Mae’r amaethwr, cyflwynydd ac ymgyrchydd dros gynnyrch cig, Gareth Wyn Jones, yn dweud bod sylwadau’r Gweinidog Newid Hinsawdd am fwyta cig “wir yn brifo”.

Daw ei feirniadaeth yn dilyn sylwadau Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd a ddywedodd y dylai pobl bwyta cig ar wyliau penodol.

“Yn bersonol rydw i wedi bod yn llysieuwr trwy gydol fy oes ond does dim byd o’i le ar fwyta cig, ond mae’n rhaid i ni ei fwyta ar adegau a gwyliau penodol yn unig,” meddai Julie James, Aelod o’r Senedd Llafur dros Orllewin Abertawe.

Ond mae Gareth Wyn Jones yn teimlo y bydd sylwadau’r gwleidydd yn cael effaith niweidiol y diwydiant.

“Dw i’n siomedig iawn i fod yn onest fod pobl sydd mewn swyddi mor uchel â hyn yn gallu dweud y pethau yma heb boeni am effaith eu geiriau,” meddai wrth golwg360.

“Mae angen iddyn nhw [Llywodraeth Cymru] dynnu eu bys allan a bod yn fwy cefnogol o amaeth yng Nghymru.

“Pan fydd gyda chi bobol mewn swyddi fel hyn, swyddi sâff, ble mae eu pensiynau’n nhw’n sâff a ble mae gyda nhw sedd ddiogel, dydy e ddim yn deg bod ganddynt yr hawl i ladd ar ein diwydiant ni.

“Mae hyn yn mynd i gael niwed uffernol ar y diwydiant.

“Ffermydd bach sy’n ceisio goroesi, talu morgais, sicrhau to uwch pennau eu plant, dydyn nhw [gwleidyddion] ddim yn ystyried y bobol hyn trwy wneud eu sylwadau.

“Mae cymaint o bwysau ar ysgwyddau ffermwyr ar hyn o bryd a dydyn nhw ddim yn haeddu hyn.

“Rydyn ni’n clywed am bethau fel hyn yn y wasg yn ddyddiol. Mae rhywun yn rhywle wastad am roi bai ar amaethwyr bob un dydd.”

Cefnogaeth i ffermwyr 

Mae Gareth Wyn Jones yn ymgyrchydd dros gig ar wefannau cymdeithasol ac mae ganddo ddilyniant o dros 38,000 ar twitter.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o wneud Cymru’n wlad garbon net sero erbyn 2050, ond mae Gareth Wyn Jones yn feirniadol o’r cynllun.

“Os ydyn nhw am gael Cymru digarbon erbyn 2050, eu lle nhw yw siarad gydag amaethwyr a dechrau meddwl am ffyrdd gwell o weithio gyda’r sector.

“Hoffwn i weld y llywodraeth yn sôn am hybu bwydydd mwy tymhorol, lleol ac sydd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, yn hytrach na thargedu’r diwydiant cig dro ar ôl tro.”

‘Deffrwch bobol!’

Daw sylwadau Julie James mewn cyfweliad gyda WalesOnline wrth drafod cynllun Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth drwy blannu mwy o goed.

“Mae yna lefydd ar gael i blannu coed ond mae modd gwneud hynny gan gynnal anifeiliaid hefyd, ond nid plannu coed yw’r ateb i bob dim i fynd i’r afael â newid hinsawdd,” meddai Gareth Wyn Jones.

“Dw i’n gweithio ar ben y Carneddau, ac uwch fy mhen yw’r prif goridor i’r awyrennau sy’n hedfan i America.

“Mae tua 30 i 40 yn pasio dros fy mhen bob awr ac mae’r llywodraeth yn credu mai ar y defaid bach mae’r bai.

“Dewch ymlaen, deffrwch bobol!

“Mae angen datblygu ffyrdd o greu bwyd cynaliadwy, defnyddio gwlân i ynysu ein tai.

“Mae angen iddyn nhw [Llywodraeth Cymru] wir edrych arnyn nhw eu hunain yn lle dilorni ar un sector o’r diwydiant.”

Mae Samuel Kurtz, y Gweinidog cysgodol dros Faterion Gwledig y Ceidwadawyr Cymreig wedi cyhuddo Julie james o “ddiffyg dealltwriaeth lwyr o gig fel rhan o ddeiet cytbwys”, a’i bwysigrwydd i’r economi amaethyddol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw’r sylwadau’n adlewyrchu unrhyw bolisi ganddyn nhw.

“Nid oes polisi gan Lywodraeth Cymru ar leihau faint o gig rydyn ni’n ei fwyta,” meddai.

“Cafodd y sylwadau hyn eu gwneud gan y Gweinidog fel rhan o gyfweliad 30 munud gyda Wales Online yn ymdrin â llawer o bynciau ac mae rhai o’i sylwadau, gan gynnwys yr un hwn, yn adlewyrchu ei barn bersonol neu’n sôn am uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

“Gallwch ddarllen mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i gefnogi’r diwydiant cig [ar ein gwefan].”

Dylai pobol fwyta cig “yn achlysurol” yn unig

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn dweud bod rhaid torri lawr ar fwyta cig