Mae’r canwr Americanaidd Meat Loaf, wedi marw yn 74 oed, meddai ei deulu.

Roedd yn adnabyddus am ei ganeuon fel Bat Out Of Hell, a hefyd wedi ymddangos yn y ffilm The Rocky Horror Picture Show yn 1975.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu bod y canwr wedi marw gyda’i wraig Deborah wrth ei ochr. Roedd ei ferched Pearl ac Amanda a ffrindiau agos wedi bod gydag o yn ystod ei oriau olaf.

Roedd wedi cael gyrfa dros chwe degawd ac wedi gwerthu 100 miliwn albwm dros y byd ac wedi ymddangos mewn mwy na 65 o ffilmiau gan gynnwys Fight Club, Focus, a Wayne’s World.

Ei enw iawn oedd Michael Lee Aday ac roedd ei sengl I’d Do Anything For Love (But I Won’t Do That)  wedi cyrraedd rhif un mewn 28 gwlad ac fe enillodd wobr Grammy am y gan.

Roedd Meat Loaf wedi siarad yn agored am ei broblemau iechyd gan gynnwys asthma, a achosodd iddo lewygu ar lwyfan yn ystod cyngerdd yn Pittsburgh yn 2011 ac yn Arena Wembley yn Llundain yn 2003.

Y gantores o Gymru, Bonnie Tyler, yn talu teyrnged i Meat Loaf

Fe fu’r ddau yn cydweithio ar yr albwm Heaven & Hell, oedd yn gyfuniad o ganeuon y ddau