Mae cystadleuaeth ddylunio wedi ei lansio i bobol ifanc yng Ngheredigion, ac fe fydd yr enillydd yn cael gweld ei waith yn cael ei baentio ar bont ym Mhenparcau.

Dros y blynyddoedd, mae tanffordd pont Pen-y-Bont wedi dioddef yn sgil fandaliaeth a’r gobaith yw creu darlun mwy deniadol a pharhaol i osgoi hynny.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i drigolion ifainc rhwng naw a 25 oed, ac mae gofyn i ymgeiswyr ddylunio murlun sy’n adlewyrchu treftadaeth Penparcau ac ardaloedd cyfagos Aberystwyth.

Yna, bydd y dyluniad buddugol yn cael ei baentio ar danffordd y bont, gyda chymorth yr arlunydd Lloyd the Graffiti, a bydd yr enillydd neu enillwyr yn derbyn pecyn celf a thaleb gwerth £50.

Yn ogystal â’r gystadleuaeth, bydd cyfle i bobol ifanc fod yn rhan o’r gweithdai i helpu i lunio’r darn o gelf.

Y dyddiad cau ar gyfer cynnig dyluniadau yw dydd Gwener, Mawrth 4.

‘Cyfle cyffrous’

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a Thîm Economi ac Adfywio’r Cyngor yn teimlo bod angen i bobol ifanc lleol gael dweud eu dweud wrth iddyn nhw fynd ati i altro lleoliadau cymunedol.

“Mae’n hynod o bwysig bod barn pobol ifanc yn cael ei ystyried wrth i ni wneud penderfyniadau o fewn ein cymunedau, sy’n cynnig ymdeimlad o berchenogaeth a grym i bobol ifanc,” meddai’r Cynghorydd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth.

“Mae hyn yn gyfle cyffrous lle bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn hwyluso gweithdai i bobol ifanc o’r ysgolion cynradd ac uwchradd lleol a’r grwpiau eraill i greu murlun ar danffordd ym Mhenparcau, gyda chefnogaeth artist proffesiynol.

“Felly, rydym yn annog pobol ifanc o Benparcau, Aberystwyth ac ar draws Ceredigion i rannu eu dyluniadau o’r hyn yr hoffent eu gweld yn yr ardal hon.”

Gallwch weld sut i wneud cais ar gyfer y gystadleuaeth ar wefan y cyngor.