Mae mam Christopher Kapessa, fu farw yn 13 oed ar ôl cael ei wthio i afon yn Rhondda Cynon Taf, yn aros i glywed a oedd y penderfyniad i beidio ag erlyn neb yn yr achos yn un cywir.

Mae gwrandawiad yn yr Uchel Lys wedi clywed bod Christopher Kapessa, yn ôl yr honiadau, wedi cael ei wthio i afon Cynon ger Aberpennar gan fachgen 14 oed ym mis Gorffennaf 2019.

Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio ag erlyn y bachgen 14 oed gan ddweud nad oedd hynny er budd y cyhoedd.

Mae mam Christopher Kapessa, Alina Joseph, sy’n dod o Gwm Cynon, wedi cyflwyno her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn erbyn Max Hill, y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a phennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Fe wnaeth yr Arglwyddi Ustus Popplewell a Dove ystyried y ddadl mewn gwrandawiad yn Llundain yn gynharach y mis hwn.

Cafodd penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag erlyn ei wneud gan erlynydd arbenigol ar ôl cynnal adolygiad, meddai’r cyfreithwyr ar ran y Gwasanaeth.

Maen nhw’n dadlau y dylid gwrthod her Alina Joseph.

‘Afresymol’

Yn ystod y gwrandawiad, fe wnaeth y Bargyfreithiwr Michael Mansfield, sy’n arwain tîm cyfreithiol Alina Joseph, ddadlau bod y penderfyniad i beidio ag erlyn y bachgen, sydd nawr yn 17 oed, yn “afresymol”.

Dywedodd ei fod yn benderfyniad “anghyfreithlon”, ac y dylid ei ddirymu.

Mae Alina Joseph eisiau “deall yn llawn beth ddigwyddodd i’w mab”, a gweld cyfiawnder yn unol â’r gwirionedd hwnnw, meddai Michael Mansfield.

Mae tystiolaeth yn bodoli i gynnig “gobaith realistig” o gyhuddo’r bachgen o ddynladdiad, meddai wrth y barnwyr, a glywodd fod sawl plentyn yn eu harddegau yn bresennol pan gafodd Christopher Kapessa ei wthio i’r afon.

Dywedodd Michael Mansfield fod yna 16 datganiad gan dystion ar ffurf fideos yn gysylltiedig â’r achos.

Roedd Christopher Kapessa wedi mynegi pryder ei fod yn methu nofio, ac wedi bod yn “amharod i fynd mewn i’r dŵr ei hun”, meddai.

Dywedodd fod y bachgen 14 oed wedi “gwthio” Christopher Kapessa i’r dŵr “yn fwriadol”, a’i fod wedi boddi a marw o ganlyniad i hynny.

Roedd teulu Christopher Kapessa yn “gymharol newydd” i’r ardal, a nhw oedd yr unig deulu du yn byw mewn cymuned a oedd yn bennaf wyn, meddai’r cyfreithiwr.

‘Tegwch’

Cafodd y penderfyniad i beidio ag erlyn ei wneud gan Moira MacDaid, erlynydd arbenigol, meddai’r cyfreithiwr Duncan Penny, a oedd yn arwain tîm cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Ar ôl cynnal adolygiad, penderfynodd Moira MacDaid fod y penderfyniad gwreiddiol i beidio â chyhuddo’r bachgen o ddynladdiad yn un cywir, meddai.

Dywedodd Duncan Penny fod Moira MacDaid wedi ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol gyda “thegwch gofalus”.

Doedd ei phenderfyniad nad oedd yr achos o fudd i’r cyhoedd ddim yn “afresymol”, meddai.

 

Herio’r penderfyniad i beidio erlyn bachgen yn dilyn marwolaeth Christopher Kapessa

Roedd bachgen 14 oed wedi ei amau o achosi’r farwolaeth, ond ni chafodd ei gyhuddo gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn 2020

Teulu Christopher Kapessa yn ennill adolygiad barnwrol dros ei farwolaeth yn afon Cynon

Y gred yw fod Christopher Kapessa wedi cael ei wthio i mewn i afon Cynon gan fachgen 14 oed ym mis Gorffennaf 2019