Mae trefnwyr un o nosweithiau clwb mwyaf adnabyddus Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n rhoi’r gorau i’w chynnal bob nos Sadwrn.
Ers 2008, mae miloedd o bobol wedi heidio drwy ddrysau Clwb Ifor Bach i gael profiad o noson eiconig Dirty Pop ar loriau dawns y clwb nos ar Stryd Womanby.
Drwy chwarae cymysgedd eang o gerddoriaeth bop chwaethus, daeth y noson i fod yn rhan allweddol o fywyd nos y brifddinas, yn enwedig ymysg Cymry Cymraeg Caerdydd, gan ennill nifer o wobrau yn y cyfamser.
Y DJs sy’n gyfrifol am y digwyddiad yw Ian Cottrell ac Esyllt Williams, a gadarnhaodd brynhawn dydd Gwener (Ionawr 21) eu bod nhw’n rhoi’r gorau i’w gynnal yn wythnosol.
Rhoi stop ar y pop
Mae Ian Cottrell wedi bod yn siarad â golwg360 ar ddiwedd cyfnod, gan edrych yn ôl dros yr 14 blynedd diwethaf.
“Rydyn ni wedi bod wrthi yn answyddogol ers bron i 16 o flynyddoedd, ac yn swyddogol ers 14,” meddai.
“Dw i wedi bod yn Clwb yn DJio ers 30 mlynedd. Fe wnes i ddechrau pan o’n i’n y flwyddyn gynta’ yn y brifysgol yng Nghaerdydd.
“O’n i wastad yn meddwl byddai’n neis gorffen ar ôl 30 o flynyddoedd.
“Mae’r amgylchiadau wedi newid i Esyllt a fi, ac oedden ni jyst yn teimlo fel bod ni angen rest ar ôl wneud o am gyhyd!
“Dw i ddim yn meddwl dylen ni fel pobol sydd yn ein pedwar-degau fod in charge o nosweithiau fel yna lle mae yna bobol ifanc yn dod!
“Mae yna amser yn dod lle mae’n rhaid pasio’r baton i bobol eraill.”
‘Mae’r byd clybio wedi newid ychydig bach’
Fel nifer o glybiau nos, mae Clwb Ifor Bach wedi profi ei siâr o heriau drwy gydol y pandemig.
Ers Dydd San Steffan, maen nhw a phob clwb nos arall yng Nghymru wedi gorfod cau eu drysau yn sgil ton arall o achosion Covid-19.
Byddan nhw’n cael ailagor o Ionawr 28, wedi i’r don yna leddfu.
“Wrth gwrs achos Covid, roedden ni ar gau am 18 mis a wnaethon ni ddim ailagor tan Awst 2021,” meddai Ian Cottrell.
“Mae wedi bod yn eithaf stop-start ers i ni ddod yn ôl hefyd – yn agor am ychydig o fisoedd cyn cau eto dros y Nadolig.
“Mae’r byd clybio wedi newid ychydig bach yn yr amser yna.”
Cenedlaethau o ‘glybars’
Yn 2008, pan ddechreuodd Dirty Pop yn swyddogol, doedd Bruno Mars, Taylor Swift na Dua Lipa ddim yn enwau adnabyddus fel y maen nhw erbyn heddiw.
Mae Ian yn egluro sut maen nhw wedi gweld cenhedlaeth o bobol yn mynd a dod yn yr amser hwnnw.
“Rydyn ni wedi gweld pobol yn dod i’r brifysgol, yn cario ymlaen wedyn i ddod ar ôl graddio,” meddai.
“Mae yna bobol wedi gadael Caerdydd ac yn mynd i fyw i rywle arall a dod yn ôl ambell i benwythnos. Rydan ni wedi DJio ym mhriodasau pobol ac mae yna fabis rŵan!
“Mae’n rhoi syniad i rywun o gylch bywyd pobol, pan mae pobol yn dod [i’r clwb] yn 18 ac erbyn hyn yn briod neu’n rhieni – mae cenhedlaeth gyfan o bobol yn fan yna.”
