Mae teulu o Fro Morgannwg fydd yn cael eu troi allan o’u fferm yn dweud bod y sefyllfa yn “ofid” iddyn nhw.

Ers 1935, mae teulu Gethin a Mair Jenkins wedi bod yn denantiaid yn Model Farm yn y Rhŵs ger maes awyr Caerdydd.

Ar hyn o bryd, eu mab Rhys sy’n byw yn y ffermdy ond mae cwmni buddsoddi Legal & General, sy’n berchen ar y tir, wedi rhoi hysbysiad i’r teulu yn dweud bod rhaid iddyn nhw adael er mwyn i barc diwydiannol gael ei adeiladu ar y tir.

I Mair Jenkins, mae fel petai hanes yn ailadrodd ei hun gan fod ei thad wedi gorfod gadael Mynydd Epynt yn 1940 dan orfodaeth y Fyddin.

Er bod y sefyllfa yn wahanol, yr un yw’r emosiynau, meddai.

Yn ogystal â bod yn ofid i’r teulu, mae’r datblygiadau wedi peri pryder i grwpiau amgylcheddol hefyd, gydag ymgyrchwyr ecolegol o grŵp Vale Communities Unite yn dadlau bod tir mwy addas ar gyfer datblygiadau.

‘Yr un yw’r emosiwn’

“Roedden ni bob amser yn gwybod y byddai rhyw fath o ddatblygiadau’n cael ei wneud, er enghraifft fe wnaethon nhw adeiladu gwesty reit lawr ar bwys y maes awyr ac aeth hwnna â chwpwl o erwau,” meddai Mair Jenkins wrth golwg360.

“Ond maen nhw dal i ddweud, Bro [Cyngor Bro Morgannwg] a Legal & General, ein bod ni’n gwybod ambwyti hyn, ond fe gaethon ni wybod ar ddiwrnod olaf mis Mai 2019 eu bod nhw’n mynd â’r fferm i gyd, yr holl dir, ac yn mynd i dynnu’r adeiladau a’r tŷ lawr.

“O’r diwrnod yna, mewn tua llai na phythefnos roedd y cyfarfod cyhoeddus i’r ardal lawr ym mhentref Rhŵs.

“Felly yn y cyfarfod, yn ôl nhw, roedden ni’n gwybod ers blynyddoedd… oedd yn gelwydd noeth.

“Dydyn ni ddim wedi cael dim empathy o gwbl ganddyn nhw, dydyn nhw ddim wedi trafod gyda ni o gwbl be sy’n mynd i ddigwydd.

“Rydyn ni’n byw fel hyn ers dwy flynedd, â bod yn onest, heb wybod yn iawn be sy’n mynd ymlaen.

“Beth oedd yn od, digwyddodd yr un peth i ’nhad i.

“Roedd e’n rhan o Epynt, mae’r sefyllfa yn wahanol ond yr un yw’r emosiwn.

“Roedd e’n bymtheg pan ddaeth y fyddin, roedd e wedi’i eni ar Epynt ac fel rydych chi’n gwybod, cafodd dros hanner cant o ffermydd, dros ddau gant o bobol, ryw wyth neu naw mis i symud ma’s.

“Mae’n od fel mae hanes wedi newid, ond yr un yw’r effaith.”

“Ble yn y byd maen nhw’n mynd i fyw?”

Ddiwrnod olaf Gorffennaf eleni, cafodd y teulu hysbysiad fod rhaid iddyn nhw adael y fferm.

“Rydyn ni lan yn yr awyr, efo fferm dydych chi methu dweud ‘Okay, we’ll stop farming May 8’, mae’n rhaid chi benderfynu beth sy’n mynd yn y caeau dwy, dair blynedd o flaen llaw,” meddai.

“Mae’n rhaid i Rhys fod ma’s ddiwrnod olaf mis Gorffennaf flwyddyn nesaf, ond dydyn ni ddim yn gwybod dim byd mwy na hynny.

“Mae’n ofid i ni gyd, ond yn enwedig i Rhys a’i deulu.”

Mae Model Farm yn cynhyrchu cig eidion ac yn aredig, ond mae’r teulu wedi dechrau tyfu blodau gwylltion a gwerthu’r hadau yn ddiweddar.

“Wrth lwc, fe wnaeth perchennog newydd Castell Fonmon ddigwydd gweld yr hanes mewn cylchgrawn yn rhywle… Fe benderfynodd roi siawns i Rhys, felly roiodd e swydd fel estate manager yn y castell iddo.

