Bydd Cyngor Caerffili yn ystyried gofyn i swyddogion cynllunio lunio cynigion sy’n cynnwys “cosbau ariannol” i berchnogion cartrefi gwag ac ail gartrefi, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng yn y sir.
Mae John Roberts, Cynghorydd Plaid Cymru dros Gwm yr Aber, wedi cyflwyno cynnig yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i archwilio mesurau i fynd i’r afael â’r broblem, gan gynnwys cosbau ariannol.
Bydd y Cyngor yn trafod ac yn pleidleisio ar y cynnig ddydd Mercher (Ionawr 26), a hyd yn hyn, mae’r cynnig wedi derbyn cefnogaeth aelodau Plaid Cymru, a rhai aelodau Llafur ac Annibynnol.
Mae tua 234 o ail gartrefi yng Nghaerffili, chwech ohonyn nhw yn ward y Cynghorydd John Roberts, a 1,200 o dai gwag hirdymor.
‘Miloedd angen cartrefi’
Dywed y Cynghorydd John Roberts ei fod yn falch fod yna “barodrwydd cryf” gan y grŵp Llafur a’r cynghorwyr Annibynnol, yn ogystal â Phlaid Cymru, i weithredu ar y mater.
“Caiff swyddogion gais nawr i adrodd yn ôl ar opsiynau i daclo’r ddwy broblem, gan gynnwys cosb ariannol ar berchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag,” meddai.
“A miloedd o bobol sydd ag angen cartrefi, ar restr aros tai cyngor, mae hwn yn fater sydd angen ei daclo nawr.
“Yn bersonol, fy marn i yw y dylid dyblu treth y cyngor ar berchnogion ail gartrefi a thai gwag gyda’r arian a godir yn cael ei ddychwelyd i’r cymunedau ar gyfer pob ward.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd taclo ail gartrefi ac rydw i wedi fy mhlesio fod hyn yn wir amdanom ni yma yng Nghaerffili hefyd.”
‘Pryder cynyddol’
Mae’r cynnig yn nodi bod yna “bryder cynyddol” am effaith ail gartrefi ar gymunedau ledled Cymru ac ar allu preswylwyr lleol i brynu cartrefi yn eu cymunedau.
“Gyda’i gilydd, mae mwy na 1,200 o eiddo gwag yng Nghaerffili, rhai’n wag ers dros bum mlynedd neu hyd yn oed degawd,” meddai’r cynnig.
“Yn aml maen nhw’n cael eu gadael i bydru, weithiau’n achosi problemau anferth i gymdogion a chymunedau.
“Gyda bron i 5,000 o bobol ar restrau aros y cyngor am dai, mae angen gweithredu cryf.
“Rydyn ni’n galw ar y Cyngor i edrych ar bob opsiwn posib, gan gynnwys cosbau ariannol, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol gyda thai gwag yng Nghaerffili.
“Rydyn ni’n cyfarwyddo swyddogion i fanylu ar opsiynau ac adrodd yn ôl cyn gynted â phosib.”