Mae’r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, yn galw am gynnwys tudalen ddyddiol o newyddion Cymraeg yn y Daily Post.

Er bod yr atodiad wythnosol o’r Herald Cymraeg yn y Daily Post yn “fwy swmpus ac yn dangos mwy o barch i’r Gymraeg” nawr nag y bu, mae’n “amlwg bod lle i wella”, meddai.

Y Gymraeg yw “un o’r elfennau cyntaf i ddioddef” yn sgil yr awydd i greu elw, meddai Tudur Huws Jones, cyn-olygydd Yr Herald, gan ychwanegu bod yr iaith yn “haeddu gwell”.

Daeth Yr Herald, papur ar gyfer Arfon a Sir Fôn, i ben yn 2005 ar ôl 150 o flynyddoedd ac ers hynny, mae wedi’i gynnwys fel atodiad wythnosol yn y Daily Post.

Reach PLC sy’n berchen ar y Western Mail a’r Daily Post, ac mae Myrddin ap Dafydd yn gofyn a oes modd i’r ddau bapur rannu’r un cynnwys a cholofnau Cymraeg.

Byddai hynny’n golygu mwy o gynnwys heb fynd i gostau ychwanegol, meddai.

‘Parch at yr iaith’

“Arferai’r papur gynnwys ychydig o eirfa ar gyfer dysgwyr, a bu hyn o gymorth mawr i lawer,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Roedd yn dangos parch at y rhai sy’n ceisio dysgu a gwella eu Cymraeg.

“Os ydym am gyrraedd nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, byddai buddsoddi yr yn yr Herald Gymraeg / ochr Gymraeg y Daily Post yn help garw.”

Mae’r Prifardd yn holi hefyd onid yw hi’n hen bryd cael colofnwyr newydd, iau i ymuno â’r papur.

Mae Ieuan Wyn Jones, cyn-ddirprwy Brif Weinidog Cymru, yn cefnogi’r alwad, a dywed fod canran darllenwyr mwyaf ffyddlon y Daily Post yn byw yn y gogledd orllewin “lle mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf i nifer sylweddol ohonynt”.

“O ganlyniad cefnogaf yr ymgyrch i weld mwy o dudalennau Cymraeg yn y papur yn ddyddiol,” meddai.

“Byddai hyn nid yn unig yn dangos parch at yr iaith, ond yn ffordd ymarferol o’i chefnogi.”

‘Dangos ymrwymiad’

Roedd Annes Glynn yn ddirprwy olygydd yr Herald Cymraeg yn y 70au, a dywed ei bod hi’n “siom” darganfod fod atodiad yr Herald Cymraeg “i’w weld yn crebachu ymhellach”.

“Roeddwn i’n un a frwydrodd i geisio cadw’r Herald – teitl ag iddo hanes anrhydeddus yn hanes newyddiaduraeth Cymru ers y 19eg ganrif – yn bapur newydd cyflawn ganol y 2000au,” meddai.

“Ni fu modd cyrraedd y nod hwnnw ond bu’r drefn o gynnwys atodiad bywiog wythnosol yn llwyddiant pendant gyda chriw o golofnwyr brwd ac ymroddedig a golygyddion a rannai’r un weledigaeth.

“Siom felly yw darganfod fod atodiad Yr Herald Cymraeg i’w weld yn crebachu ymhellach a hynny’n creu canfyddiad o ddiffyg parch, nid yn unig at yr iaith Gymraeg ond hefyd tuag at y darllenwyr ledled Cymru sy’n parhau i brynu eich papur a’i ddarllen yn ddyddiol.

“Mae’n bleser gen i gefnogi awgrym Archdderwydd Cymru, y Prifardd Myrddin ap Dafydd, y dylid cynnwys tudalen ddyddiol o newyddion Cymraeg (gyda geirfa i ddysgwyr) yn y Daily Post.

“Nid yn unig y byddai hyn yn adnodd gwych ar gyfer y niferoedd cynyddol sy’n dysgu Cymraeg yn ein gwlad, ond byddai hefyd yn dangos fod gan gwmni Reach ymrwymiad gwirioneddol tuag at y Gymraeg a thuag at y Cymry Cymraeg sy’n ddarllenwyr ffyddlon o’r papur ers blynyddoedd lawer.

“Does dim dwywaith gen i y byddai hyn yn arwain at gynnydd yng ngwerthiant y papur.”

‘Anghofio’i darllenwyr ffyddlonaf’

Tudur Huws Jones oedd golygydd Yr Herald pan ddaeth i ben fel papur ar wahân yn 2005.

“Roedd yn ddechrau newydd, fel rhan o bapur newydd mwyaf Gogledd Cymru, ac roedd yn hynod boblogaidd gyda’r darllenwyr. Roedd y dudalen llythyrau hynod fywiog yn brawf o hynny,” meddai.

“Roedd yn atodiad wyth tudalen ac yn addo cymaint. Ond oherwydd un toriad ar ôl y llall, crebachodd yn raddol i fod yn bedair tudalen, ac wedyn i’w sefyllfa bresennol, drist.

“Yr iaith Gymraeg yw un o’r elfennau cyntaf i ddioddef pan fydd angen torri er mwyn boddhau’r awch gyson am elw.

“A yw’r Daily Post wedi anghofio mai craidd ei darllenwyr ffyddlonaf oedd ac yw y fro Gymraeg?

“Mae’r iaith Gymraeg yn haeddu gwell.”

‘Dirmyg llwyr’

Ychwanegodd Huw Prys Jones, cyn-olygydd Yr Herald, ei siom ynghylch “y ffordd y mae cyhoeddiad a fu unwaith yn bapur newydd urddasol i’w weld yn cael ei israddio’n gyson gan gyhoeddwyr y Daily Post”.

“Mae hyn yn dangos dirmyg llwyr tuag at y gymuned Gymraeg, sydd wedi cefnogi’r Daily Post ers cenedlaethau,” meddai.

“Byddai cynnwys tudalen Gymraeg ddyddiol yn gyfle gwych i’r Daily Post ailgysylltu â’i wreiddiau a sicrhau mwy o barch i’r Gymraeg, sydd, wedi’r cyfan, yn iaith gyntaf cyfran sylweddol o’i ddarllenwyr.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Reach PLC am ymateb.