Mae Bonnie Tyler, y gantores o Gymru, wedi talu teyrnged i’r “unigryw” Meat Loaf, yn dilyn ei farwolaeth yn 74 oed.
Fe fu’r ddau yn cydweithio ar yr albwm Heaven & Hell, sydd yn gyfuniad o ganeuon y ddau, ac fe gafodd ei gyhoeddi yn 1989 gan Telstar Records.
Ymhlith y traciau ar yr albwm mae Bat Out Of Hell, Faster Than the Speed of Night, You Took the Words Right Out of My Mouth, Two Out of Three Ain’t Bad, Holding Out for a Hero a Total Eclipse of the Heart.
Mae’r rhan fwyaf o ganeuon y ddau wedi’u cyfansoddi gan Jim Steinman ac er nad oedd yr albwm yn llwyddiannus ar unwaith, fe enillod statws platinwm yn 2013 am werthu dros 300,000 o gopïau.
Teyrnged
Wrth dalu teyrnged i Meat Loaf ar Twitter, dywedodd Bonnie Tyler ei bod hi’n teimlo “sioc a thristwch” yn dilyn ei farwolaeth.
“Roedd e, fel y gallwch chi ddychmygu, yn gymeriad bywiog dros ben a chanddo fe lais a phresenoldeb ar lwyfan mor fawr â’i gilydd, ac yn un o’r bobol brin hynny oedd wir yn dalent a phersonoliaeth unigryw.
“Gorffwys mewn hedd.”