Lady Gaga wrth y bar yn Clwb Ifor?
Wrth sôn am ei uchafbwyntiau, mae Ian yn cofio yn ôl i noson pan wnaeth criw o bobol droi i fyny i Glwb Ifor fel “sawl fersiwn gwahanol o Lady Gaga”.
Roedd o hefyd yn chwerthin wrth sôn am bobol yn crowdsyrffio i un o ganeuon y Sugababes: “Ti ddim yn gweld hwnna’n aml mewn clwb nos!” meddai.
“Rydyn ni wedi aros yn driw i’r miwsig roedden ni’n chwarae ar y dechrau,” meddai Ian, wrth egluro sut maen nhw wastad wedi glynu at arlwy penodol o bop.
“Roedd yna wastad rhyw drothwy o ran ansawdd a’r math o gerddoriaeth roedden ni’n dewis ei chwarae a dewis peidio ei chwarae.
“Ein tagline ni o hyd yw chwarae Electronic Pop & Disco Dancing, felly rydyn ni wastad wedi bod ar yr ochr fwy caled o ran synnau ac o ran cerddoriaeth pop.
“Oherwydd hynny, rydyn ni wedi gallu canolbwyntio ar sŵn sydd wedi ei ddylanwadu mwy gan gerddoriaeth clubby, yn hytrach na cherddoriaeth pop pur…
“Dw i’n meddwl bod hi’n bwysig dy fod ti’n gallu byw fyny i ddisgwyliadau pobol hefyd, felly bod nhw’n gwybod beth maen nhw’n mynd i’w gael, ond hefyd dy fod di yn gallu rhoi syrpreis iddyn nhw.
“Ti’n gallu diddanu, ond ti hefyd yn gallu addysgu, a dyna’r peth pwysig i fi fel DJ.”
Mae Ian hefyd yn nodi bod cynulleidfa Clwb Ifor Bach ar nos Sadwrn wedi newid yng nghyfnod Dirty Pop, yn enwedig o ran y gymuned LHDT+.
“Mae Clwb yn le diogel a chroesawgar i bob math o bobol, ac mae pawb yn teimlo’n gyffyrddus yna.”
‘Amser i orffwys’
Bwriad Ian Cottrell ac Esyllt Williams yw cynnal brand Dirty Pop i’r dyfodol, a dychwelyd i Glwb Ifor Bach bob hyn a hyn.
Bydd hynny’n eu galluogi nhw i “gael eu bywydau nhw’n ôl”, meddai Ian gan chwerthin.
“Mae’n rhyddhau ni rhag yr ymrwymiad yna rhag gwneud o bob nos Sadwrn.
“Mae’r ddau ohonon ni’n gweithio yn llawn amser, felly mae’n slog. Yn amlwg, rydyn ni’n mwynhau o, ond mae’n cyrraedd y pwynt lle mae o’n dechrau teimlo fel gwaith hefyd.
“Dw i’n meddwl eich bod chi fel unigolyn yn gwybod pan mae’n amser i orffwys ychydig bach!”
‘Rhaid i chi wneud noson gofiadwy’
Ers 2008, mae Ian Cottrell ac Esyllt Williams wedi cael eu henwebu bob blwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd yn y categori ‘Noson Clwb Orau’, gan ennill y wobr honno llond llaw o weithiau.
Dywed Ian y byddan nhw’n gallu “gwerthfawrogi” y cyfnod yn fwy nawr gan eu bod nhw’n rhoi’r gorau i gynnal y parti bob nos Sadwrn.
“Dw i jyst yn hoffi’r ffaith bod yr enw nawr yn gysylltiedig efo amser da, croesawgar a chyfeillgar, a bod rhywun yn gallu ymddiried yn beth oeddech chi’n mynd i gael. Roedd o’n rhyw fath o gysur pan oeddech chi’n mynd trwy’r drysau ‘na.
“I bara 15 mlynedd, mae’n rhaid i chi wneud noson gofiadwy, sy’n gwneud iddyn nhw fod eisiau dod yn ôl yr wythnos wedyn.”