Dylai canfyddiadau ymchwiliad yr heddlu i bartïon yn Rhif 10 a San Steffan gael eu cyhoeddi, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Dominic Raab.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i 12 o bartïon ar wahanol achlysuron – gan gynnwys tri lle’r oedd Boris Johnson yn bresennol ac un yn fflat Downing Street y Prif Weinidog.
Gallai cosbau i’r rhai sydd wedi torri’r rheolau gael eu cyfyngu i hysbysiadau cosb benodedig, na ellid eu datgelu’n gyhoeddus, ond dywedodd Dominic Raab, y Dirprwy Brif Weinidog, bod yn “rhaid cael cyfiawnder a gweld y cyfiawnder hwnnw yn cael ei weithredu”.
Fodd bynnag, dywedodd fod Boris Johnson yn “credu ei fod wedi gweithredu o fewn y rheolau bob amser”, gan awgrymu nad yw’r Prif Weinidog yn credu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Mae swyddogion yn archwilio cannoedd o ddogfennau a ffotograffau mewn perthynas â’r 12 digwyddiad yn 2020 a 2021 a gynhaliwyd tra bod Lloegr dan gyfyngiadau coronafeirws.
Cafodd y dystiolaeth ei throsglwyddo i’r heddlu gan y tîm ymchwilio dan arweiniad yr uwch was sifil Sue Gray.
Fe wnaeth ei hadroddiad cychwynnol ddydd Llun (31 Ionawr) dynnu sylw at “fethiannau o ran arweinyddiaeth” wrth wraidd y Llywodraeth ond nid oedd yn pwyntio bys at unrhyw unigolion.
Dywedodd Dominic Raab wrth raglen ‘Today’ BBC Radio 4: “Mae’n rhaid cael cyfiawnder a gweld y cyfiawnder hwnnw yn cael ei weithredu.
“Ond dydw i ddim yn credu bod angen i mi bregethu nac yn wir cynghori’r Heddlu Metropolitan am sut i gynnal ymchwiliad.”
Pan ofynnwyd iddo a ddylai Boris Johnson ymddiswyddo pe bai’n cael hysbysiad cosb benodedig am dorri rheolau coronafeirws, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog bod angen “i ni aros i weld”.
“Gadewch i’r heddlu gynnal eu hymchwiliad a gweld, pan fyddant wedi canfod y ffeithiau, y casgliad maen nhw’n dod ato.”
Mae’r heddlu’n archwilio tua 300 o luniau fel rhan o’r ymchwiliad i’r partïon honedig.
Pan ofynnwyd pam fod cymaint o luniau wedi eu tynnu yn yr hyn y mae’r Llywodraeth wedi honni oedd yn ddigwyddiadau gwaith, dywedodd Dominic Raab wrth Sky News fod hynny’n “gwestiwn da”.