Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru wedi lansio ymgynghoriad er mwyn gweld a yw pobol yn awyddus i ddychwelyd i lwyfannau eisteddfodau eleni.

Bwriad yr holiadur ‘A fyddi di’n mentro nôl i’r llwyfan yn 2022?’ yw casglu barn cefnogwyr a dilynwyr eisteddfodau a gweld faint o ddiddordeb sydd gan bobol i gystadlu unwaith eto.

Bydd atebion yr holiadur yn helpu cynrychiolwyr o 120 o eisteddfodau lleol i ystyried sut mae denu cystadleuwyr a chynulleidfaoedd o’r newydd, a dod â lliw yn ôl i lwyfannau eisteddfodau.

Wrth lenwi’r holiadur, bydd gan unawdwyr, partïon, corau, grwpiau, dysgwyr, beirdd, llenorion a steddfotwyr o bob oed a chefndir gyfle i ddweud pa elfennau o’r cystadlu sy’n apelio atyn nhw er mwyn helpu i gynllunio eisteddfodau’r dyfodol.

‘Llafur cariad’

Nid ar chwarae bach mae trefnu eisteddfod, sy’n “gwbl ddibynnol ar lafur cariad ugeiniau o swyddogion sy’n rhoi o’u hamser yn frwdfrydig i lunio rhestrau testunau, trefnu rhaglen, lleoliad, beirniaid, gwobrwyon, a lluniaeth”, meddai Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Dywed Megan Jones Roberts, cadeirydd y gymdeithas, fod “arwyddion gobeithiol iawn ymhlith ein pwyllgorau eleni, gan fawr obeithio bod y gwaethaf o Covid-19 y tu ôl i ni”.

“Bydd yr ymgynghoriad yma’n gymorth mawr wrth i ni gynllunio i’r dyfodol,” meddai.

“Fel Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, edrychwn ymlaen at gefnogi gwaith y pwyllgorau lleol wrth iddynt wynebu’r her a chynnig cyfle o’r newydd i greu bwrlwm cymunedol.”

Mewn blwyddyn arferol, byddai o gwmpas 120 o eisteddfodau’n cael eu cynnal, gan ddenu tua 11,000 o gefnogwyr, a thros 5,000 o gystadlaethau’n cael eu cynnal.

Er bod cymunedau a gynhaliodd eisteddfodau’n rhithiol neu ddim ond â chystadlaethau gwaith cartref yn ystod y pandemig wedi gweld “cynnydd aruthrol” yn nifer y cystadleuwyr, y farn gyffredinol ymhlith cynrychiolwyr yw nad oes unrhyw beth yn cymharu â’r profiad o fod mewn eisteddfod go iawn.