluniau ym mis Medi’r llynedd, gan nad oedd adroddiad hyfywedd yn rhan o’r cais.

Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, roedd Mair Jenkins, sy’n denant ar y fferm gyda’i gŵr Gethin, yn dal i bryderu y byddai cynllun newydd yn cael ei gyflwyno erbyn y flwyddyn newydd.

“Mae L&G wedi gwario shwt gymaint o arian ar hyn, dydw i ddim yn gallu gweld nhw’n gadael e fynd,” meddai wrth golwg360 bryd hynny.

“Gallwn ni ddim ymlacio a meddwl ein bod ni’n fine, gan eu bod nhw’n gwmni mor fawr.”

Ychydig dros bedwar mis yn ddiweddarach, mae’r cais newydd yn cynnwys adroddiad hyfywedd, sy’n rhoi’r manylion oedd yn absennol yn y cais cyntaf.

Pryderon o’r newydd

Mae’r cynlluniau newydd wedi derbyn beirniadaeth unwaith eto oherwydd pryderon ynglŷn â newid hinsawdd a’r effaith ar y tir a bioamrywiaeth.

Roedd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies, sy’n byw ym Mro Morgannwg, yn un o’r rhai a leisiodd ei bryderon.

Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad cyhoeddus sydd ynghlwm â’r cais, lle mae modd i’r cyhoedd ymateb i’r cynlluniau ar wefan y cyngor cyn 17 Chwefror.

“Byddai gosod concrit ar dir Model Farm yn bradychu ein cymuned,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’r ymgynghoriad newydd yn gyfle i wneud hynny’n glir unwaith eto.

“Mae’r cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd a natur, a byddai’r datblygiad dianghenraid hwn yn tanseilio hynny’n llwyr.”

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Bro Morgannwg yn ailystyried y cais maes o law, gan bleidleisio eto ynglŷn â rhoi caniatâd cynllunio.

Er hynny, mae’n debyg y gallai’r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru.

Mae modd i’r cyhoedd ymateb i’r cais cynllunio – sydd â chyfeirnod 2019/00871/OUT – ar wefan y cyngor cyn 17 Chwefror.

Dangos y drws i ffermwyr y Rhŵs

Cadi Dafydd

Teulu sydd wedi bod yn dentantiaid ar y fferm ers 1935 wedi cael hysbysiad i adael er mwyn adeiladu parc diwydiannol ar y safle ger maes awyr Caerdydd

Cyngor yn tynnu’n ôl caniatâd cynllunio ar gyfer parc busnes ym Mro Morgannwg

Byddai’r cynlluniau yn gorfodi teulu fferm allan o’u cartref, ac yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd yn ôl ymgyrchwyr