Mae’r gêm ar-lein boblogaidd Wordle wedi cael ei phrynu gan un o gyhoeddiadau newyddion enwocaf y byd, y New York Times.

Ar ôl mynd o nerth i nerth dros yr wythnosau diwethaf, bydd y papur newydd, sydd wedi ei sefydlu yn Efrog Newydd, yn cymryd rheolaeth o’r gêm, ar ôl i’r sylfaenydd Josh Wardle, a gafodd ei fagu yn Sir Fynwy, ddweud ei fod yn “llethol” i’w gynnal.

Fe gyhoeddodd Josh Wardle, sydd bellach yn gweithio fel peiriannydd meddalwedd yn yr Unol Daleithiau, ei fod wedi penderfynu gwerthu’r gêm  ac fe ddiolchodd i’r holl ddefnyddwyr sydd wedi chwarae ei gêm a rhannu straeon gydag o yn ddiweddar.

Mae’n debyg bod Josh Wardle wedi derbyn mwy na miliwn o bunnoedd am y gêm bosau.

Wedi iddo newid dwylo, mae’n bosib y bydd rhaid i’r miliynau o ddefnyddwyr dyddiol dalu i chwarae’r gêm maes o law, gyda’r New York Times yn dweud y byddai ar gael am ddim ar hyn o bryd.

Sut i chwarae Wordle…

Gêm ar y we yw Wordle, ac mae’n debyg iawn i’r gêm fwrdd Mastermind o’r 1970au, a’r rhaglen deledu Lingo o’r 1980au a gafodd ei hatgyfodi gyda’r actor Adil Ray (Citizen Khan) yn ei chyflwyno ar ITV.

Nod y gêm yw dod o hyd i ‘air pum llythyren y dydd’, a gall y chwaraewr roi chwe chynnig arni i gyd.

Rhaid i bob gair sy’n cael ei ddyfalu fod yn air pum llythyren ac ar ôl pob cynnig, gall y chwaraewr weld pa lythrennau sy’n gywir ac sydd yn y lle cywir, pa lythrennau sy’n gywir ond sydd heb fod yn y lle cywir, neu’r llythrennau sy’n anghywir.

Os yw’r llythyren sy’n cael ei dyfalu yn y lle cywir, mae’r blwch yn troi’n wyrdd; os yw’r llythyren yn gywir heb fod yn y lle cywir, mae’r blwch yn troi’n oren; mae ymgais anghywir yn troi’r blwch yn llwyd.

Ar ôl rhoi cynnig ar air y dydd, mae’n rhaid aros tan y diwrnod canlynol ar gyfer y pos nesaf.

Mae’r gêm wedi dod yn hynod boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae chwaraewyr yn cael eu gwahodd i rannu eu hystadegau ar Facebook, Twitter ac ati.

Fis Tachwedd, adeg creu’r gêm, dim ond tua 90 o bobol oedd yn chwarae’r gêm ar y we, ond mae cannoedd o filoedd yn ei chwarae hi erbyn hyn.

Mae fersiwn Gymraeg o’r gêm – Gairglo – hefyd wedi cael ei greu ar gyfer gwefan hir-iaith, sy’n darparu adnoddau ar gyfer dysgwyr.

‘Mwy na wnes i erioed ei ddychmygu’

Fe gyhoeddodd Josh Wardle ar Twitter y byddai’n rhoi’r gorau i weinyddu’r gêm.

“Ers lansio Wordle, dw i wedi fy synnu gydag ymateb pawb sydd wedi ei chwarae,” meddai.

“Mae’r gêm wedi mynd yn fwy na wnes i erioed ei ddychmygu sydd, am wn i, ddim yn gamp mor fawr â hynny gan fy mod i wedi gwneud y gêm i un person yn wreiddiol!

“Mae hi wedi bod yn anhygoel i weld y gêm yn dod â chymaint o hapusrwydd i gymaint o bobol, a dw i’n ddiolchgar iawn am y straeon personol mae rhai ohonoch wedi rhannu gyda fi – gan gynnwys bod Wordle wedi uno aelodau pell o’r teulu, wedi achosi cystadlaethau cyfeillgar, ac wedi cefnogi adferiadau meddygol.

“Ar y llaw arall, byddwn i’n dweud celwydd pe bawn i’n dweud bod hyn heb fod yn llethol. Wedi’r cyfan dim ond un person ydw i, ac mae’n bwysig i fi bod Wordle yn parhau i ddarparu profiad da i bawb fel mae’n tyfu.

“Oherwydd hynny, dw i’n falch iawn o gyhoeddi fy mod wedi dod i gytundeb gyda’r New York Times, a fydd yn rhedeg Wordle o hyn ymlaen.”