Mae Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) wedi datgan eu pryder am ddiffyg cyllid newydd i gefnogi dwy gronfa sy’n ariannu cynnwys i blant a chynnwys sain.
Wrth ymateb i benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â darparu cyllid trwy Ffi’r Drwydded Deledu i gefnogi parhad y Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc (YCAF) a’r Gronfa Cynnwys Sain (ACF), dywed TAC eu bod nhw’n “siomedig iawn”.
Mae’r Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc wedi bod yn arbennig o bwysig wrth gynyddu lluosrwydd, gwella ansawdd ac uchelgais cynnwys i blant, a chreu buddion diwylliannol ac economaidd, meddai Dyfrig Davies, cadeirydd TAC.
Bydd ffi’r drwydded deledu’n cael ei rhewi am ddwy flynedd, gyda chynnydd yn ôl lefelau chwyddiant am dair blynedd wedyn, a bydd S4C yn derbyn £7.5m ychwanegol bob blwyddyn am y bum mlynedd nesaf.
‘Budd diwylliannol’
Dywed Dyfrig Davies, cadeirydd TAC, y bydd y grŵp yn ysgrifennu at Nadine Dorries i fynegi eu pryderon ac i alw am gyllid pellach ar gyfer y dyfodol.
“Rydym yn siomedig iawn o glywed nad oes unrhyw gyllid ar gael ar hyn o bryd i barhau â gwaith yr YACF a’r ACF, fel y cadarnhawyd yn y llythyrau gan DCMS at y BBC ac S4C ynghylch setliad Ffi’r Drwydded Deledu,” meddai.
“Mae’r YACF wedi bod o werth mawr i gynhyrchwyr Cymru, rhai ohonynt yn arbenigo mewn cynnwys plant.
“Mae’r targed o 5% ar gyfer cynnwys mewn ieithoedd brodorol wedi bod o bwys diwylliannol mawr i’r iaith Gymraeg, ac mae wedi cael ei groesawu wrth i’n sector ac S4C gael mynediad i’r Gronfa i gynhyrchu cynnwys newydd ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
“Rydym felly yn hynod siomedig nad yw’n parhau.
“Mae ein haelodau wedi ei gwneud yn glir i ni, ynghyd ag argaeledd rhyddhad Treth Teledu i Blant, fod YACF wedi bod yn hanfodol i wrthdroi’r gostyngiad mewn buddsoddiad gan Ddarlledwyr Cyhoeddus yng nghynnwys plant yn genedlaethol.
“Mae wedi cynyddu lluosogrwydd, gwella ansawdd ac uchelgais cynnwys plant a’r budd diwylliannol cysylltiedig i Gymru, ac ar yr un pryd rhoi hwb economaidd sylweddol i’r sector yng Nghymru.
“Mae’r meini prawf ariannu hefyd wedi agor y drws i gyfleoedd cyd-gynhyrchu i S4C a chynhyrchwyr Cymru.”
Ychwanega Dyfrig Davies fod y Gronfa Cynnwys Sain wedi cael ei gwerthfawrogi gan eu haelodau sy’n cynhyrchu rhaglenni radio, a bod ganddi hithau hefyd darged o 5% ar gyfer cynnwys mewn ieithoedd brodorol.