Fe fydd rhaglen ddogfen arbennig heno (nos Lun, Ionawr 24) yn mynd i’r afael â marwolaethau dau ddyn ar ôl iddyn nhw ddod i gysylltiad â’r heddlu yng Nghymru.
Bu farw Mohamud Hassan, 24, a Mouayed Bashir, 29, o fewn wythnosau i’w gilydd mewn dau ddigwyddiad ar wahân oedd yn ymwneud â’r heddlu.
Arweiniodd eu marwolaethau at brotestiadau yng Nghaerdydd a Chasnewydd, wrth i’w teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymunedau fynegi pryderon am amgylchiadau eu marwolaethau.
Mohamud Hassan
Cafodd Heddlu’r De eu galw i fflat Mohamud Hassan yn y Rhath yng Nghaerdydd fis Ionawr y llynedd, ac fe wnaethon nhw ei arestio fe ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch.
Treuliodd e’r noson honno yn y ddalfa ym Mae Caerdydd, ac fe gafodd ei ryddhau y bore wedyn heb ei gyhuddo.
Fe welodd ei fodryb Zainab Hassan a’i ewythr Sulieman Mohamed y diwrnod hwnnw, ac mae Sulieman yn dweud iddo gael “sioc” o weld ei nai.
“Roedd ei wefus uchaf ar agor yn llwyr,” meddai.
“Roedd ganddo fe waed ar ei grys a’i drowsus tracwisg.”
Ychwanegodd ei fodryb fod ganddo fe “gleisiau ar ei freichiau”, ac ar ei gorff “y cyfan oeddech chi’n gallu ei weld oedd marciau – coch, du hyd yn oed”.
“Roedd yn sioc,” meddai.
Dywedodd e wrthi mai’r heddlu oedd yn gyfrifol, a phan ofynnodd hi sut a pham, dywedodd e, “Dw i ddim yn gwybod, wncwl”.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu’n cynnal ymchwiliad i’w farwolaeth, ac mae chwe phlismon dan amheuaeth o gamymddwyn, ond doedd archwiliad post-mortem ddim yn gallu dweud sut y bu farw.
Mae disgwyl cwest i’w farwolaeth fis Mai y flwyddyn nesaf.
Dydy Heddlu’r De ddim wedi gwneud sylw oherwydd bod ymchwiliad ar y gweill, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cydymffurfio’n llwyr â’r ymchwiliad hwnnw.
Bydd yn rhaid i’r teulu aros 16 mis arall cyn cael y manylion llawn ynghylch ei farwolaeth.
Mouayed Bashir
Wythnosau wedyn, bu farw dyn du arall, Mouayed Bashir, ar ôl dod i gysylltiad â’r heddlu.
Bu farw ar ôl i Heddlu Gwent fynd i’w gartref yng Nghasnewydd fis Chwefror y llynedd.
Roedd ei deulu’n ceisio anfon ambiwlans yno oherwydd bod Mouayed yn dioddef o salwch iechyd meddwl ar y pryd, ond cafodd yr heddlu eu hanfon yno.
Dywedodd ei frawd, Mohannad, fod yr heddlu wedi defnyddio “grym treisgar” yn ei erbyn.
“Roedd Mouayed wedi cael ei drywanu dair wythnos cyn ei farwolaeth,” meddai.
“A phan ddaeth yr heddlu i’w gartref, roedd ganddo fe glwyfau mawr, dwfn yn ei goes o hyd.
“Pan wnaeth yr heddlu ei atal, fe wnaethon nhw ei roi e mewn cyffion, ac fe wnaethon nhw glymu ei goesau.
“Roedd fy nhad yn dweud wrth y plismyn, “Mae e wedi’i glwyfo’n barod. Mae e’n gwaedu eto o’i goes. Plis gadewch y cyffion a gadewch ei goesau”.
Doedd archwiliad post-mortem ddim yn gallu dweud sut y bu farw, ac mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu’n cynnal ymchwiliad, ond bydd cyhoeddi adroddiad yn ddibynnol ar farn y crwner.
Mae disgwyl i’w gwest gael ei gynnal ym mis Gorffennaf.
Doedd Heddlu Gwent ddim yn fodlon gwneud sylw tan ar ôl yr ymchwiliad a’r cwest, ond does neb wedi cael rhybudd o ymchwiliad i gamymddwyn, ac mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cynnal asesiad risg wrth dderbyn galwad 999 a phan fydd gofyn i’r heddlu helpu’r Gwasanaeth Ambiwlans, sydd wedi ymddiheuro nad oedd eu hymateb yn ddigonol i’w deulu.
Mae disgwyl i’r teulu nodi blwyddyn ers ei farwolaeth gyda digwyddiad arbennig yng Nghasnewydd fis nesaf.