Mae’r newyddiadurwr Martin Huws wedi cyflawni camp ddwbwl fel Prifardd a Phrif Lenor Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd.

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn rhithiol ddydd Sadwrn (Ionawr 22).

Roedd Martin Huws yn un o ohebwyr cyntaf cwmni golwg pan gafodd ei sefydlu yn 1988.

Fe weithiodd e wedyn i’r Western Mail, Y Byd ar Bedwar, Taro Naw a Cymru’r Byd.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd, ac mae’n dweud bod ei ddyled yn fawr i’r athro Cymraeg, Elvet Thomas, a’r athro Ffrangeg, Ted Poole.

Y Gadair

Y dasg ar gyfer cystadleuaeth y Gadair oedd ysgrifennu cerdd gaeth neu rydd ar y testun ‘Cadw’, a’r beirniaid oedd Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury.

17 oedd wedi cystadlu, a dywedodd y beirniaid fod safon y cerddi’n go uchel.

“Beth sy gyda ni yw dilyniant o gerddi vers libre digynghanedd,” meddai’r beirniaid am y cynnig a ddaeth i’r brig.

“Ni’n mynd o le i le ar draws Cymru drwy atgofion y person yn siarad â’i dad sy’n colli ei gof oherwydd henaint neu dementia.

“Mae’r delweddu wedi’r dechrau’n gwbwl naturiol, yn ddiymdrech ac wedi ei weithio’n gain iawn.”

Perthynas tad a mab yw canolbwynt y dilyniant ac er bod y beirniaid yn rhybuddio bod “yna beryg i droi’n sentimental” wrth drafod y math hwn o destun, maen nhw’n dweud bod yr enillydd wedi osgoi gwneud hynny.

“Perthynas sy’ yma rhwng tad a mab. Gyda’r math yma o destun, y sôn am golli perthynas yn ddirdynnol, yn ara deg o fla’n eich llyged, ma’ ‘na beryg i droi’n sentimental iawn, yn felodramatig.

“Mae’r bardd yma’n osgoi hynny’n llwyr.

“Mae popeth yn fyw iawn, yn gredadwy iawn, ac yn amlwg yn dod o brofiad personol. Ac am hynny, mae’r gerdd hon yn codi safon y gystadleuaeth yn uchel iawn.

“Llongyfarchiadau i Lleidr Pen Ffordd.”

Wrth ennill y Gadair, mae Martin Huws hefyd yn ennill siec o £50, yn rhoddedig gan Gangen Bro Radur Merched y Wawr.

Y Fedal Ryddiaith

Cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith oedd sgrifennu darn o ryddiaith heb fod yn fwy na 2,000 o eiriau ar y testun ‘Croesffordd’.

Roedd y fedal a’r siec ariannol o £50 yn rhoddedig gan Wasg y Dref Wen, Caerdydd.

Y beirniaid oedd Geraint Lewis a Manon Steffan Ros, ac roedd 14 o ymgeiswyr.

Dywedodd y beirniaid fod safon y gystadleuaeth drwyddi draw yn dda.

“Ceir tafodiaith ddeheuol bert yn stori Rachel, gyda’r storïwr yn dal tipyn o’r naratif yn ôl, wrth ei ffrwyno’n gelfydd bron fel pe bai’r stori ei hun yn ddirgelwch i’w ddatrys,” meddai’r feirniadaeth.

“Hanes Jennifer Daniels sy gyda ni, rhywun sy’n diodde’n seiciatryddol o bosib ar ôl chwalu perthynas.

“Rhaid i’r darllenydd weithio i ganfod beth yw arwyddocâd yr hyn sy’n digwydd ond mae’r amwysedd a’r hiwmor slei tafod-yn-y-boch yn llwyddo i godi chwilfrydedd.

“Llongyfarchiadau i Rachel.”

‘Mewn sioc o hyd’

“Wy mewn sioc o hyd,” meddai Martin Huws.

“Ond diolch i bwyllgor y steddfod am drefnu digwyddiad ar adeg heriol.

“Wy’n ddiolchgar hefyd i gyrsie cynganeddu Emyr Davies, Rhys Iorwerth, Llyr Gwyn Lewis a Gruffudd Owen o dan nawdd Menter Caerdydd.”