Mae un o swyddogion yr Urdd yn Ninbych yn dweud y bydd hi’n “fraint” gallu cynnal Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn arbennig i’r mudiad.

Wedi ei sefydlu yn Ionawr 1922, mae Urdd Gobaith Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni, ac mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i nodi hynny.

Mae’n Ddiwrnod Cariad @ Urdd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25), ac mae sawl digwyddiad rhithiol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ymgais i dorri record byd.

Gan mlynedd yn ôl, mewn erthygl yng nghylchgrawn Cymru’r Plant, gofynnodd sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, i blant Cymru ymuno â mudiad newydd o’r enw ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’, gan nad oedd yn teimlo fod digon o gyfleoedd i blant Cymru ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Bellach, yr Urdd yw un o’r mudiadau ieuenctid cenedlaethol mwyaf yn Ewrop, ac mae Eisteddfod yr Urdd yn dystiolaeth flynyddol o hynny, wrth i filoedd o blant ymgasglu ar y maes arbennig.

Mae’n siŵr na fyddai trefnwyr yr ŵyl yn Sir Ddinbych eleni wedi rhagweld dwy flynedd yn ôl y byddai eu heisteddfod nhw yn digwydd ar flwyddyn y garreg filltir.

Roedd disgwyl i’r Eisteddfod gael ei chynnal ar gyrion tref Dinbych yn 2020, ond oherwydd y pandemig, roedd yn rhaid ei gohirio tan eleni, sy’n golygu y bydd yr Eisteddfodau yn Llanymddyfri a Machynlleth yn cael eu symud i 2023 a 2024.

“Gwych ei fod o’n dod” ar y canmlwyddiant

Mae Ioan Rees yn un o swyddogion yr Urdd yn Sir Ddinbych, ac yn un sydd ynghlwm â threfniadau’r Eisteddfod eleni.

“Mae’n fraint i ni yn sicr,” meddai wrth golwg360.

“Wrth ystyried canmlwyddiant, mae’n beth gwych ei fod o’n dod [i Ddinbych].

“Mae’n siŵr bod lot o bobol yn fed-up o glywed bod yr Eisteddfod yn dod i Ddinbych bob blwyddyn, a’n cael eu siomi bob tro mae wedi cael ei ganslo dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Dydy o’n sicr ddim yn beth newydd i glywed bod yr Eisteddfod yn dod i Ddinbych!

“Ond dw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn falch ei fod o wedi dod rŵan, ac y byddwn ni’n cael cynnal Eisteddfod ym mlwyddyn y canmlwyddiant.

“Mae o’n massive, ac yn rhywbeth y byddwn ni gyd yn gwneud ffys mawr amdano pan fydd o’n dod!”

Er nad oedd Ioan Rees yn gweithio i’r mudiad tan yn ddiweddar, mae’n egluro sut roedd y ddwy flynedd yn heriol i’r trefnwyr.

“Mae gen ti bobol ar bwyllgor yr Eisteddfod sydd, dros y tair blynedd diwethaf, wedi bod yn mynd drwy bopeth,” meddai.

“Bob blwyddyn, bron iawn, roedd yn rhaid iddyn nhw gychwyn eto o sgwâr rhif un fel petai.”

Eisteddfod “wahanol”

Er bod pawb yn gobeithio na fydd hi’n cael ei chanslo, bydd yr Eisteddfod eleni yn parhau i fod dan gysgod y pandemig beth bynnag.

Mae’r mudiad wedi penderfynu y bydd yr holl Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yn digwydd heb gynulleidfa, ac eithrio un rhiant neu ofalwr i gynrychioli pob cystadleuydd, a chyfeilydd pan fo angen.

Bydd croeso i’r rhiant neu ofalwr recordio eu plentyn mewn cystadleuaeth unigol yn wahanol i’r arfer, ac ar ben hynny, bydd cystadlaethau 19-25 oed yn mynd yn syth i’r Genedlaethol am y tro cyntaf eleni.

O ran yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun, mae hynny “eto i gael ei benderfynu”, meddai Ioan Rees.

Felly sut olwg fydd ar yr Eisteddfod bwysig hon?

“Dw i’n meddwl y bydd llawer mwy [o’r Eisteddfod] y tu allan. Mae yna drafodaethau ynglŷn â’r sioeau cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd ac efallai bydd y rheiny tu allan,” meddai.

“Mae pob peth yn mynd i gael eu cadarnhau, ond rydyn ni’n trio cadw popeth mor agos i Eisteddfod arferol â’r ydyn ni’n gallu. Ond yn amlwg achos Covid, rydyn ni eisiau cadw pawb yn saff hefyd.

“Un peth fyswn i’n dweud wrth bawb, mae’n rhaid i ni werthfawrogi bod yr Eisteddfod ymlaen, er y bydd hi’n wahanol.

“Y neges bwysig rydyn ni eisiau ei gael allan i bawb ydi bod pob person ifanc am gael y cyfle i fod yn rhan.”