“Oeddan nhw i gyd efo cesys a rhai efo label i ddweud eu henwau nhw. Ac wedyn roedd y bobol yn mynd a dewis y plant. O’n i wastad yn meddwl bod hyn yn annheg.”

Dyna ddywed Sylvia Cracroft o Ryd-y-foel ger Abergele yn y rhaglen Efaciwîs: Pobol y Rhyfel ar S4C heno (nos Sul, Ionawr 23), sy’n cofio hanes efaciwîs o Lundain a Lerpwl yn cael eu hanfon i Gymru i’w cadw nhw’n ddiogel ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.

Roedd hi’n blentyn ar ddechrau’r rhyfel, ac mae hi’n cofio’r efacîwis yn cyrraedd.

“Oedd lot o blant tlawd wedi dod o Lerpwl,” meddai.

“Dwi’n cofio un hogyn – Desmond oedd ei enw fo – doedd o ddim wedi cael dillad glan ers dyddiau, wythnos efallai.

“Roedd o’n amser trist iddyn nhw, rili, on’d oedd?”

Cafodd miloedd o blant dinasoedd mawr Lloegr eu rhwygo o’u teuluoedd, eu cartrefi a’u cymunedau yn blant bach, a’u cludo i wlad estron ac i gymunedau lle câi iaith ei siarad nad oedden nhw’n ei deall.

Bydd Efaciwîs yn edrych ar brofiad efaciwîs yng Nghymru a hanes Cymru fel gwlad sydd wedi cynnig lloches i bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd rhyfel.

Yn ystod Pobol y Rhyfel, rydym yn clywed gan efaciwîs fel Jean Jones o Lundain fu’n aros gyda theulu ar fferm yng Ngheredigion.

“Rwy’n cofio cyrraedd Caerfyrddin ar y trên a chael fy nghludo mewn car – doeddwn i byth wedi bod mewn car o’r blaen,” meddai.

Jean Jones
Jean Jones, a ddaeth i Gymru’n efaciwî

“Cyrhaeddom ni Maesyfelin, Rhydlewis y noson honno. Yn wahanol i Lundain, doedd dim trydan yna – roedd e’n beth od iawn i ddefnyddio lampau olew.

“Ond wnaethon nhw wneud imi deimlo bod croeso i fi yna.”

Gyda’r rhan helaeth o gymunedau gwledig Cymru ar y pryd yn uniaith Gymraeg, roedd yn rhaid i’r efaciwîs ddysgu siarad Cymraeg.

“Wrth edrych yn ôl, mae’n rhaid fy mod i wedi pigo’r Gymraeg i fyny yn eitha’ clou,” meddai.

“Rhan fwyaf o’r amser o’n i’n hapusach yn siarad Cymraeg. Hyd yn oed nawr, efallai dwi’n cofio gair yn y Gymraeg ond dim yn y Saesneg!”

Cynllun i gadw pobol yn ddiogel

Siân Lloyd, gohebydd BBC Cymru, sy’n cyflwyno’r rhaglen gyntaf yn y gyfres.

“Cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd, roedd Llywodraeth Prydain yn gwybod byddai’r Almaenwyr yn bomio’r dinasoedd mawr,” meddai Siân.

“Roeddent yn poeni y gallai hanner miliwn o bobol gael eu lladd gan y Luftwaffe yn ystod misoedd cynta’r rhyfel.

“Roedd cynllun mewn lle i symud plant, mamau a phobl fregus i lefydd diogel – llefydd fel Cymru.”

Cymru’n wlad sy’n cynnig lloches

Yn ogystal ag edrych yn ôl ar brofiadau efaciwîs yng Nghymru, mae’r rhaglen hon yn edrych ar bob math o bethau a phobol a ddaeth i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd am loches trwy grynhoi beth oedd yn mynd ymlaen yng Nghymru yn ystod y rhyfel ac yn rhoi popeth yn ei gyd-destun.

Nid yn unig plant oedd yn cael eu symud i Gymru.

Symudwyd adran gyllid y llywodraeth i westy’r Imperial yn Llandudno a’r weinyddiaeth fwyd i Fae Colwyn.

Cafodd adran adloniant y BBC ei symud i leoliad cyfrinachol yn ardal Bangor. A dyma lle cafodd rhai o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC eu darlledu trwy gydol y rhyfel.

Y gyfres

Bydd y cyflwynydd adnabyddus Sean Fletcher yn ymuno a Siân i gyflwyno pedair rhaglen hanes byw sef Efaciwîs: Plant y Rhyfel sydd yn ail-greu rhai o brofiadau’r efaciwîs trwy ddod ag wyth o bobl ifanc o Lerpwl, Birmingham a Llundain i bentref Llanuwchllyn yng ngogledd Cymru.

Bydd y cyfan yn gorffen gyda rhaglen ddogfen yn y gyfres DRYCH sef DRYCH: Lloches ar 20 Chwefror sydd yn edrych ar rôl Cymru yn yr ymdrech i gynnig lle diogel i ffoaduriaid.

Mae Efaciwis: Pobol y Rhyfel yn rhaglen llawn straeon hapus a thrist ond difyr hefyd wrth i’r bobl o’r cyfnod edrych yn ôl ar eu profiadau o amser hynod yn hanes Cymru a Phrydain.