Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud tro pedol ar benderfyniad i roi caniatâd cynllunio i barc busnes yn y Rhws.

Byddai’r teulu fferm Jenkins wedi gorfod gadael eu cartref yn Model Farm erbyn mis Gorffennaf 2022 fel rhan o’r cynlluniau hynny, ond mae dyfodol y fferm bellach yn aneglur.

Roedd cwmni Legal and General (L&G) wedi gwneud cais i adeiladu’r parc ar gyfer y diwydiant awyrennau, ac fe gafodd hwnnw ei gymeradwyo ddeufis yn ôl.

Oherwydd problemau cyfreithiol, bydd yn rhaid i’r cynlluniau gael eu gohirio, ac mae’n debyg mai diffyg gwybodaeth yn y cais cynllunio yw’r rheswm tu ôl i hynny.

Roedd ymgyrchwyr wedi beirniadu’r datblygiad ers tro, gan nodi effeithiau andwyol ar yr amgylchedd lleol.

“Bydd e’n rhoi blwyddyn arall i ni”

Mae teulu Gethin a Mair Jenkins wedi bod yn denantiaid yn Model Farm ers 1935.

Roedd Mair yn falch o’r penderfyniad diweddaraf i wrthdroi’r caniatâd cynllunio.

“Mae’n wych a dweud y gwir,” meddai.

“Bydd dal yn rhaid i’r [cynlluniau] fynd o flaen y barnwr, ond mae’n edrych yn debyg bydd rhaid iddyn nhw ail-roi rhyw gynllun i mewn.

“O’n rhan ni, bydd e’n rhoi blwyddyn arall i ni, achos ar y funud ni’n gorfod mynd mas erbyn diwedd Gorffennaf blwyddyn nesa.

“Mae hynny o leiaf yn newyddion da.

“Rhaid i ni jyst aros nawr i’r barnwr gadarnhau hyn, ac aros i weld beth wneith L&G.”

Herio’r penderfyniad

Fe wnaeth grŵp ymgyrchu Vale Communities Unite holi barnwr i anfon adolygiad i’r Cyngor o’r penderfyniad cais cynllunio.

“Oedd e wedi codi rhyw bedwar neu bump camgymeriad lan o’r cyfarfod hynny,” meddai Mair Jenkins.

“Aeth y Cyngor wedyn at gyfreithiwr allanol ac fe ddywedodd e hefyd bod y penderfyniad yn anghywir.

“Does dim byd arall fedrwn ni wneud o’n hochor ni.”

Roedd Jonathan Bird o Gyngor Bro Morgannwg wedi anfon e-bost i’w gyd-gynghorwyr yn cyhoeddi’r newyddion.

“Ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol allanol, mae’r cyngor wedi cydsynio i ddileu’r caniatâd cynllunio, oherwydd nad yw wedi delio’n ddigonol â’r asesiad o’r angen i ddatgelu gwybodaeth hyfywedd yn adroddiad y swyddogion,” meddai.

Yn ôl Mair Jenkins, dydy’r teulu heb gael ymateb uniongyrchol gan y Cyngor, na grŵp Plaid Lafur y Fro.

Dyfodol y cynlluniau

Er gwaetha’r penderfyniad diweddaraf, dydy Mair Jenkins ddim yn credu bod hyn yn ddechrau’r diwedd i’r cynlluniau.

“Gallwch chi ddim â dweud hynny,” meddai.

“Mae L&G wedi gwario shwt gymaint o arian ar hyn, dydw i ddim yn gallu gweld nhw’n gadael e fynd.

“Gallwn ni ddim ymlacio a meddwl ein bod ni’n fine, gan eu bod nhw’n gwmni mor fawr.”