Bydd Beca Lyne-Pirkis, y cogydd o Gaerdydd, yn ymuno â thîm FFIT Cymru ar gyfer y gyfres eleni.
Daw hyn ar ôl i’r dietegydd Sioned Quirke benderfynu gadael y sioe ar ôl ymddangos yn y gyfres ers pedair blynedd.
Bydd Beca yn cymryd ei lle fel arbenigwr ar fwyd, gan ddarparu cyngor ac ambell i rysáit i arweinwyr y bumed gyfres, a fydd yn cael ei darlledu o fis Ebrill.
Mae hi’n fwyaf adnabyddus am gyrraedd rownd gynderfynol The Great British Bake Off yn 2013, ac ers hynny, mae hi wedi ysgrifennu a chyflwyno rhaglenni am goginio, gan gynnwys Becws a Parti Bwyd Beca ar S4C.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae hi wedi penderfynu arbenigo ymhellach ar fwyd, gan astudio maetheg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a hyfforddi gyda’r gwasanaeth iechyd.
O glorian i glorian
Dywed arweinydd newydd FFIT Cymru ei bod hi’n “methu aros i gychwyn.”
“Fi wedi gwylio’r gyfres ers y cychwyn,” meddai Beca Lyne-Pirkis.
“Fi wedi nabod sawl un o’r cyn-arweinwyr, a gweld yr effaith bositif mae’r gyfres wedi cael arnyn nhw.”
Mae Beca hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau dygnwch yn ei hamser sbâr, ac mae hi wedi cwblhau saith marathon ac un ultra-marathon hyd yn hyn.
“Mae bwyd yn rhan hanfodol o be allai roi cyngor arno fe fel arbenigwr ond hefyd, dw i’n fam, dw i’n wraig, dw i’n gweithio, dw i’n berson sy’n caru ymarfer corff ac sy’n mwynhau hyfforddi ar gyfer sawl ras a sialensiau gwahanol,” ychwanegodd.
“Rydyn ni fel arbenigwyr yn rhannu ein profiadau personol ni i helpu dylanwadu a dangos y ffordd.
“Dw i’n fam brysur ac weithiau mae’n anodd cael cydbwysedd, ond gallai brofi os ydych chi’n cynllunio a bod yn drefnus, does dim rheswm na allech chi fod yn llwyddiannus.”
‘Eisiau ysbrydoli’
Yn rhan o’r gyfres newydd, bydd Beca yn creu ryseitiau i’r arweinwyr, a bydd modd ei dilyn ar wefan FFIT Cymru.
“Fel rhywun sy’n astudio i fod yn ddietegydd ac sydd hefo diddordeb mawr mewn maetheg a choginio, mae’r cyfle i fod yn rhan o’r tîm, creu ryseitiau a cheisio ysbrydoli’r arweinwyr gyda bwyd, yn un ffantastig,” meddai.
“Ein swydd ni yn bennaf yw ceisio dod a’r cydbwysedd nôl ym mywydau’r arweinwyr.
“Yn amlwg, mae pobol yn fy adnabod i am Bake Off, a dwi’n pobi a bwyta cacennau achos bod o’n rhywbeth dw i’n mwynhau gwneud.
“Dyw cacen ddim yn rhywbeth ddylech chi fod yn ofnus ohono! Ddylai neb deimlo’n euog am fwyta rhywbeth a pheidio mwynhau e, ond dyw e ddim yn rhywbeth ddylech chi fwyta drwy’r adeg chwaith.
“Fi jyst eisiau cael yr arweinwyr i ddeall bwyd ychydig yn well, a gweld sut mae rhoi cymaint o bethau da yn eich corff yn gallu helpu eich iechyd.
“Dw i hefyd eisiau ysbrydoli hefo ryseitiau a syniadau gwahanol, i ddod â’r excitement yna nôl fewn i goginio a bwyta.
“Mae lot o gynlluniau cyffrous gen i a lot o waith o fy mlaen! Mae gyda fi gwpwl o syniadau ar y gweill!”
Bydd Beca yn ymuno â thîm arbenigol sy’n cynnwys y seicolegydd Dr Ioan Rees a’r hyfforddwr personol Rae Carpenter.
I’r rheiny sy’n dymuno cymryd rhan yn y gyfres nesaf, y dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer FFIT Cymru 2022 yw dydd Sul, Chwefror 6.