Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw bolisi ar leihau faint o gig sy’n cael ei fwyta, yn dilyn sylwadau gan weinidog.
Roedd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud bod angen i bobol fwyta llai o gig.
Dywedodd hi mewn cyfweliad â Wales Online fod angen i bobol “feddwl am y ffordd maen nhw’n bwyta”, a bod angen bwyta cig “yn achlysurol” yn unig.
Fe wnaeth y gweinidiog, sy’n llysieuwraig, y sylwadau wrth drafod cynlluniau’r Llywodraeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd, gan gynnwys gwaredu boeleri nwy erbyn 2030.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi beirniadu’r safbwyntiau gan ddweud bod Julie James yn dangos “diffyg dealltwriaeth” o bwysigrwydd cig mewn diet ac i economi cefn gwlad.
Barn bersonol
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw’r sylwadau’n adlewyrchu unrhyw bolisi ganddyn nhw.
“Nid oes polisi gan Lywodraeth Cymru ar leihau faint o gig rydyn ni’n ei fwyta,” meddai.
“Cafodd y sylwadau hyn eu gwneud gan y Gweinidog fel rhan o gyfweliad 30 munud gyda Wales Online yn ymdrin â llawer o bynciau ac mae rhai o’i sylwadau, gan gynnwys yr un hwn, yn adlewyrchu ei barn bersonol neu’n sôn am uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
“Gallwch ddarllen mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i gefnogi’r diwydiant cig [ar ein gwefan].”