Mae prisiau tai sengl yng Nghymru wedi codi mwy na phrisiau mewn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig ers dechrau’r pandemig.

Yn ôl ystadegau Halifax, mae pris tŷ sengl wedi cynyddu 24.4% ar gyfartaledd yng Nghymru ers mis Mawrth 2020.

Mae sawl arolwg diweddar yn dangos bod prisiau tai yng Nghymru yn parhau i godi, yn aml yn uwch na gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi adleisio’r alwad i ddatrys yr argyfwng.

Dros y Deyrnas Unedig, cynyddodd pris tŷ sengl dros £60,000 ar gyfartaledd.

Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd prisiau fflatiau £13,325, tai pâr £36,841 a chynyddodd prisiau tai teras £27,715.

Mae’r canfyddiadau’n dangos sut mae’r gwahaniaethau mewn prisiau rhwng gwahanol fathau o dai wedi ehangu ers dechrau’r pandemig, gan ei gwneud hi’n anoddach i bobol symud i dai mwy, meddai Halifax.

Mae Halifax yn amcangyfrif y gallai perchnogion fflatiau yn y Deyrnas Unedig ddisgwyl gwario £54,806 ar symud i dŷ teras erbyn hyn, o gymharu â £40,416 ym mis Mawrth 2020.

Byddai’r rhai sydd am symud o dŷ teras i dŷ pâr angen £66,292 ychwanegol nawr, o gymharu â £57,166 cyn y pandemig.

Ar gyfer prynwyr fyddai’n gobeithio symud o dŷ pâr i dŷ sengl, byddai angen £145,087 ychwanegol, sydd bron i £24,000 yn uwch na’r gwahaniaeth ym mis Mawrth 2020.

‘Y twf cryfaf mewn tai sengl’

“Mae’r nifer uchaf erioed o bobol wedi symud drwy gydol y pandemig, gyda’r galw am dai sengl nawr yn uwch nag ar gyfer unrhyw fath arall o eiddo, gan olygu bod y gystadleuaeth ar gyfer y rhai sy’n chwilio am eiddo sy’n aml yn fwy yn chwyrn,” meddai Russell Galley, rheolwr gyfarwyddwr Halifax.

“Wrth i gyflogwyr ddechrau ffurfio cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer gweithio o gartref neu weithio hybrid, mae prynwyr wedi gallu ystyried prynu cartrefi ymhellach o’u gwaith gan nad oes angen teithio i’r gwaith, gyda thai oedd yn arfer cael eu hystyried yn rhy anghysbell nawr yn cynnig elfennau ychwanegol, megis swyddfeydd, i deuluoedd.

“Mae’r tueddiad hwn yn golygu bod Cymru, gyda’i chefn gwlad hardd a phrisiau cymharol is, wedi gweld y twf cryfaf mewn tai sengl dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

 

“Arloesi lleol” ar Ynys Môn er mwyn helpu i ddatrys yr argyfwng tai

Adnewyddu adeiladau gwag a llunio Siarter Dai Ynys Môn ymhlith y syniadau gafodd eu crybwyll mewn gweithdai gafodd eu trefnu gan Fenter Môn

Prisiau tai’n parhau i godi: “Mae ein cymunedau’n dioddef,” medd Mabon ap Gwynfor

“Mae angen i gartrefi fod yn fforddiadwy eto i bobol ym mhob rhan o Gymru,” medd yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd