Mae Llenyddiaeth Cymru wedi dechrau chwilio am Fardd Cenedlaethol nesaf Cymru drwy lansio galwad am enwebiadau.
Mae gwahoddiad i feirdd enwebu eu hunain, a gall unigolion, sefydliadau, grwpiau ac elusennau enwebu eu hoff fardd ar gyfer y rôl.
Dyma’r tro cyntaf i Fardd Plant Cymru gael ei benodi drwy alwad gyhoeddus am enwebiadau, ac mae Llenyddiaeth Cymru’n pwysleisio bod potensial beirdd yn bwysicach na’u profiad.
Bydd cyfnod Ifor ap Glyn yn Fardd Cenedlaethol Cymru’n dod i ben ym mis Mai, a bydd yn trosglwyddo’r awenau i bumed Bardd Cenedlaethol Cymru.
Cafodd y prosiect ei sefydlu gan Lenyddiaeth Cymru yn 2005, ac mae’n cyflwyno barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd ac yn annog pobol i ddefnyddio barddoniaeth i ysbrydoli newid cadarnhaol.
Gan gynrychioli diwylliannau ac ieithoedd amrywiol Cymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol, bydd Bardd Cenedlaethol Cymru yn sefyll dros hawliau creadigol ac yn atgyfnerthu’r neges fod llenyddiaeth yn perthyn i bawb.
Yn ogystal, byddan nhw’n rhoi llwyfan barddol i faterion cyfoes sydd o bwys, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, cynrychiolaeth, ac iechyd a llesiant.
‘Uno’
Dywed Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, fod beirdd ledled y byd yn “chwarae rhan bwysig ym mywydau pobol”, ac yn aml yn cael gwahoddiad i ddarllen eu gwaith i nodi digwyddiadau cenedlaethol arwyddocaol, i ddathlu ac i alaru.
“Mewn cyfnod o ansicrwydd a rhwygau byd-eang, mae barddoniaeth yn ein huno ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r byd,” meddai.
“Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn Fardd Cenedlaethol rhagorol i Gymru, a mawr yw ein diolch iddo am ei holl waith.
“Llongyfarchiadau gwresog iddo ar ei holl lwyddiannau, ac am wireddu ei weledigaeth uchelgeisiol.
“Wrth i ni gychwyn ar bennod nesaf y prosiect arbennig hwn, edrychwn ymlaen at groesawu Bardd Cenedlaethol newydd i’r rôl i’n cynorthwyo ninnau i wireddu ein gweledigaeth ein hunain o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau.”
‘Pwysigrwydd’ iaith
Ers dechrau ar ei rôl yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2016, mae Ifor ap Glyn wedi teithio’r byd.
Mae ei farddoniaeth wedi ymddangos ar drafnidiaeth gyhoeddus ym Mrwsel a’i daflunio ar ochr Big Ben yn Llundain, a chafodd ei gomisiynu i lunio cerddi a rhyddiaith i nodi achlysuron megis 50 mlynedd ers trychineb Aberfan, Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019, ac 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.
Bu hefyd yn ysgrifennu am nifer o achosion cymdeithasol, penblwyddi arbennig a llwyddiannau’r tîm pêl-droed.
Dywed Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, fod Ifor ap Glyn, fel Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi’n helpu ni i wneud synnwyr o’r byd.
“Rydyn ni’n wlad lle mae geiriau a thelynegiaeth yn mynd law yn llaw ac mae rôl Bardd Cenedlaethol Cymru yn dyst i’r pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi ar iaith,” meddai Mark Drakeford.
“Boed ar y dudalen neu ar y llwyfan, bu Ifor ap Glyn yn ein gwefreiddio a’n hysbrydoli drwy ei rôl, ond hefyd yn ymateb i’r byd o’n cwmpas a’i adlewyrchu, gan ein helpu i wneud synnwyr ohono.”
Mae modd enwebu bardd drwy lenwi ffurflen ar wefan Llenyddiaeth Cymru, a bydd hi’n bosib cyflwyno enwebiadau tan Fawrth 14, 2022.