Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fydd yr eicon diweddaraf i gael ei phortreadu ar y gyfres ddiweddaraf o Cymry ar Gynfas ar S4C.

Mae pob pennod o’r gyfres boblogaidd, sy’n cael ei chynhyrchu gan Wildflame Productions, yn dilyn un artist wrth iddyn nhw greu portread a chlywed hanes bywyd ffigwr blaenllaw o Gymru.

Heno (dydd Llun, Ionawr 31), bydd yr artist Lowri Davies yn creu portread o’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, ym mhennod gyntaf y drydedd gyfres.

Mae Liz Saville Roberts wedi siarad â golwg360 cyn y rhaglen am y profiad o gael ei phortreadu.

Cymry ar grochenwaith?

Mae gan y gwleidydd blaenllaw ddiddordeb mawr mewn celf, ac roedd hi “rhwng dau feddwl” ynglŷn â dilyn gradd mewn celf yn Llundain neu astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth.

Dywed hi mai’r “Gymraeg ddaru ennill” o’r ddau ddewis, ond bod y diddordeb wedi parhau mewn celf ar hyd ei hoes.

Mae Lowri Davies, sydd wedi cael y cyfrifoldeb o bortreadu’r Aelod Seneddol, wedi defnyddio dull gwahanol i’r arfer o wneud hynny.

Eglura Liz Saville Roberts fod y gwaith, sydd ar ffurf y “traddodiad Cymreig” o gynnal te parti, yn cyfleu gwahanol ddelweddau o’i bywyd hi.

“Mi oedd gen i ddiddordeb o ran gweld y broses oedd Lowri yn ei dilyn, a ro’n i wedi edrych ar y math o waith oedd hi’n ei gwneud cyn iddi gytuno,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n hoffi ei harddull hi – mae ei defnydd hi o liw, a’r math o fanylder yn y lluniau mae hi’n ei wneud…

“Hefyd, ro’n i’n hoff o’r ffaith ei bod hi’n gwneud crochenwaith, ac nid y dull traddodiadol o bortreadu rhywun ar gynfas.

“Mae’r broses gyda chrochenwaith yn wahanol yn y ffordd rydych chi’n creu’r porslen a’r lliwiau rydych chi’n ei ddefnyddio ac ati.

“Roedd trafod hynny gyda hi yn ddiddorol a gweld y broses o greu. Roedd y ddwy ohonon ni’n siarad cymaint, roedd rhaid i’r criw ffilmio dorri ar ein traws ni sawl gwaith!”

Herio traddodiad

Roedd Liz Saville Roberts hefyd yn hoff iawn o’r ffaith fod y gwaith yn mynd yn groes i’r traddodiad o bortreadu unigolion ar gynfas, rhywbeth sy’n gallu cael ei gysylltu â Phrydeindod a gwrywdod.

“Rydych chi’n mynd o gwmpas San Steffan ac rydych chi’n gweld portreadau hanesyddol bron yn ddieithriad o ddynion ar y waliau,” meddai.

“Mae o’n rhywbeth Cymreig a’n rhywbeth benywaidd am y ffaith ei fod yn grochenwaith at ddefnydd yn y cartref.

“Maen nhw’n hyfryd iawn, ac mae yna ddelweddau arnyn nhw sy’n rhan fawr o fy mywyd i.”

‘Profiad dwys a gwerthfawr’

Wrth edrych yn ôl dros y profiad, mae hi’n dweud ei bod hi wedi gwerthfawrogi’r cyfle yn fawr iawn.

“Oedd hi’n anodd paratoi am y fath raglen,” meddai.

“Roedd hi’n broses ddwys fel petai, doedd o ddim yn rhywbeth arwynebol a sydyn.

“Roedd yna lawer iawn o siarad a meddwl i sôn am wahanol agweddau am ba mor bwysig oedd teulu a chartref i fi.

“Roedd yn brofiad dwys a gwerthfawr iawn, ac yn gyfle i fi gymryd cam yn ôl a meddwl am fy mywyd i fy hun.

“Fel arfer, mae gwleidyddion yn rhoi ymddangosiad sgleiniog fel petai ymlaen, ond roedd y profiad yn ddyfnach na hynny.”