Mae fflyd o drenau pellter hir Trafnidiaeth Cymru, y Class 175, wedi cael eu hadnewyddu fel rhan o fuddsoddiad o £40m.

Y gwneuthurwr trenau Alstom sydd wedi bod wrthi ar y 27 o drenau Coradia, a hynny yn eu canolfan dechnoleg yn Widnes yn Sir Caer.

Cafodd cyfleusterau’r trenau eu gwella pan ailddechreuodd y trên cyntaf wasanaethu cwsmeriaid eto yn 2019 – mae’r cyfleusterau hyn yn cynnwys mannau gwefru USB a thrydan, seddi toiled newydd sbon, seddi wedi’u hailorchuddio, carpedi newydd a gosodiadau mewnol newydd.

Mae’r trenau hefyd wedi cael eu hailfrandio gyda lifrau llwyd a choch Trafnidiaeth Cymru.

Y Class 175

Y Class 175 yw “asgwrn cefn gwasanaethau cyflym Trafnidiaeth Cymru”, meddai’r cwmni.

Mae’r trenau’n weithredol ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau drwy dde, gogledd a gorllewin Cymru a’r Gororau.

Un rhan yn unig o raglen adnewyddu gwerth £40m yw’r gwaith hwn, ac mae’r gwaith o adnewyddu’r Class 153 a’r Class 158 bron iawn ar ben.

Mae’r Class 150, trenau gwib, hefyd yn cael eu hadnewyddu.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn buddsoddi dros £800m ar fflyd o drenau newydd sbon, a fydd yn dechrau dod i wasanaeth ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn ddiweddarach yn 2022.

‘Profiad cyfforddus o’r dechrau’n deg’

Dywedodd Stuart Mills, Rheolwr Peirianneg Fflyd TrC:

“Mae’n wych gallu cyflawni’r gwelliannau hyn i gwsmeriaid, y maent yn disgwyl eu gweld, a hynny’n gwbl briodol, ar rwydwaith rheilffyrdd modern,” meddai Stuart Mills, Rheolwr Peirianneg Fflyd Trafnidiaeth Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod gallu teithio’n gyfforddus a gallu gwefru dyfeisiau wrth deithio yn hynod o bwysig i’n cwsmeriaid, p’un a ydyn nhw’n teithio am 20 munud neu bedair awr, ar gyfer busnes neu bleser.

“Tra ein bod yn adeiladu trenau newydd sbon, maent yn cymryd amser i’w hadeiladu ac rydym am i’n cwsmeriaid gael profiad cyfforddus o’r dechrau’n deg.

“Felly mae cwblhau’r gwaith helaeth hwn yn gam mawr arall i adeiladu rheilffordd well ar gyfer cenedlaethau hen a newydd.”

‘Gwaith caled a phroffesiynoldeb’

“Mae’n newyddion gwych i Trafnidiaeth Cymru a’i gwsmeriaid ein bod wedi cwblhau’r gwaith o adnewyddu fflyd gyfan Coradia yn ôl y bwriad, ac mae’n deyrnged i waith caled a phroffesiynoldeb ein tîm yn Widnes, a Chaer lle mae’r trenau’n cael eu cynnal,” meddai Peter Broadley, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Alstom.

“Wedi bron i dair blynedd, mae’n wych gweld ein huned Class 175 o’r diwedd wedi’i hailwampio’n llwyr ac yn barod i ddychwelyd i’r cledrau,” meddai David Jordan, Prif Swyddog Gweithredol Angel Trains.

“Mae wedi bod yn bleser gwych gweithio gyda’n partneriaid yn y busnes ar y gwaith ailwampio hwn o’r fflyd, gan gydweithio i greu trenau modern sy’n addas at ddiben teithwyr TrC.”