Mae cystadleuaeth ysgrifennu stori sydd ar y gweill yn “gyfle i ddysgwyr ar bob lefel roi cynnig ar ysgrifennu stori a gweld eu stori ar ddu a gwyn, ac yn cael ei darllen gan filoedd o ddysgwyr eraill”.

Dyna ddywed Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar drothwy dyddiad cau cystadleuaeth ysgrifennu stori Amdani Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg, sy’n cael ei threfnu ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae gan ddysgwyr Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch tan Ionawr 31 i gyflwyno’u straeon gwreiddiol, sydd heb eu cyhoeddi, ar y thema ‘Y Llyfr’. Mae’n rhaid cyflwyno’r straeon drwy’r ffurflen ar-lein ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae disgwyl i gystadleuwyr lefel Mynediad ysgrifennu hyd at 100 gair, Sylfaen hyd at 200 gair, Canolradd hyd at 300 gair, ac Uwch hyd at 400 gair, ac mae’n rhaid i’r straeon fod yn addas i’w cyhoeddi ar y we.

Bydd dau awdur Cymraeg yn beirniadu pob categori, gydag enillydd ym mhob un o’r categorïau.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos yr Ŵyl Ddarllen, sy’n cael ei chynnal rhwng Chwefror 28 a Mawrth 4.

Hyrwyddo darllen… ond dysgwyr yn mwynhau ysgrifennu

“Y pwyslais mewn dosbarthiadau Cymraeg yw dysgu siarad,” meddai Helen Prosser wrth golwg360.

“Ond mae llawer o bobol sy’n dysgu hefyd wrth eu bodd yn ymarfer y sgiliau eraill.

“Dyn ni’n cynnal yr Ŵyl Ddarllen er mwyn hyrwyddo darllen, ond ’dyn ni hefyd yn gwybod bod llawer o’n dysgwyr yn mwynhau ysgrifennu.

“Felly mae’r gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, yn gyfle i ddysgwyr ar bob lefel roi cynnig ar ysgrifennu stori a gweld eu stori ar ddu a gwyn ac yn cael ei darllen gan filoedd o ddysgwyr eraill.”

Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg / Learn Welsh Festival of Reading

Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg

Helen Prosser

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a golwg360 yn dathlu darllen rhwng 4 Mawrth (Diwrnod y Llyfr) ac 11 Mawrth.