“O hynny, mae Rhys wedi sefydlu cwmni hadau, Wild Wales Seeds, felly rydyn ni wedi bod yn tyfu lot fawr o hadau – mae peth tir ar y castell diolch i Dduw.

“Ond wrth gwrs be sy’n mynd i ddigwydd nawr, mae ble rydyn ni’n adeiladu’r poppies, y marigolds, daisies a’r cornflowers i gyd yw ar y fferm top so os eith y tir hynny wedyn eith hwnna â’r tir i gyd.

“Ac wrth gwrs bydden nhw’n ddigartref.

“Mae pobol yn meddwl ‘Byddwch chi’n cael lot fawr o arian’, wel na, achos dim ni yw’r perchnogion.

“Rydych chi’n siarad am swm fach iawn, iawn. Mewn geiriau eraill fydde fo ddim yn ddigon i brynu cae yn y Fro – be sy’n gyfreithiol i [Legal & General ei wneud].

“Mae hynny’n ofid, ble yn y byd maen nhw’n mynd i fyw? Mae isie mwy o dir.”

Ychwanegodd fod pobol y Rhŵs wedi bod yn wych, gydag ambell un wedi cynnig tir i’r teulu.

‘Yn erbyn polisi eu hunain’

Cafodd y datblygiadau eu cymeradwyo gan Gyngor Bro Morgannwg ganol mis Gorffennaf, gyda Phlaid Cymru a’r Torïaid yn erbyn, a Llafur ac aelodau annibynnol o blaid.

Bydd y cynlluniau’n golygu bod y fferm yn cael ei throi’n swyddfeydd, storfeydd a gofod diwydiannol ar gyfer y diwydiant awyrennau, a bydd peth tir yn cael ei roi i Barc Gwledig Porthceri, sy’n eiddo i Gyngor Bro Morgannwg.

“Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n mynd i ddod â swyddi i’r ardal, sydd yn grêt, dydyn ni ddim yn erbyn hynny o gwbl,” meddai Mair Jenkins, gan ychwanegu bod tir brown gyferbyn â’r fferm sydd yn wag, a lleoliadau eraill posib hefyd.

“Maen nhw’n mynd ymlaen am biodiversity a rewilding, mae popeth ar y fferm… ond maen nhw’n anwybyddu hynny.

“Maen nhw’n mynd i goncritio dros y fferm gyfan, felly maen nhw’n mynd yn erbyn eu polisi eu hunain.”

Mae’r cwmni Legal & General yn tueddu i brynu tir o amgylch meysydd awyr, ac yna ei werthu, meddai Mair Jenkins.

“Peth arall maen nhw wedi dweud, y Fro, yw bod cwmni mawr gyda nhw… yn eu geiriau nhw ‘high profile employer would run the park’.

“Ond dydyn nhw ddim wedi’u henwi nhw, felly peth arall maen nhw’n ymladd arno yw sut mae’r Fro wedi gallu rhoi caniatâd achos dydyn nhw ddim yn gwybod am beth maen nhw’n rhoi caniatâd iddo.”

‘Beth yw’r pwynt?’

Un sydd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch ers y dechrau, fwy neu lai, yw Maxine Levett, sy’n canolbwyntio ar yr ochr amgylcheddol.

“Fe wnes i ddod yn rhan o’r ymgyrch yn sgil yr effaith i fyd natur, felly mae e ar sail amgylcheddol ac ecolegol gan fod gen i ddiddordeb mewn cynnal byd natur,” meddai wrth golwg360.

“Wrth ddod yn rhan, fe wnaeth Bro Morgannwg ddatgan argyfwng amgylcheddol felly roedden ni’n teimlo bod gennym ni sail ar lefel amgylcheddol i gyfiawnhau’r ddadl pan mae digonedd o leoliadau eraill y gellir eu defnyddio.

“Rydyn ni’n gwrthwynebu adeiladu ar dir gwyrdd.

“Pam adeiladu ar y tir gwyrdd hwn? Yndi, mae e drws nesaf i faes awyr sef yr holl reswm pam fod Legal & General wedi’i brynu fe.

“Cafodd y safle hwn ei hadnabod fel lle ar gyfer cyflogaeth oherwydd ei fod e ger y maes awyr, ond mae’r maes awyr wedi bod yn methu’n barhaus ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi arian tuag ato ond dyw e ddim yn gweithredu’n dda iawn o gwbl, ac erioed wedi… felly beth yw’r pwynt?

