Mae’r rhan fwyaf o bobol Cymru’n dal i deimlo “rhyw fath o Brydeindod”, er bod y syniad bod Cymru’n wlad ac nid yn rhan o’r Deyrnas Unedig yn un “cryf iawn”, yn ôl hanesydd blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe.

Ein hanes, a’r syniad bod Cymru’n fwy na rhanbarth, sy’n bennaf gyfrifol am gynnal hunaniaeth genedlaethol y Cymry, meddai’r Athro Martin Johnes wrth golwg360.

Mae’r Athro Martin Johnes, a fydd yn cyfrannu at This Union: Being Welsh, rhaglen radio ar Gymreictod a’r Deyrnas Unedig ar Radio 4 heno (nos Lun, Ionawr 24), yn dweud bod annibyniaeth ar yr agenda mewn ffordd na fu erioed cyn hyn, ond fod troi syniad yn realiti yn fater “gwahanol”.

Er hynny, mae Brexit wedi dangos ei bod hi’n bosib troi syniad yn realiti, yn ogystal â “lladd” y syniad o’r Deyrnas Unedig fel lle “agored a goddefgar”, meddai

Yn sgil hynny, mae’r arbenigwr ar hanes Cymru fodern a diwylliant poblogaidd Prydain fodern yn awgrymu bod Brexit wedi gwneud y Deyrnas Unedig yn llai perthnasol i nifer o bobol yng Nghymru.

“Mae’r syniad bod Cymru’n wlad yn rili gryf, mae hwnna’n rhywbeth sydd wedi cael ei basio ymlaen i ni,” meddai.

“Mae’r hanes yna’n cael ei ddysgu i ni drwy’r ysgol, drwy straeon, drwy ffilm, drwy be’ rydyn ni’n clywed gan ein teulu.

“Achos mae fe’n syniad, dyna pam mae ein identity ni wedi parhau. Dyw e ddim yn rhywbeth gydag official definition, mae’n rhwydd i’r syniad yna newid gydag amser, gyda’r conditions, mae e’n gallu meddwl pethau gwahanol i bobol wahanol.

“Does dim rhaid i Gymru, i’r ystyr Cymreig, fod yr un peth i bawb, a dyna beth yw ei gryfder e.”

Effaith Brexit

Er bod Brexit wedi codi cwestiynau, rhai ymarferol a rhai am hunaniaeth, mae’r ymdeimlad o Brydeindod “dal yna” yng Nghymru, yn ôl yr academydd.

“Dw i’n credu, mae’r rhan fwyaf o bobol yng Nghymru’n teimlo rhyw fath o Brydeindod. Fel Cymreictod, mae’n golygu pethau gwahanol i bobol wahanol,” meddai.

“Mae Brexit wedi creu cwestiynau gwahanol. Ar un llaw, mae e wedi dangos i bobol bod newid yn bosib, bod e yn bosib dechrau eto, ac mae e yn bosib dod lan â syniadau newydd sy’n gallu dod yn realiti.

“Byse neb deng mlynedd yn ôl wedi meddwl bod ni’n gadael yr EU yn realistig.

“Mae pawb sy’n dweud heddiw bod y syniad o gael Cymru annibynnol, Cymru newydd, yn realistig, mae jyst rhaid iddyn nhw edrych ar Brexit a gweld pa mor glou mae pethau’n gallu newid.

Mae Brexit wedi newid y Deyrnas Unedig hefyd, meddai.

“Mae lot o bobol oedd yn teimlo’n rhan o’r UK, oedd yn teimlo bod yr UK yn rhywbeth sy’n meddwl rhywbeth iddyn nhw, rhywbeth sy’n eithaf tolerant, eithaf agored… mae’r vision yna o’r UK wedi diflannu.

“Mae Brexit wedi dangos i bobol bod newid yn gallu digwydd, ac mae Brexit wedi lladd, rili, yr hen vision o’r UK oedd lot o bobol yng Nghymru’n teimlo’n rhan ohono.”

‘Rydyn ni’n mynd i ddilyn yr Alban’

Mae lle’r Alban yn y Deyrnas Unedig yn hollbwysig i le Cymru, a’r ddadl dros annibyniaeth, meddai’r Athro Martin Johnes wedyn.

“Mae’r syniad wedi tyfu, ond mae hi dal yn anodd troi’r syniad yna mewn i rywbeth sydd actually yn gallu digwydd,” meddai am annibyniaeth.

“Mae fel Brexit, mae’n un peth fotio am rywbeth ond mae’n beth arall troi hwnna’n rhywbeth realistig.

“Beth sy’n rili pwysig i ni yw beth sy’n digwydd yn yr Alban. Os mae’r Alban yn gadael, mae popeth yng Nghymru yn newid – mae’r agenda’n newid, mae’r ffordd mae pobol yn meddwl yn newid.

Basically, rydyn ni’n mynd i ddilyn yr Alban.

“Mae’r un broblem gyda’r Alban, mae’r syniad o annibyniaeth wedi tyfu yn y ddeng mlynedd ddiwethaf ond mae troi’r syniad yna mewn i rywbeth sy’n gallu digwydd yn rhywbeth hollol wahanol.

“Dyna pam mae’r SNP yn dala ’nôl ar refferendwm, achos maen nhw’n gwybod bod ennill e ddim yn guarantee eto, ac maen nhw’n gwybod bod y cwestiwn o be’ maen nhw’n mynd i’w wneud ar ôl ennill yn un anodd iawn.

“Mae’n rhaid i ni feddwl am beth sydd wedi digwydd yn Iwerddon gyda’r border. Os yw Lloegr am aros tu fas i’r EU, mae dewis gyda’r Alban – mae’n rhaid iddyn nhw gael border caled gyda Lloegr neu border caled gyda’r EU.

“Ac mae hwnna’n ddewis rili, rili anodd. A bydde fe’r un peth i ni yng Nghymru.

“Felly mae’r syniad wedi tyfu, troi’r syniad yna mewn i unrhyw beth? Wel, rydyn ni’n bell iawn oddi wrth hynny.”

Mewn cyfres newydd ar Radio 4, This Union: Being Welsh, sy’n dechrau heno (nos Lun, Ionawr 24 am 8 o’r gloch), bydd y newyddiadurwr Jeremy Bowen yn dychwelyd i Gymru er mwyn canfod beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro.

Yn y bennod gyntaf, bydd Jeremy Bowen yn ystyried beth sydd wedi ffurfio synnwyr modern o Gymreictod, a bydd cyfraniadau gan Sian James, Carolyn Hitt, Tony Collins, a Jac Larner, yn ogystal â Martin Johnes.