Mae’r actor Ieuan Rhys wedi talu teyrnged i Wyn Calvin, y diddanwr o Arberth fu farw yr wythnos hon yn 96 oed.

Yn un o wyth o blant, symudodd Wyn Calvin o Arberth i Gaerdydd yn bump oed, ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Canton, sydd bellach yn gartref i Ganolfan y Celfyddydau Chapter.

Ond yn y New Theatre yn y brifddinas y cwympodd e mewn cariad â’r celfyddydau a pherfformio, a hynny pan oedd e’n dal yn blentyn.

“Theatr ddaeth yn agos iawn i’w galon am weddill ei fywyd, gan iddo berfformio yna droeon fel y ‘Dame’ mewn sawl pantomeim,” meddai Ieuan Rhys wrth golwg360.

Yn ystod yr ail rhyfel byd buodd yn rhan o ENSA yn diddanu’r milwyr ar hyd a lled Ewrop, ac fe ddaeth cyfle wedyn i ymddangos ar raglenni radio i’r BBC fel Welsh Rarebit, gan chwarae’r cymeriad Tommy Trotter, a Workers Playtime oedd yn cael eu darlledu o’r stiwdios yn Park Place yn y brifddinas.

Ac fel pob diddanwr da, roedd angen llysenw arno, fel yr eglura Ieuan Rhys.

“Pan oedd yn teithio a pherfformio o gwmpas theatrau Prydain, roedd rhaid bathu llys enw i fynd gyda’i enw ar y posteri,” meddai.

The Welsh Prince of Laughter’ oedd ei lysenw, a theithiodd ledled Prydain yn perfformio gyda diddanwyr fel Morecambe and Wise, Ken Dodd, Shirley Bassey, ac hyd yn oed Laurel & Hardy.

“Dwi’n cofio ei weld am y tro cynta’ erioed mewn sioe yn Llandudno – tre’ lle buodd yn perfformio’n aml – ac yna sawl gwaith yng Nghaerdydd yn y pantomeimiau.”

Roedd yn gyfranwr cyson i BBC Radio Wales a chanddo sioe siarad ei hyn ar deledu BBC Cymru Wales.

Roedd hefyd yn gwneud llawer o waith elusennol gan gynnwys elsuen Arch Noa – Hospis Plant Cymru.

Daeth un o’i ymddangosiadau olaf fis Medi y llynedd, a hynny mewn achlysur i ddathlu ei ben-blwydd yn 96 oed, ac hefyd i ddathlu 75 o flynyddoedd fel diddanwr.

Atgof personol

Ar ôl ei bantomeim cyntaf yn Reading yn 1945, fe ymddangosodd mewn 54 o bantomeimiau ar hyd a lled Prydain, ond mae gan Ieuan Rhys atgof arbennig ohono’n rhan o’r gynulleidfa un tro hefyd.

“Daeth Wyn i weld pantomeim ro’n i ynddi ar un adeg,” meddai.

“Roedd e’n deimlad sbesial bo fe yn y gynulleidfa, a braf oedd cael sgwrs ag e wedi’r sioe ac ro’n i yn falch ei fod e wedi mwynhau.”