“Fe wnaeth y Cyngor siarad gyda’r maes awyr ar y pryd, a doedden nhw ddim yn gweld dim rheswm dros y datblygiadau, ddim yn gwybod be fyddai ei bwrpas, a ddim yn teimlo bod angen e ar y cyd â’r maes awyr.

“Roedden ni’n teimlo ei fod e’n ddiangen, yn ddamcaniaethol, a bod Legal & General eisiau caniatâd cynllunio ar gyfer gwneud elw o’r ardal ac wedyn trio newid y defnydd ella – ond mae hynny’n ddamcaniaethol o’n safbwynt ni hefyd.

“O safbwynt amgylcheddol, mae gennym ni’r effaith ar fyd natur a dydyn nhw heb gwblhau adroddiad ecolegol llawn ar yr ardal. Mae gennym ni’r mater efo trafnidiaeth hefyd, a charthffosiaeth.

“Rydyn ni’n pryderu ar sawl lefel wahanol efo’r amgylchedd a thrafnidiaeth.”

“Torcalonnus”

Fe wnaeth y cyngor roi caniatâd cynllunio i Legal & General, er bod 1,000 o bobol wedi gwrthwynebu, gan gynnwys ar sail llifogydd, pwysau ar y system garthffosiaeth, a cholli bioamrywiaeth.

“Mae yna elfen weladwy hefyd, wrth i bobol yrru adre maen nhw’n gweld caeau gwrdd, Parc Porthceri a thraphont hardd, unwaith fydd hyn yn digwydd ni fydd posib eu gweld,” meddai Maxine Levett wedyn.

“Mae yna effaith ar y diwylliant gweladwy lleol hefyd.

“Does mo’i angen o yno ar dir gwyrdd yn yr hinsawdd hon. Dw i’n caru’r tymhorau a’r bywyd mae’r llefydd hyn yn eu creu, ac mae’n holl dorcalonnus.

“Dyw e just ddim yn iawn, dw i ddim yn meddwl. Maen nhw angen rhoi’r gorau iddi, maen nhw angen meddwl tu allan i’r bocs ac rydyn ni angen ffermydd lleol.

“Dyw e ddim just yn ymwneud â chadw’r llefydd gwyrdd i’r amgylchedd, mae ffermwyr yn gallu dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar, gallen nhw newid eu dulliau ffermio, ac maen nhw’n gallu cefnogi bioamrywiaeth. A dw i’n meddwl fod y fferm hon yn ymwybodol o hynny, yn enwedig gyda’r hadau gwyllt.

“Ond mae e’n ymwneud â chynnal ein ffynonellau bwyd hefyd, ac annog o bobol hynny i barhau ein ffynonellau bwyd lleol a chwtogi’r milltiroedd mae ein bwyd yn teithio.”

  • Bydd protest heddychlon yn cael ei chynnal y tu allan i’r Senedd ddydd Sadwrn, Awst 21, ac mae’r grŵp ymgyrchu Vale Communities Unite yn codi arian gyda’r bwriad o ddechrau her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad cynllunio.

“Creu dros 3,000 o swyddi”

Mae perchnogion y tir, cwmni buddsoddi Legal & General, wedi darparu’r datganiad canlynol i golwg360, gan amddiffyn eu cynlluniau ar gyfer y safle:

“Yn ffurfio rhan o Gynllun Datblygu Lleol y cyngor ers 2017, mae gan y prosiect pwysig hwn rôl strategol yn y gwaith o sicrhau buddion economaidd, amgylcheddol a chymunedol ehangach, gan gynnwys y gallu i gartrefu dros 3,000 o swyddi, a chefnogi gwerth £94m o gyflogau’r flwyddyn.

“Mae astudiaeth amgylcheddol yn sail i’r cynlluniau ar gyfer y safle ac mae gwella a rheoli cynefinoedd naturiol a bywyd gwyllt yn flaenoriaeth allweddol. Hefyd, bydd tua hanner y safle – sydd gyfystyr â thua 67 o gaeau pêl-droed – yn cael ei roi yn nwylo Parc Sirol Porthceri, gan ehangu’r cyfleusterau hamdden a chadw yn heini…

“Rydym yn cydymdeimlo gyda’r tenant, Mr Jenkins, a byddwn yn parhau i gyfathrebu gydag o fel rhan o’r camau nesaf yn y broses o wireddu’r gwaith ar y safle a dod â buddion i’r gymuned ehangach.”