Fis Mawrth y llynedd, fe fu golwg yn siarad â’r actores Morfydd Clark o Benarth, wrth iddi weithio yn Seland Newydd.

Roedd hi newydd gael enwebiad ar gyfer gwobr y BAFTA Rising Star Award am ei rhan yn y ffilm St. Maud, ac yn gweithio ar ei phrosiect cudd nesaf nad oedd modd datgelu’r holl fanylion ar y pryd.

Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach mai’r gyfres The Lord of the Rings newydd oedd y prosiect dan sylw, a’r sôn oedd y byddai hi’n chwarae Galadriel, cymeriad a ddaeth yn adnabyddus diolch i’r actores Cate Blanchett yn y gorffennol.

Bellach, mae trêl y gyfres newydd fel pe bai’n cadarnhau rôl Morfydd, wrth i’r Gymraes Gymraeg leisio’r fideo sydd wedi ymddangos ar lwyfannau Amazon.

Naw mis yn ôl, wrth siarad â golwg, roedd hi’n ystyried pa mor ffodus oedd hi fel actores o gael teithio’r byd, a pha mor wahanol oedd ei bywyd hi o gymharu â bywyd yma yng Nghymru yng nghanol cyfyngiadau Covid-19.

Ar y pryd, Seland Newydd oedd un o’r ychydig wledydd yn y byd lle’r oedd Covid-19 dan reolaeth a phrin oedd y cyfyngiadau.

“Mae wedi bod yn od i wneud synnwyr o hwnna yn fy mhen i, achos ti’n gwybod fod bywydau pawb gartre’ yn rili anodd,” meddai.

“Ond hefyd, mae yna gymaint o ffrindiau fi wedi bod efo gwaith ar gau…”

Teithio’r byd

Roedd hi wedi bod yn Auckland ers dechrau’r cyfnod clo, ryw 11,000 o filltiroedd i ffwrdd o Benarth lle cafodd ei magu – ond nid yn ddaearyddol yn unig y mae hi wedi mynd yn bell dros y blynyddoedd diwethaf.

Gyda’i mam yn hanu o Fôn, cafodd y Gymraes ei geni yn Sweden a’i haddysgu yn Ysgol Bro Morgannwg ac yn Ysgol Kings Monkton yng Nghaerdydd.

Cafodd hi ei henwebu ar gyfer gwobr fawr ‘BAFTA Rising Star Award’ am ei pherfformiad yn Saint Maud, ffilm sydd eisoes wedi cael adolygiadau arbennig, a hithau’n actio’r brif ran am y tro cyntaf.

Aeth Morfydd benben â Bukky Bakray, Conrad Khan, Kingsley Ben-Adir a Sopé Dìrísù, gan ddilyn yn ôl traed actorion blaenllaw fel Kristen Stewart, Letitia Wright, Daniel Kaluuya, James McAvoy, Shia LaBoeuf, John Boyega a Tom Hardy sydd i gyd wedi cael gyrfa lwyddiannus ers ennill y wobr a gafodd ei sefydlu yn 2006.

Caiff Saint Maud ei disgrifio fel stori arswyd seicolegol, crefyddol ac fel melodrama, yn adrodd hanes ‘Katie’, cymeriad Morfydd Clark, sy’n aflonydd ac yn aflonyddu.

Rings of Power

Fel Cymraes, dydy Morfydd Clark ddim heb gwmni Cymreig yn y gyfres chwaith, gyda Trystan Gravelle ac Owain Arthur hefyd ymhlith y cast ar gyfer The Lord of the Rings: Rings of Power, ochr yn ochr â Lloyd Owen, un o Gymry Llundain.

Mae’n debyg bod aelod arall o’r criw hefyd yn siarad Cymraeg.

Mae disgwyl i’r gyfres wyth pennod gael ei darlledu fis Medi eleni, a’r gobaith yw y bydd sawl cyfres dros y blynyddoedd i ddod.

 

Darllenwch ragor:

Y Gymraes sy’n dringo tua’r sêr

Alun Rhys Chivers

Mae Morfydd Clark yn y ras am wobr fawreddog BAFTA sydd wedi ei hennill gan actorion adnabyddus megis Kristen Stewart, James McAvoy a Tom Hardy

Actorion o Gymru ymhlith yr enwebeion ar gyfer prif wobrau BAFTA

Morfydd Clark wedi’i henwebu ar gyfer gwobr ‘Rising Star’, ac Anthony Hopkins ymhlith yr enwebeion am wobr y prif actor