Synnwyr yr arogl yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i un o’r perfformiadau arloesol a fydd yn ymddangos yng Ngŵyl Gerdd Bangor eleni.
Bydd y cysyniad gan y cerddor Rhodri Davies yn cael ei arddangos yn ystod yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Pontio rhwng 11 a 12 Chwefror.
Yn rhan o’r perfformiad, bydd persawrau penodol, gan gynnwys oglau jasmin a ffa coffi, yn cael eu cyfuno gyda cherddoriaeth er mwyn creu profiad o’r newydd i’r gynulleidfa, sy’n cael ei alw’n Smound.
Mae Smound yn brofiad seicolegol sy’n cael ei achosi pan mae arogleuon a synau yn cyfuno yn yr ymennydd.
Thema’r Ŵyl eleni fydd y synhwyrau, felly mae cyfres o ddarnau wedi eu paratoi yn ymwneud â’r testun hwnnw.
Ysbrydoliaeth
Fe soniodd Rhodri Davies, sy’n delynor a chyfansoddwr o Aberystwyth, ychydig am y gwaith mae wedi ei ddyfeisio, Clywed Arogl.
Eglurodd mai ei brofiadau ei hun o golli synnwyr arogli a blasu a ysbrydolodd.
“Yn 1999 collais fy synnwyr arogli a blas yn sylweddol,” meddai.
“Er bod adferiad rhannol wedi bod dros y blynyddoedd mae’r ddau synnwyr yn parhau i fod ar drai.
“Dangoswyd bod hyfforddiant arogl yn helpu i wella mewn rhai astudiaethau, ac mae’n cynnwys ysgogi’r nerfau arogli dro ar ôl tro.
“Yn draddodiadol mae sgorau cerddorol yn rhoi bri i’r llygad ond rwy’n awyddus i ymchwilio i sut y gall sain gael ei ysbrydoli gan wahanol fathau o arogleuon.
“Wrth wrando ar gyngerdd nid yw’r gynulleidfa byth yn gweld y sgôr, beth mae’r cerddorion yn ei chwarae. Yn yr un modd efallai nad ydyn nhw’n arogli’r hyn mae’r perfformwyr yn ei arogli chwaith.
Arbrawf llwyr
Yn perfformio ar y diwrnod fydd Rhodri, ei chwaer, y feiolinydd Angharad Davies, a’u ffrind, Patricia Morgan, ar yr allweddellau a’r gitâr fas.
Bydd y perfformiad yn cael ei dorri’n ddau ran: Yn y rhan gyntaf, bydd y triawd yn perfformio mewn gwahanol rannau ym Mhontio, cyn sefydlu ar un o lwyfannau’r ganolfan ar gyfer yr ail ran.
“Dyma fydd y tro cyntaf i mi wneud hyn ac mae’n arbrawf llwyr,” ychwanegodd Rhodri.
Yn ôl cyfarwyddwr yr ŵyl, Guto Puw, mae Rhodri Davies yn un o gerddorion arbrofol mwyaf blaenllaw’r byd ac wedi bod yn nodwedd o’r ŵyl yn y gorffennol.
“Y synhwyrau yw themâu’r ŵyl ac mae rhywbeth am y synhwyrau ym mhob cyngerdd,” meddai.
“Mae clywed yn un amlwg a’r tric yw dod â’r synhwyrau eraill i mewn i’r ŵyl.”