Mae Boris Johnson wedi addo gwneud newidiadau i’r ffordd mae Rhif 10 a’r Swyddfa Gabinet yn gweithredu wrth iddo ymddiheuro yn Nhŷ’r Cyffredin am bartïon yn Rhif 10.

Daw hyn wrth i ganfyddiadau cychwynnol adroddiad Sue Gray gael eu cyhoeddi.

Dydy’r adroddiad ddim wedi cael ei gyhoeddi’n llawn, oherwydd mae’r cyhuddiadau mwyaf difrifol yn destun ymchwiliad gan Heddlu Llundain ar hyn o bryd.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod sawl digwyddiad yn y llywodraeth yn gyfystyr â “methiant difrifol” i gadw at yr hyn roedden nhw’n gofyn i’r cyhoedd ei wneud.

Mae’n dweud ymhellach fod yna “fethiant o ran arweinyddiaeth a’r gallu i farnu gan wahanol rannau o Rif 10 a’r Swyddfa Gabinet”, ac na ddylai nifer o gynulliadau “fod wedi gallu cael eu cynnal na datblygu yn y modd y gwnaethon nhw”.

Ymddiheuriad

Dechreuodd Boris Johnson drwy ymddiheuro “am y pethau na chawsom yn iawn” a’r “ffordd yr ymdriniwyd â’r mater hwn”.

Dywed ei fod yn derbyn canfyddiadau adroddiad Sue Gray, gan ddweud bod yn “rhaid i ni edrych arnom ein hunain yn y drych”.

Fodd bynnag, derbyniodd Boris Johnson hefyd nad oedd ymddiheuro yn unig yn “ddigonol”

“Dyw dweud sori ddim yn ddigonol,” meddai.

“Mae hon yn foment lle mae’n rhaid i ni edrych arnom ein hunain yn y drych ac mae’n rhaid i ni ddysgu.

“A thra bod yn rhaid i Heddlu Llundain gwblhau eu hymchwiliad, sy’n golygu nad oes manylion unrhyw ddigwyddiadau penodol yn adroddiad Sue Gray, rwyf wrth gwrs yn derbyn adroddiad Sue Gray.

“Rwyf hefyd yn derbyn bod yn rhaid i ni ddysgu o’r digwyddiadau hyn a gweithredu nawr.”

Ychwanegodd fod y Llywodraeth yn gwneud newidiadau i’r ffordd mae Rhif 10 a Swyddfa’r Cabinet yn gweithredu yn sgil yr adroddiad.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys creu ‘Swyddfa’r Prif Weinidog’ gydag Ysgrifennydd parhaol i arwain Rhif 10, yn ogystal â diweddaru codau ymddygiad gweision sifil ac ymgynghorwyr arbennig yn y Llywodraeth.

‘Dyn heb gywilydd’

Wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, galwodd Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ar Aelodau Seneddol Ceidwadol i ddod â’r “ffars yma i ben” a galw pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Dywedodd fod y Prif Weinidog “yn ddyn heb gywilydd” am beidio ymddiswyddo dros ganfyddiadau adroddiad Sue Gray.

“Rydym nawr yn ymwybodol fod 12 o achosion bellach yn destun ymchwiliad troseddol,” meddai.

“Rwyf am atgoffa’r Tŷ fod hynny yn golygu bod yno dystiolaeth ddifrifol fod rheolau’r clo mawr wedi cael eu torri, gan gynnwys y parti ar 20 Mai 2020, lle rydym yn gwybod fod y Prif Weinidog yn bresennol mewn parti ar 13 Tachwedd 2020 yn fflat y Prif Weinidog.

“Does dim amheuaeth fod y Prif Weinidog yn destun ymchwiliad troseddol.

“Drwy dorri’r rheolau y gwnaeth e ei hun eu gosod, fe wnaeth y Prif Weinidog ein trin ni gyd fel ffyliaid.

“Mae eto wedi dangos nad yw’n ffit i fod yn y swydd, a dyw’r ffordd y mae wedi ceisio gwadu ers cael ei ddal allan ddim ond wedi gwaethygu’r sefyllfa.

“Yn hytrach na chyfaddef yr hyn wnaeth e, mae e wedi sarhau deallusrwydd y cyhoedd.”

Cyhuddodd weinidogion y Llywodraeth o “ddiraddio eu hunain a’u swyddfeydd” drwy ei amddiffyn.

Wrth apelio ar aelodau Ceidwadol i weithredu yn erbyn Boris Johnson, dywedodd Keir Starmer fod “llygaid y wlad hon arnyn nhw”.

“Byddan nhw’n cael eu barnu ar sail y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud nawr,” meddai.

‘Gad i’r heddlu wneud eu gwaith’

Dywedodd Boris Johnson wrth Keir Starmer am “adael i’r heddlu wneud ei gwaith”.

“Nid yw’r adroddiad yn gwneud dim i brofi’r nonsens y mae newydd ei ddweud,” meddai.

“Mae gen i hyder llwyr yn yr heddlu ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n cael bwrw ymlaen gyda’r gwaith.”

Ond “cuddio y tu ôl i ymchwiliad yr heddlu” y mae’r Prif Weinidog, yn ôl Syr Keir Starmer.

Gorchymyn Ian Blackford i adael y siambr

Cafodd Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, ei daflu allan o’r siambr wrth i densiynau gynyddu.

Cyhuddodd Ian Blackford y prif weinidog o ddweud celwydd wrth Dŷ’r Cyffredin – rhywbeth nad ydych yn cael gwneud.

Rhoddodd y Llefarydd sawl cyfle iddo newid ei sylwadau i ddweud bod Boris Johnson wedi “camarwain yn anfwriadol”.

Ond gwrthododd Ian Blackford wneud hynny ac, o ganlyniad, cafodd orchymyn i adael i siambr gan  Syr Lindsay Hoyle.

Adroddiad Sue Gray: ymddygiad Boris Johnson “yn anodd i’w gyfiawnhau”, medd Chris Bryant

Plaid Cymru’n galw am ymddiswyddiad, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ei ddiswyddo