Mae dathliadau canmlwyddiant mudiad ieuenctid yr Urdd yn dechrau’n swyddogol heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25), gyda’r parti pen-blwydd rhithiol mwyaf yn hanes yr Urdd ac ymgais i dorri record byd.

Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn agor arddangosfa newydd i nodi canmlwyddiant y mudiad, ac mae adeiladau eiconig megis Senedd Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i chwifio baner yr Urdd neu oleuo’n goch, gwyn a gwyrdd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Am 10.30yb ar Ddiwrnod Cariad @Urdd, bydd y parti’n cael ei gynnal dros Zoom yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, Mistar Urdd a Mei Gwynedd, gyda’r cyfan yn cael ei ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg ar Radio Cymru a Radio Wales.

Rhwng 10.45-11.45yb, bydd gofyn i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yn yr ymgais i dorri record byd Guinness uwchlwytho fideo o unigolion, grwpiau a theuluoedd yn canu fersiwn fer o’r gân enwog Hei Mistar Urdd i Twitter a Facebook.

Mae dros 80,000 o bobol – o ysgolion i elusennau a grwpiau cymunedol – eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan yn y dathliadau.

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru ar yr hyn sy’n addo i fod yn ddathliad canmlwyddiant cyffrous iawn,” meddai Alan Pixley, Pennaeth Cynhyrchu Digwyddiadau Byd-eang Guinness World Records.

“Nid camp hawdd yw sicrhau teitlau Guinness World RecordsTM a dymunwn bob lwc i’r holl gyfranogwyr ynghyd ag Urdd Gobaith Cymru gyda’u hymdrechion.

“Mae ein beirniaid yn edrych ymlaen at weld y fideos ac yn gobeithio medru coroni Urdd Gobaith Cymru fel deiliaid record byd am y nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân a uwchlwythwyd i Facebook mewn awr, a’r fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân a uwchlwythwyd i Twitter mewn awr.”

‘Ein dyled yn fawr i Syr Ifan’

Fis Ionawr 1922, mewn erthygl yn y cylchgrawn Cymru’r Plant, galwod Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, ar blant Cymru i ymuno â mudiad newydd o’r enw ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’, gan gredu nad oedd digon o gyfleoedd i blant Cymru ddefnyddio’r Gymraeg.

“Mae ein dyled ni fel cenedl yn enfawr i weledigaeth Syr Ifan,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae’r Urdd wedi bod yn fudiad hollol unigryw ac arloesol ers y cychwyn, ac mor berthnasol heddiw i fywydau pobl ifanc ag yr oedd ganrif yn ôl.

“Mae cyrraedd y garreg filltir arbennig hon yn gyfle inni ddathlu stori’r Urdd ac edrych tua’r dyfodol.

“Mae’r Urdd wedi darparu cyfleoedd unigryw i fwy na phedair miliwn o blant a phobol ifanc Cymru fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, o chwaraeon i’r celfyddydau, profiadau preswyl, dyngarol, awyr agored, gwirfoddol, hyfforddiant a rhyngwladol.

“Dyma’r unig fudiad sy’n cynnig amrywiaeth mor eang i’n pobol ifanc ac felly haedda ei le fel prif fudiad ieuenctid Cymru.

“A hithau’n Ddiwrnod Santes Dwynwen, galwaf ar bawb yng Nghymru (a thu hwnt!) i ddangos eich cariad at yr Urdd drwy ymuno yn nathliadau’r canmlwyddiant, a’n helpu i dorri record byd.”

“Partneriaeth arbennig” yr Urdd a BBC Cymru

“Mae BBC Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau 100 mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru.

“Mae gan yr Urdd a BBC Cymru bartneriaeth arbennig sy’n ymestyn dros ddegawdau, gyda’r BBC yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd ers y saithdegau.

“Mae’r mudiad wedi chwarae rhan mor bwysig yn darparu cyfleoedd i blant Cymru, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae gen i atgofion melys iawn o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ac o benwythnosau llawn hwyl yn ymweld â Llangrannog a Glan-llyn.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wrando ar y dathliadau ar Radio Cymru a Radio Wales ar 25 Ionawr.”

Arddangosfa’r Urdd

I nodi’r canmlwyddiant, mae arddangosfa wedi agor yn Sain Ffagan er mwyn arddangos rhai o’r gwrthrychau sy’n adrodd hanes ac esbonio dylanwad yr Urdd.

Mae arddangosfa ‘Cymru… yr Urdd’ yn cynnwys tystysgrif a rosét sidan o Eisteddfod gyntaf yr Urdd a gynhaliwyd yng Nghorwen, 1929, a’r Neges Ewyllys Da gyntaf o 1922.

Mae’r Mistar Urdd cyntaf i deithio i’r gofod yn rhan o’r casgliad hefyd, yn ogystal â’r triban o un o gabanau pren Glan-llyn, ac arwydd gwreiddiol cwch y Brenin Arthur, Glan-llyn.

Dywedodd Sioned Hughes, Prif Guradur Hanes Modern yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i’r Urdd yn 100!

“Mae’r Urdd yn rhan bwysig iawn yn hanes Cymru ac i blant a phobl ifanc Cymru ac mae’r arddangosfa hon yn gyfle i ni gydweithio gyda’r Urdd i arddangos rhai o’i gwrthrychau eiconig yma yn Sain Ffagan.”

Bydd yr arddangosfa ar agor nes 5 Mehefin 2022.