Mae dwy awyren o Japan wedi gadael Awstralia i gynnig cymorth i drigolion ynysoedd Tonga wrth iddyn nhw fynd i’r afael ag effeithiau llosgfynydd yn ffrwydro a tswnami.

Fe adawodd yr awyrennau o bencadlys Awyrlu Awstralia yn Queensland ar gyfer y daith 2,050 o filltiroedd i fynd i’r ynysoedd a gafodd eu taro gan yr argyfyngau ar Ionawr 15.

Mae awyrennau o Awstralia, Japan a Seland Newydd wedi bod yn cludo bwyd, dŵr, cyflenwadau meddygol a systemau telegyfathrebu i’r ynysoedd dros y penwythnos.

Oherwydd bod sefyllfa Covid-19 yr ynysoedd dan reolaeth, mae awyrennau wedi gallu glanio yno heb ddod i gysylltiad agos â thrigolion.

Mae’r nwyddau’n cael eu gadael am 72 awr er mwyn lleihau’r risg o ledu haint cyn iddyn nhw gael eu dad-bacio.

Fe wnaeth llosgfynydd Hunga Tonga Ha’apai ffrwydro gan achosi tswnami ar draws y Môr Tawel oedd wedi taro cychod yn Seland Newydd ac wedi achosi i olew ollwng yn Periw.

Mae’r gwaith o glirio’r difrod yn mynd rhagddo, ac mae llywodraeth Tonga a swyddogion y lluoedd arfog yn cydweithio, yn ôl yr awdurdodau.

Mae llongau o’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig ar eu ffordd i gynnig cymorth hefyd, ac mae disgwyl i long o Awstralia gyrraedd erbyn diwedd yr wythnos er mwyn sicrhau cyflenwadau trydan a dŵr pur, rhywbeth sydd wedi bod yn flaenoriaeth ar ôl i gyflenwadau lleol miloedd o bobol gael eu niweidio gan lwch o’r llosgfynydd a dŵr hallt.

Mae Japan eisoes wedi gollwng sawl tunnell o ddŵr yfed glân.

Dim ond tair marwolaeth sydd wedi’u cadarnhau hyd yn hyn, gyda sawl ynys fechan yn dioddef o ganlyniad i’r tonnau mawr.

Mae’r rhan fwyaf o drigolion Tonga yn byw ar ynys Tongatapu, lle cafodd oddeutu 50 o gartrefi eu dinistrio, ac mae lle i gredu bod 84,000 o bobol, neu 80% o boblogaeth gyfan Tonga, wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau.

Fe wnaeth y tswnami dorri cysylltiadau telegyfathrebu’r ynysoedd, oedd yn golygu bod nifer o bobol ar draws y byd wedi methu â chysylltu ag anwyliaid y tu allan i Tonga cyn i Digicel ddatrys y sefyllfa.